English icon English

Gweinidogion Cyllid yn galw am hyblygrwydd gyda chyllid COVID

Finance Ministers call for Covid funding flexibility

Heddiw, ar ôl iddynt gyfarfod â Phrif Ysgrifennydd y Trysorlys, mae Gweinidogion Cyllid Cymru, yr Alban a Gogledd Iwerddon wedi galw ar y cyd i’r Trysorlys roi sicrwydd y bydd yr arian sy’n cael ei neilltuo i gefnogi’r ymateb i COVID yn cael ei ddarparu'n llawn.

Maen nhw hefyd yn galw am weithredu i fynd i’r afael â’r argyfwng costau byw ac i helpu cartrefi gyda biliau sy’n codi.

Fis diwethaf, o ganlyniad i wariant yn Lloegr, cyhoeddodd y Trysorlys y byddai’n darparu rhagor o gyllid i fynd i'r afael â COVID. Cafodd £270m ei roi i Lywodraeth Cymru, £440m i Lywodraeth yr Alban, a £150m i Weithrediaeth Gogledd Iwerddon. Mae’r Llywodraethau Datganoledig yn poeni efallai na fyddant yn cael caniatâd i gario unrhyw daliadau canlyniadol hwyr ymlaen i gyllidebau’r flwyddyn nesaf – er gwaetha’r ffaith bod yr hyblygrwydd hwn wedi’i ddarparu yn 2021/22.

Mae'r Gweinidogion Cyllid hefyd wedi ailadrodd yr alwad y dylai'r Trysorlys ddarparu cymorth i Gymru, yr Alban a Gogledd Iwerddon os bydd y sefyllfa iechyd y cyhoedd ym mhob gwlad yn galw am hyn, ac nid dim ond pan fydd y cymorth yn cael ei gynnig yn Lloegr.             

Maen nhw’n galw hefyd ar y Trysorlys i wneud mwy i gefnogi cartrefi sy’n wynebu argyfwng costau byw. Ym mis Hydref, tynnodd Llywodraeth y DU y cynnydd o £20 yr wythnos mewn Credyd Cynhwysol yn ôl – toriad yr oedd pob un o’r tair gwlad ddatganoledig yn ei wrthwynebu. Y mis diwethaf, daeth cadarnhad bod chwyddiant wedi codi i 5.1% – y gyfradd uchaf mewn degawd – gyda’r cynnydd ym mhrisiau bwyd, trafnidiaeth a dillad yn cyfrannu at filiau cartref uwch. Gan Lywodraeth y DU y mae’r pŵer yn bennaf i helpu cartrefi i dalu costau byw, ac mae Gweinidogion Cyllid y tair gwlad ddatganoledig yn galw ar y Trysorlys i wneud mwy ac i roi rhagor o gymorth i gartrefi.

Dywedodd Rebecca Evans, Gweinidog Cyllid Llywodraeth Cymru:

"Rydym am weld y Trysorlys yn cymryd camau brys i helpu pobl sy’n wynebu biliau a chostau byw cynyddol. Mae prisiau ynni domestig yn peri pryder yn benodol ar hyn o bryd, gyda mwy a mwy o bobl yn byw mewn tlodi tanwydd. Y gaeaf hwn, cafodd £51m ei fuddsoddi gan Lywodraeth Cymru yn ein Cronfa Cymorth i Gartrefi i helpu cartrefi. Ond, yn nwylo Llywodraeth y DU y mae'r rhan fwyaf o'r pwerau a'r adnoddau cyllidol sydd eu hangen i fynd i'r afael â’r argyfwng costau byw. Mae'n rhaid i'r Trysorlys wneud mwy. Byddai cymorth ychwanegol drwy gynlluniau wedi’u targedu ar gyfer y DU gyfan fel y Gostyngiad Cartrefi Clyd a thaliadau tanwydd gaeaf eraill yn ysgafnhau’r baich ar gartrefi sy’n ei chael hi’n anodd cael dau ben llinyn ynghyd.

Mae angen i’r trefniadau ar gyfer cyllid COVID newid hefyd. Fis diwethaf, wrth i'r amrywiolyn Omicron ddechrau gafael, oedodd y Trysorlys cyn rhoi cyllid i Gymru i ymateb i'r heriau. Pan gafwyd cyllid, chawson ni ddim sicrwydd o gwbl na fyddai angen ei ddychwelyd. Rhaid i'r Trysorlys gydnabod pwysigrwydd cefnogi’r gwledydd datganoledig yn llawn i helpu i ddiogelu ein busnesau a diogelu ein pobl."

Dywedodd Kate Forbes, Ysgrifennydd Cabinet Llywodraeth yr Alban dros Gyllid a'r Economi:

"Rwy'n croesawu'r drafodaeth heddiw a'r dull adeiladol a fabwysiadwyd gan bawb.

"Fodd bynnag, ynghyd â'r gweinyddiaethau datganoledig eraill, mae Llywodraeth yr Alban yn parhau i fod yn bryderus y gallai swm y cyllid ychwanegol rydym wedi’i gael er mwyn lliniaru effaith yr amrywiolyn Omicron gael ei leihau yn y dyfodol. Heb y gallu i fenthyca, gallai'r ansicrwydd parhaus gael effaith niweidiol sylweddol ar ein hymateb i COVID a gallai hefyd effeithio ar ein gallu i gefnogi gwasanaethau cyhoeddus yn yr Alban.

"Yn fwy sylfaenol, mae'r sefyllfa'n amlygu unwaith eto nad oes modd cyfiawnhau mai dim ond ar sail penderfyniadau iechyd y cyhoedd yn Lloegr y bydd cyllid yn cael ei ryddhau. Mae angen system sy'n cefnogi penderfyniadau pob gweinyddiaeth ddatganoledig ac nad yw'n ddibynnol ar y penderfyniadau sy’n cael eu gwneud mewn un rhan o'r DU yn unig.

"Mae Llywodraeth yr Alban wedi nodi amryw o gamau gweithredu uchelgeisiol – o fewn ein hadnoddau cyfyngedig – i gefnogi cartrefi a lleihau anghydraddoldebau. Mae hyn yn cynnwys ein hymrwymiad i ddyblu’r cymorth a ddarperir o dan y cynllun hwnnw sydd wedi gwneud gwahaniaeth sylweddol, Taliadau Plant yr Alban, i £20 y plentyn yr wythnos. Ond rydym yn wynebu argyfwng costau byw ac mae'n rhaid i Lywodraeth y DU ymyrryd ar frys yn awr. Ym mis Hydref, er gwaethaf ein sylwadau ninnau, lleihaodd Llywodraeth y DU y cynnydd mewn Credyd Cynhwysol – cynnydd a oedd wir yn achubiaeth i rai."

Dywedodd Conor Murphy, Gweinidog Cyllid, Gweithrediaeth Gogledd Iwerddon:

"Wrth inni barhau i ddelio â'r heriau sy'n codi yn sgil Omicron, nid yw’r ansicrwydd ynghylch y cyllid COVID a ddarperir gan y Trysorlys yn helpu’r sefyllfa o gwbl. Mae hefyd yn peri pryder enfawr na fydd y Trysorlys yn caniatáu i gyllid gael ei gario i'r flwyddyn nesaf, hyd yn oed os caiff cyllid ychwanegol ei gadarnhau mor hwyr ei fod yn cael ei atal rhag cael ei ddefnyddio'n fwyaf effeithiol. Rydym wedi galw ar y Trysorlys i adfer y Cynllun Cymhorthdal Incwm Hunangyflogedig a'r cynllun ffyrlo ar sail wedi ei dargedu lle bo angen. Mae'n siomedig nad yw'r Trysorlys yn fodlon rhoi cymorth i weithwyr a'u teuluoedd. Byddem yn gofyn i'r Trysorlys ailystyried y sefyllfa ar frys.

"Mae’r argyfwng costau byw yn achosi caledi i deuluoedd ac i fusnesau. Rydw i wedi bod yn galw ar y Trysorlys i atal dros dro y TAW ar filiau ynni er mwyn rhoi rhywfaint o seibiant yn ystod cyfnod anodd y gaeaf. Mae'n bryd i'r Trysorlys weithredu nawr."