- Cwcis sydd wir eu hangen
Cwcis sydd wir eu hangen
Mae rhai o’n cwcis yn hanfodol ac ni fydd rhannau o’r safle’n gweithio hebddynt. Mae hyn yn cynnwys cofnodi eich dewisiadau cadw cwcis.
05 Ion 2022
Gofynnir i deithwyr rheilffordd wirio cyn teithio wrth i Drafnidiaeth Cymru ddiweddaru ei amserlen reilffordd frys o ddydd Llun 3 Ionawr.
Mae TrC a Network Rail wedi parhau i weld cynnydd sylweddol yn absenoldebau staff o ganlyniad i'r don ddiweddaraf hon o bandemig Covid-19 ac mae hyn wedi effeithio ar wasanaethau rheilffordd yn ystod yr wythnosau diwethaf.
O ganlyniad, cyhoeddodd TrC amserlen reilffordd frys ar 22 Rhagfyr, a oedd yn cyfateb i ostyngiad rhwng 10-15% o'r amserlen safonol a gyhoeddwyd ar 12 Rhagfyr. Fodd bynnag, gydag absenoldebau staff yn parhau i gynyddu, penderfynwyd lleihau gwasanaethau ymhellach er mwyn sicrhau y gall y cwmni ddarparu gwasanaeth dibynadwy trwy gydol y cam diweddaraf hwn o'r pandemig.
Mae'r amserlen newydd yn cyfateb i ostyngiad pellach o 10-15% o'r amserlen a gyflwynwyd ar 22 Rhagfyr, gyda ffocws ar rannau o'r rhwydwaith reilffyrdd yn dioddef o absenoldebau staff arbennig o uchel. Mae'r datblygiad hwn yn unol â gostyngiadau gwasanaeth yn cael eu cyflwyno gan weithredwyr eraill ar draws rhwydwaith rheilffyrdd Prydain gyfan.
Bydd yr amserlen newydd yn parhau i fod yn gyfredol dros yr wythnosau nesaf ac yn cael ei hadolygu'n rheolaidd wrth i'r diwydiant rheilffyrdd yng Nghymru fonitro'r effaith y mae'r amrywiad Omicron newydd hwn yn ei gael ar lefelau staffio.
Anogir pob cwsmer i ymweld â trc.cymru cyn teithio a dilyn canllawiau diweddaraf Llywodraeth Cymru.
Dywedodd Jan Chaudhry-Van de Velde, Rheolwr Gyfarwyddwr TfW Rail:
“Rydyn ni'n delio i raddau helaeth â'r don Omicron o heintiau Covid ac, fel llawer o sefydliadau gwasanaeth cyhoeddus, rydyn ni wedi gweld cynnydd mawr yn absenoldebau cydweithwyr dros yr wythnosau diwethaf.
“Mae'n hanfodol ein bod yn parhau i redeg gwasanaeth mor ddibynadwy â phosibl i'n cwsmeriaid ac felly rydym yn cyflwyno amserlen ddiwygiedig o 3 Ionawr, gan leihau'r risg o orfod canslo gwasanaethau ar fyr rybudd.
“Lle bynnag y gallwn, byddwn yn defnyddio unrhyw gerbydau ychwanegol sydd ar gael oherwydd yr amserlen lai i redeg trenau hirach, i gynorthwyo gyda phellter cymdeithasol. Byddwn hefyd yn darparu cludiant ychwanegol ar y ffyrdd hefyd, lle bo hynny'n bosibl.
“Rydym yn gwerthfawrogi y bydd hyn yn rhwystredig i rai cwsmeriaid, ac nid ydym wedi gwneud y penderfyniad hwn ar chwarae bach. Gofynnwn i bob cwsmer wirio ar-lein cyn teithio a dilyn cyngor cyfredol y llywodraeth. Ein nod yw adfer yr amserlen cyn gynted ag y bydd cyfraddau absenoldebau a achosir gan y don hon o'r pandemig yn caniatáu.”
Bydd cwsmeriaid sydd eisoes wedi prynu tocynnau ar gyfer gwasanaethau y mae'r newid hwn yn effeithio arnynt yn gallu defnyddio eu tocynnau ar wasanaethau rheilffordd TrC eraill. Fel arall, byddant yn gallu gofyn am ad-daliad trwy ymweld â trc.cymru.
Nodiadau i olygyddion
Bydd y llwybrau canlynol yn gweld gwasanaethau bws newydd yn disodli holl wasanaethau rheilffordd TrC:
- Llandudno-Blaenau Ffestiniog
- Caer-Lerpwl
- Casnewydd-Crosskeys
Bydd y llwybrau canlynol yn gweld nifer o wasanaethau rheilffordd TrC yn cael eu canslo trwy gydol y dydd:
- Treherbert-Caerdydd Canolog
- Pontypridd-Caerdydd
- Ynys y Barri-Caerdydd / Pen-y-bont ar Ogwr
- Penarth-Caerdydd-Rhymni
- Caerdydd-Canolog - Radur ar Linell y Ddinas
- Bae Caerdydd-Coryton
Cytunwyd y bydd Bws Caerdydd yn derbyn tocyn trên ar bob llwybr lleol i ategu at wasanaethau rheilffordd, a bydd Stagecoach De Cymru yn derbyn tocynnau trên hefyd ar lwybrau bysiau lleol 56 a 151.