- Cwcis sydd wir eu hangen
Cwcis sydd wir eu hangen
Mae rhai o’n cwcis yn hanfodol ac ni fydd rhannau o’r safle’n gweithio hebddynt. Mae hyn yn cynnwys cofnodi eich dewisiadau cadw cwcis.
12 Ion 2022
Mae Trafnidiaeth Cymru yn parhau i symud ymlaen gydag adeiladu Metro De Cymru a chafodd gwaith mawr ei wneud dros y Nadolig.
O 24 Rhagfyr tan oriau mân y 7fed o Ionawr roedd y rheilffordd ar gau rhwng Pontypridd a Merthyr Tudful ac Aberdâr. Caniataodd y cau hwn i TrC a’i bartneriaid weithio bob awr o’r dydd ar waith seilwaith allweddol gan gynnwys cael gwared ar bont droed y Diafol, gosod dros 63,000 metr o gebl ffibr optig ar gyfer uwchraddio offer signalau a thros 100 o dyllau dros-dro a chymysgedd o sylfeini yn barod ar gyfer trydaneiddio'r llinell.
Mae'r trawsnewid Linellau Craidd y Cymoedd ar gyfer y Metro wedi'i ariannu'n rhannol gan Gronfa Datblygu Ranbarthol Ewrop trwy Lywodraeth Cymru, a bydd yn galluogi gwasanaethau cyflymach ac amlach rhwng Caerdydd a blaenau'r cymoedd.
Llwyddodd timau ar lawr gwlad hefyd i osod 150 metr o drac yn llwyddiannus gan gynnwys 5 panel switsio a chroesi.
Dywedodd Karl Gilmore, Cyfarwyddwr Seilwaith Rheilffyrdd TrC:
“Fe wnaethon ni gwblhau cyfnod cau arall yn ddiogel ac yn llwyddiannus ar Reilffyrdd Craidd y Cymoedd, sy’n golygu cam arall ymlaen yn y gwaith o gyflawni Metro De Cymru i bobl Cymru.
“Roeddem yn gallu gwneud gwaith seilwaith allweddol er mwyn ein galluogi i drydaneiddio’r lein a’i pharatoi ar gyfer rhedeg trenau tram newydd sbon arni yn y blynyddoedd i ddod.
“Bu ein timau a’n partneriaid yn gweithio’n barhaus dros wyliau’r Nadolig er mwyn tarfu cyn lleied â phosibl ar y cyhoedd oedd yn teithio. “Hoffwn ddiolch i’n timau a’n partneriaid am eu hymroddiad a’u gwaith caled mewn tywydd eithaf gwael a hefyd i’r cyhoedd sy’n teithio a’n cymdogion ar ochr y llinell am eu dealltwriaeth a’u cefnogaeth barhaus.