English icon English

£1m i helpu Undebau Credyd i gefnogi unigolion mewn angen yn ystod yr argyfwng coronafeirws.

£1m to help Credit Unions support those in need during the coronavirus crisis.

Bydd cyllid ychwanegol o hyd at £1m yn cael ei fuddsoddi mewn Undebau Credyd i sicrhau eu bod yn gallu darparu mynediad at gredyd teg a fforddiadwy i bobl sydd wedi’u heffeithio gan bandemig y coronafeirws, cyhoeddodd Hannah Blythyn, y Dirprwy Weinidog Tai a Llywodraeth Leol heddiw.

Nod y cyllid yw sicrhau bod pawb sydd angen credyd yn gallu cael gafael ar wasanaethau ariannol fforddiadwy gan undebau credyd.

Yn ystod y cyfnod o gyfyngiadau, gwelodd undebau credyd, fel y rhan fwyaf o ddarparwyr gwasanaethau ariannol, fod nifer y ceisiadau am fenthyciadau wedi gostwng. Er bod ceisiadau am fenthyciadau bellach yn dechrau dychwelyd i’r lefelau arferol, bydd y gostyngiad yn cael effaith ar eu hincwm. Mae Llywodraeth Cymru, felly, yn darparu £1miliwn yn rhagor drwy’r Gronfa Benthyciadau Cyfalaf i’r Undeb Credyd.

Dywedodd y Dirprwy Weinidog:

“Mae undebau credyd yn cynnig ffordd wych a moesegol i bobl allu cynilo’n rheolaidd a benthyg yn gyfrifol ac mewn modd fforddiadwy. Maen nhw’n chwarae rhan amlwg yn ein hymdrechion i fynd i’r afael â thlodi a byddant yn parhau i chwarae rhan allweddol wrth adeiladu cadernid ariannol.

“Yn ystod y cyfyngiadau yn sgil y coronafeirws, roedden nhw wedi gwneud ymdrechion sylweddol i gynnal gwasanaethau hanfodol i gwsmeriaid presennol a hefyd i aelodau newydd a oedd yn awyddus i fenthyg yn fforddiadwy. Nawr yn fwy nag erioed, bydd aelodau’n troi at yr undebau credyd y maen nhw’n ymddiried ynddynt i ddarparu cymorth i’w harwain drwy’r cyfnod ansicr a newydd sydd o’n blaenau.

“Dros y chwe mis diwethaf, er bod rhai wedi gorfod cau eu drysau ar y stryd fawr, mae undebau credyd wedi bod yno i’r rhai sydd angen credyd fforddiadwy. Rwy’n falch bod undebau credyd wedi dechrau ailagor canghennau a chynyddu’r amrywiaeth o wasanaethau sydd ar gael wrth i’r cyfyngiadau ddechrau cael eu llacio. Bydd y cyllid rwy’n ei gyhoeddi heddiw yn eu cefnogi i barhau i helpu pobl mewn angen.”