- Cwcis sydd wir eu hangen
Cwcis sydd wir eu hangen
Mae rhai o’n cwcis yn hanfodol ac ni fydd rhannau o’r safle’n gweithio hebddynt. Mae hyn yn cynnwys cofnodi eich dewisiadau cadw cwcis.
13 Rhag 2021
O 10 Rhagfyr 2021, bydd Trafnidiaeth Cymru (TrC) yn noddi Tywydd ITV Cymru.
Byddwn yn defnyddio'r nawdd i gefnogi negeseuon iechyd cyhoeddus Llywodraeth Cymru ac i atgyfnerthu'r gofyniad i wisgo gorchudd wyneb ar drafnidiaeth gyhoeddus, yn unol â'n hymgyrch Teithio'n Saffach gyfredol.
Bydd yr ymgyrch yn dangos pobl yn gwisgo gorchuddion wyneb ar drafnidiaeth gyhoeddus gan y dywed ymchwil wrthym bod dangos pobl yn gwneud dewisiadau teithio positif er mwyn cadw eu hunain ac eraill yn ddiogel yn ffordd wych o annog eraill i newid eu hymddygiad.
Pan fydd canllawiau iechyd cyhoeddus Llywodraeth Cymru yn newid, byddwn yn canolbwyntio ar annog pobl i wneud dewisiadau teithio gwell, cynaliadwy gan ddefnyddio trafnidiaeth gyhoeddus. Yn bwysicach na dim, ac yn unol â'n cylch gwaith, bydd y nawdd hwn yn gwneud ei ran yn ein helpu i newid y ffordd y mae pobl yn meddwl ac yn defnyddio trafnidiaeth gyhoeddus.
Dyma hefyd y nawdd dwyieithog cyntaf ar ITV, gan ddangos arweinyddiaeth ac ymrwymiad TrC i'r Gymraeg.
Dywedodd Lewis Brencher, Cyfarwyddwr Cyfathrebu ac Ymgysylltu Trafnidiaeth Cymru: “Mae partneru gyda ITV ar gyfer y nawdd hwn yn gyffrous iawn gan y bydd llawer o bobl ledled Cymru yn ei weld a chan ystyried y sefyllfa iechyd gyhoeddus bresennol, rydyn ni'n pwysleisio bod yn rhaid i bobl wisgo gorchudd wyneb ar drafnidiaeth gyhoeddus, oni bai eu bod wedi'u heithrio er mwyn diogelu pob un ohonom. Yn y tymor hwy, mae'n gyfle gwych i ni gael pobl i feddwl am newid yn yr hinsawdd a'r ffaith y gall gadael y car gartref a defnyddio trafnidiaeth gyhoeddus gael effaith hynod gadarnhaol."