English icon English
Ty Enfy 1 (2)-2

Staff Gofal Cymdeithasol i ennill y Cyflog Byw Gwirioneddol

Social Care staff to earn the Real Living Wage

Mae'r Dirprwy Weinidog Gwasanaethau Cymdeithasol, Julie Morgan wedi cyhoeddi bod staff Gofal Cymdeithasol yn mynd i dderbyn y Cyflog Byw Gwirioneddol yng Nghymru fel rhan o becyn i gefnogi'r sector.

Fel un o'r addewidion allweddol yn y Rhaglen Lywodraethu, mae rhoi’r Cyflog Byw Gwirioneddol ar waith yn gam cyntaf tuag at godi cyflogau, ennyn parch a chydnabod staff am eu cyfraniad eithriadol yn ystod pandemig y coronafeirws.

Mae'r Cyflog Byw Gwirioneddol, sydd ar hyn o bryd yn £9.90 yr awr, yn cael ei gyfrifo'n annibynnol gan y Resolution Foundation ac yn cael ei oruchwylio gan y Comisiwn Cyflog Byw. Bydd y Cyflog Byw Gwirioneddol yn berthnasol i weithwyr cofrestredig mewn cartrefi gofal a gofal cartref ac yn y gwasanaethau i oedolion a phlant. Bydd y cynnydd yn berthnasol i Gynorthwywyr Personol sy'n darparu gofal a chymorth sy'n cael ei ariannu drwy daliad uniongyrchol.

Bydd Llywodraeth Cymru yn rhoi £43 miliwn i Awdurdodau Lleol a Byrddau Iechyd Cymru fel y gallant roi’r Cyflog Byw Gwirioneddol ar waith o fis Ebrill ymlaen; gyda’r budd i weithwyr yn dilyn yn ystod y misoedd canlynol.

Dywedodd y Dirprwy Weinidog Gwasanaethau Cymdeithasol, Julie Morgan:

"Mae gofal cymdeithasol yn wynebu pwysau sylweddol parhaus. Drwy gydol y pandemig rydym i gyd wedi gweld y cyfraniad hanfodol y mae gweithwyr gofal cymdeithasol wedi'i wneud ac yn parhau i'w wneud bob dydd i'n system iechyd a gofal cymdeithasol."

"Mae hwn yn gam cyntaf pwysig tuag at wella telerau ac amodau cyflogaeth y sector. Mae'n ymrwymiad hirdymor a bydd yn cymryd peth amser i'w roi ar waith. Bydd angen inni sicrhau ein bod yn gwneud hyn yn ofalus ac mewn ffordd nad yw'n ansefydlogi'r sector. Edrychaf ymlaen at weithio gyda'r holl randdeiliaid, y Fforwm Gwaith Teg Gofal Cymdeithasol, Undeb, awdurdodau lleol a darparwyr i fwrw ymlaen â hyn."

Dywedodd Prif Swyddog Gofal Cymdeithasol Cymru, Albert Heaney:

"Dylai pob gweithiwr gofal cymdeithasol deimlo eu bod yn cael eu gwerthfawrogi, eu gwobrwyo a'u parchu am y gwaith hanfodol maen nhw'n ei wneud a'r rôl werthfawr maen nhw'n ei chwarae yn ein cymunedau.

"Drwy gyflwyno'r Cyflog Byw Gwirioneddol a gweithio tuag at wella'r telerau ac amodau, rydym yn dechrau mynd i'r afael â rhai o'r heriau sy'n wynebu'r sector; yn arbennig recriwtio a chadw staff."