English icon English
Facebook Cover Photo

“Mae'n gwbl hanfodol i ddynion fel ni ddechrau herio ein hymddygiad sy'n gyfrifol am wneud i fenywod deimlo'n llai diogel.” – Nazir Afzal, cyn-Brif Erlynydd a Chynghorydd i Lywodraeth Cymru

“It is absolutely essential for us men to begin to question our behaviour which ultimately makes women feel less safe.” – Former Chief Prosecutor and Welsh Government Advisor, Nazir Afzal

Mae ymgyrch newydd sy'n galw ar y cyhoedd i herio rhagdybiaethau ynghylch aflonyddu ar fenywod - a ystyrir ar gam ei fod yn ‘ddiniwed’ yn aml - wedi cael ei lansio ledled Cymru.

Nod yr ymgyrch ‘Dim esgus’ yw tynnu sylw at sut y gellir bychanu gweithgareddau drwy ddechrau gyda'r geiriau ‘dim ond’, er enghraifft, “‘Dim ond’ chwibanu ati wnes i” neu “‘Dim ond’ rhoi slap fach ar ei phen-ôl wnes i”. Ond mae datganiadau o’r fath yn swnio'n waeth o lawer, ac yn fwy difrifol, o gael gwared ar y geiriau ‘dim ond’.  

Mae ystadegau diweddar yr ONS yn dangos bod dwy allan o bob tair menyw rhwng 16 a 34 oed wedi profi o leiaf un math o aflonyddu yn ystod y flwyddyn ddiwethaf, gyda 44% ohonynt wedi profi pobl yn hwtian neu'n chwibanu atynt, yn gwneud sylwadau rhywiol digroeso neu'n rhannu jôcs o'r fath. Roedd 29% yn teimlo bod rhywun yn eu dilyn.

Mae Llywodraeth Cymru yn awyddus i helpu i godi ymwybyddiaeth ymhlith gwahanol gymunedau Cymru am yr ymddygiadau sy'n gysylltiedig â gwahanol fathau o aflonyddu a'r teimladau y maent yn eu codi ar yr unigolion sy'n eu profi.

Mae'n galw ar bobl sy'n gweld ymddygiadau amhriodol o'r fath - dynion yn benodol - i'w herio pan fo'n ddiogel i wneud hynny,

Mae hyn yn cynnwys annog dynion i herio ymddygiadau camdriniol a rhywiaethol ymhlith eu ffrindiau a'u cyd-weithwyr mewn modd diogel - gan hybu diwylliant sy'n ystyriol o gydraddoldeb a pharch. Gellir gwneud hyn drwy wneud y canlynol:

  • Trefnu cwrdd â'r unigolyn dan sylw ar wahân i drafod yr hyn a ddwedwyd
  • Peidio â theimlo o dan bwysau i ymuno yn yr hwyl pan fydd sgyrsiau neu jôcs rhywiaethol yn cael eu rhannu
  • Gofyn cwestiynau megis ‘Beth ydych chi'n ei feddwl wrth hynny? Pam ydych chi'n meddwl fel 'na?’

Mae un o Gynghorwyr Cenedlaethol Llywodraeth Cymru ar drais yn erbyn menywod, sef y cyn-Brif Erlynydd Nazir Afzal, wedi sôn am y rhesymau pam mae'r negeseuon newydd hyn yn bwysig, a pham mae angen i ddynion weithredu. Dywedodd:

"Rydyn ni wedi treulio llawer o amser yn sôn am drais a throseddau rhywiol yn erbyn menywod a merched, ond yn aml mae pethau'n dechrau gyda rhywun yn gwneud sylwadau bach diniwed, a gydag ymddygiadau efallai nad ydyn ni wedi ystyried, fel dynion, eu bod yn gwneud i fenywod deimlo'n llai diogel o bosibl.

“Neges yr ymgyrch hon yw nad yw'n iawn i ddweud "Dim ond hyn roeddwn i'n ei feddwl" a "Dim ond hyn wnes i".  Mae'n gwbl hanfodol i ddynion fel ni ddechrau herio ein hymddygiad sy'n gyfrifol am wneud i fenywod deimlo'n llai diogel.

“Mae angen gwneud mwy na dweud "Dwi ddim yn i'n rhywiaethol", neu "Dwi ddim yn casáu menywod" yn unig. Mae angen ichi fod yn wrth-rywiaethol, mae angen ichi weithio yn erbyn casineb at fenywod, am ein bod ni'n gyfrifol am greu'r amgylchedd sy'n ei gwneud yn bosibl i ymddygiadau mwy difrifol ddigwydd. Meddyliwch am effeithiau'r hyn rydych chi'n ei wneud a rhowch derfyn arno.”

Yn gynharach eleni, yn dilyn nifer o achosion erchyll o drais yn erbyn menywod yn y DU, roedd tîm Clwb Rygbi Cydweli o dan 15 oed am gymryd camau rhagweithiol o ran atal trais yn erbyn menywod. Penderfynodd y clwb ifanc o Sir Gaerfyrddin ofyn i'r cyhoedd beth y gallent ei wneud i gael dylanwad cadarnhaol ar y dynion ifanc yn yr ardal - gan ennyn canmoliaeth eang ar y cyfryngau cymdeithasol.

Eglurodd Julian Lloyd, rheolwr y tîm, y rhesymau pam y bydd y bechgyn hefyd yn cefnogi'r ymgyrch ‘Dim esgus’. Dywedodd:

"Rydyn ni am annog ein bechgyn i herio casineb at fenywod pan fyddan nhw'n ei weld, a rhoi terfyn arno cyn iddo fynd yn waeth. Rydyn ni am greu carfan o ddynion ifanc sy'n dosturiol, yn gadarn ag yn wydn - dynion ifanc sy'n gryf o blaid y menywod yn eu bywydau."

Gan weithio gydag amrywiaeth o sefydliadau i lunio'r negeseuon pendant newydd hyn, mae'r ymgyrch yn adlewyrchu'r dystiolaeth sy'n dangos bod y rhan fwyaf o'r bobl sy'n profi aflonyddu rhywiol yn fenywaidd, a bod y rhan fwyaf o bobl sy'n ei gyflawni yn wrywaidd.

Dywedodd Jane Hutt, y Gweinidog Cyfiawnder Cymdeithasol:

“Ni fydd Cymru yn goddef aflonyddu rhywiol, stelcio na chamdriniaeth.

“Mae'r ymgyrch newydd hon yn bendant iawn ac yn heriol iawn, yn fwriadol, am y rheswm syml fod angen herio pob un o'r ymddygiadau hyn yn uniongyrchol. Nid yw'r un o'r ymddygiadau hyn yn dderbyniol, nid yw'r un ohonynt yn iawn. Dim ond unwaith y bydd rhai ohonynt yn digwydd, ond gydag eraill, gall pethau waethygu.

“Rydyn ni'n clywed y geiriau ‘dim ond’ yn cael eu defnyddio yn aml i esgusodi ymddygiadau amhriodol. Mae dynion yn eu defnyddio er mwyn cyfiawnhau'r hyn y maent yn ei wneud. Mae pobl yn eu defnyddio i ddiystyru'r ofnau dilys sydd gan fenywod. Drwy'r ymgyrch hon, rydyn ni am ddangos yr hyn sy'n gallu deillio o'r meddylfryd hwn. Dyna pam mae angen i ddynion herio eu hymddygiadau eu hunain a, pan fo'n ddiogel i wneud hynny, ymddygiadau ei gilydd hefyd.”

Crëwyd yr ymgyrch yn sgil nifer o ymrwymiadau a nodwyd gan Lywodraeth Cymru yn ei Rhaglen Lywodraethu a'r Strategaeth Genedlaethol Trais yn erbyn Menywod, Cam-drin Domestig a Thrais Rhywiol. Cynhelir ymgynghoriad ar y Strategaeth hon tan 1 Chwefror 2022.