English icon English

“Angen gwarchod eich adar nawr, rhag eu colli i ffliw adar" – Prif Swyddog Milfeddygol Cymru

“Protect your flocks now, to avoid losing them to avian flu” – Wales’ Chief Vet

 

Mae angen i geidwaid dofednod gymryd camau nawr i sicrhau bod ganddynt fesurau bioddiogelwch ar waith i warchod eu hadar, neu fod mewn perygl o golli eu heidiau i ffliw adar, meddai Prif Swyddog Milfeddygol Cymru, Christianne Glossop, heddiw.

Mae'r rhybudd wedi dod wrth i'r DU gyfan wynebu ei thymor ffliw adar mwyaf sylweddol erioed.  Mae dros 50 o achosion wedi'u cofnodi hyd yma mewn adar a gedwir, gyda thri yng Nghymru.  

Cyflwynwyd mesurau newydd ynghylch lletya adar fis diwethaf i atal y clefyd rhag lledaenu, sy'n golygu bod gofyniad cyfreithiol i geidwaid gadw adar dan do a dilyn mesurau bioddiogelwch.* 

Gall adar gwyllt a bywyd gwyllt arall ledaenu'r clefyd felly mae'n hanfodol peidio â chaniatáu i adar gwyllt gymysgu ag ieir, hwyaid, gwyddau neu adar eraill.

Gall pobl hefyd ledaenu'r clefyd ar eu dillad a'u hesgidiau, felly cyn mynd i fannau caeedig lle cedwir adar dylech olchi eich dwylo, a newid neu lanhau a diheintio eich esgidiau.

Er bod prif ffynhonnell yr haint yn dod oddi wrth adar gwyllt mudol, mae'r rhai sy'n methu â rhoi’r mesurau hyn ar waith mewn perygl o heintio eu hadar eu hunain drwy fynd â’r feirws ar droed i'w daliadau.

Mae'r risg i iechyd pobl o'r straen hwn o'r feirws ffliw adar yn isel iawn.  Mae'n ddiogel bwyta cig dofednod ac wyau yn ôl yr arfer. 

Dywedodd Prif Swyddog Milfeddygol Cymru, Christianne Glossop: “Ar hyn o bryd rydym yn gweld lefelau digynsail o ffliw adar ledled y DU, ac mae'n rhaid i geidwaid adar sicrhau eu bod yn gweithredu'r lefelau uchaf o fioddiogelwch i ddiogelu eu heidiau.  Mae hyn yn berthnasol p'un a oes gennych un aderyn neu haid fawr.

“Dilyn mesurau bioddiogelwch ardderchog yw'r peth gorau y gallwch ei wneud i warchod eich adar rhag y clefyd hwn.  Hebddynt bydd eich heidiau mewn perygl.

“Mae achosion o ffliw adar mewn haid yn brofiad ysgubol.  Sicrhewch eich bod yn diogelu eich adar ac yn cyfyngu ar ledaeniad y clefyd.”

Rhaid i geidwaid dofednod wneud y canlynol:

  • cadw dofednod ac adar caeth dan do neu eu rhwydo i'w cadw ar wahân i adar gwyllt;
  • glanhau a diheintio dillad, cyfarpar a cherbydau cyn ac ar ôl bod mewn cysylltiad â dofednod ac adar caeth – os yw'n ymarferol, defnyddiwch ddillad diogelu untro;
  • lle bo'n bosibl, dylid newid esgidiau cyn mynd i mewn i siediau sy'n cynnwys dofednod ac adar caeth. Os nad yw hynny’n bosibl, yna dylid sicrhau eu bod yn cael eu glanhau a'u diheintio'n drylwyr;
  • lleihau symudiad pobl, cerbydau neu gyfarpar i ardaloedd lle cedwir dofednod ac adar caeth, i leihau halogiad o dail, slyri a chynhyrchion eraill, a defnyddio dulliau rheoli fermin effeithiol;
  • glanhau a diheintio cytiau/siediau yn drylwyr ac yn barhaus;
  • cadw diheintydd ffres ar y crynodiad cywir ym mhob mynedfa ac allanfa ar gyfer cytiau/siediau fferm a dofednod;
  • lleihau cyswllt uniongyrchol ac anuniongyrchol rhwng dofednod ac adar caeth ac adar gwyllt, gan gynnwys sicrhau nad yw adar gwyllt yn gallu cyrraedd at yr holl fwyd a dŵr.

Rydym yn annog pob ceidwad i gofrestru eu hadar ar y Gofrestr Dofednod. Mae hwn yn ofyniad cyfreithiol os oes gennych 50 o adar neu fwy. Mae cofrestru gyda ni yn golygu y byddwn yn gallu cysylltu â chi gyda gwybodaeth neu gamau gofynnol os bydd achos yn digwydd yn eich ardal chi.

Peidiwch â chyffwrdd na chodi unrhyw adar marw neu sâl y dewch o hyd iddynt. Os ydych yn dod o hyd i elyrch, gwyddau neu hwyaid marw neu adar gwyllt marw eraill, fel gwylanod neu adar ysglyfaethus, dylech roi gwybod amdanynt ar linell gymorth DEFRA ar 03459 33 55 77.

I gael rhagor o wybodaeth am sut i gofrestru ar y Gofrestr Dofednod ac i gael yr wybodaeth ddiweddaraf am ffliw adar ewch i: www.llyw.cymru/ffliw-adar

Ffoniwch 0300 303 8268 i roi gwybod os ydych chi’n amau bod achos o’r clefyd yng Nghymru.

* Dolen i'r Mesurau Lletya: : Parth Atal Ffliw Adar Cymru gyfan | LLYW.CYMRU