English icon English
WG positive 40mm-3

Trelar dan Embargo 00:01 dydd Gwener 21 Awst 2020

Embargoed trailer 00:01 Friday 21 August 2020

Yn hwyrach heddiw (dydd Gwener 21 Awst), bydd y Prif Weinidog Mark Drakeford yn cadarnhau bod ymweliadau dan do â chartrefi gofal yn mynd i gael eu caniatáu yng Nghymru o ddydd Sadwrn 29 Awst ymlaen. Bydd hyn ar yr amod y dilynir y rheolau llym sydd wedi cael eu nodi yn y canllawiau a bod yr amodau yn parhau’n ffafriol.

Bydd y Prif Weinidog hefyd yn dweud, o ddydd Sadwrn 22 Awst, y gall aelwydydd estynedig ymestyn i gynnwys hyd at bedair aelwyd mewn trefniant unigryw, estynedig. Bydd priodasau ac angladdau hefyd yn gallu cynnwys pryd bwyd i hyd at 30 o bobl, mewn lleoliadau lle gellir cadw pellter cymdeithasol priodol. 

Fodd bynnag, bydd hefyd yn dweud, er gwaetha’r ffaith bod y cyfyngiadau wedi cael eu llacio eto yn ddiweddar yng Nghymru, nad nawr yw’r amser i droi cefn ar y dull gofalus a phwyllog a ddilynwyd hyd yma.

Bydd yn dweud: “Er bod y coronafeirws yn dal i fod wedi ei ffrwyno i bob pwrpas yng Nghymru, ac mae nifer yr achosion yn dal i syrthio, mae’r sefyllfa yng ngweddill y DU ac ymhellach eto yn dal i fod yn broblemus. Nid yw’r coronafeirws wedi diflannu, felly wrth inni lacio’r cyfyngiadau ymhellach ac edrych tuag at y dyfodol, mae’n bwysig inni wneud hynny mewn ffordd gofalus a phwyllog.”