English icon English

Cryfhau potensial safle Trawsfynydd ar gyfer y dyfodol

Future potential of Trawsfynydd site strengthened

Bydd sefydlu Cwmni Datblygu yn helpu i wireddu a chryfhau potensial safle’r hen bwerdy yn Nhrawsfynydd yng Ngwynedd, cyhoeddodd Gweinidog yr Economi a’r Gogledd, Ken Skates, heddiw.

Bydd Cwmni Egino – enw’r cwmni datblygu – yn helpu i sicrhau’r buddiannau economaidd y gall adweithydd modiwlar bach a’r technolegau cysylltiedig eu cynnig, gan gynnwys adweithydd ymchwil feddygol i ddarparu cyflenwad diogel a chynaliadwy o radioisotopau meddygol ar gyfer Cymru, y DU ac Ewrop.

Yn ogystal â dod â buddiannau economaidd yn uniongyrchol i ardal Trawsfynydd, bydd y dechnoleg yn helpu’r rhanbarth ehangach hefyd – gan gefnogi’r achos o blaid cyfleusterau profi thermo-hydrolig yn M-SParc ar Ynys Môn a darparu gwaith i gyfleuster AMRC Cymru yng Nglannau Dyfrdwy.

Mae Llywodraeth Cymru’n bwrw yn ei blaen â’r cynlluniau i sefydlu Cwmni Egino i helpu i ddod â’r datblygiadau hyn i Drawsfynydd.  Dywedodd Ken Skates: “Nid oes dwywaith bod potensial anferth i ddatblygu adweithyddion modiwlar bach yn Nhrawsfynydd. Er mwyn gwneud yn fawr o’r cyfle, rydym yn sefydlu Cwmni Egino i sicrhau bod y potensial anferth hwn yn cael ei wireddu.

“Mae yna arbenigedd a sgiliau yn y maes niwclear yn y Gogledd, yn AMRC Cymru a Phrifysgol Bangor, yn ogystal ag yn y safleoedd yn Nhrawsfynydd ac Wylfa. Rwyf am wneud yn siŵr ein bod yn gwneud y gorau ohonynt a’n bod yn cymryd rhan flaenllaw yn y datblygiadau newydd.

“Er gwaetha’r newyddion drwg am Wylfa Newydd bythefnos yn ol, mae’n ffaith o hyd ei fod yn un o’r safleoedd gorau yn y DU ar gyfer datblygiad niwclear newydd. 

“Mae sefydlu Cwmni Datblygu yn Nhrawsfynydd yn dangos ein hymrwymiad i’r sector niwclear yn y Gogledd.”

Dywedodd Tim Stone, Cadeirydd Cymdeithas y Diwydiant Niwclear: “Mae creu cwmni datblygu i wneud yn fawr o’r cyfleoedd yn y dyfodol ar gyfer y safle yn Nhrawsfynydd yn gam ardderchog ac mae angen llongyfarch y Gweinidog a Llywodraeth Cymru am ei gymryd.  Mae’n ymateb proactif gan lywodraeth sy’n cydnabod bod ei chyfrifoldebau’n cynnwys sicrhau bod seilwaith o arwyddocâd cenedlaethol yn cael ei ddarparu mewn digon o bryd i wneud Cymru’n fwy cystadleuol a llewyrchus”.

Dywedodd y Dr John Idris Jones, Cadeirydd Ardal Fenter Eryri sy’n cynnwys safle Trawsfynydd, “Mae creu Cwmni Egino yn newyddion gwych i’r Ardal Fenter. Mae’n rhoi cyfle i ddatblygu’r safle yng Nhrawsfynydd ar gyfer datblygiad ynni carbon isel er lles tymor hir y gymuned leol ac economi’r rhanbarth ehangach”.

Meddai arweinydd Cyngor Gwynedd, y Cynghorydd Dyfrig Siencyn: “Rydym yn falch iawn bod Llywodraeth Cymru am greu’r cwmni datblygu hwn – rydym wedi gweithio am flynyddoedd lawer i gefnogi ymdrechion i ddod â datblygiadau newydd i’r safle pwysig hwn er mwyn creu swyddi gwerthfawr yn y sir yn y tymor hwy.

“O ystyried effeithiau dychrynllyd pandemig y Covid-19 ar ein heconomi, bydd swyddi o ansawdd hyd yn oed yn fwy hanfodol nag erioed i gynnal ein cymunedau.  Rydyn ni’n gobeithio y gallwn nawr gyda help y cwmni fwrw yn ein blaenau’n adeiladol i d datblygu’r safle.”

Cyhoeddir rhagor o fanylion Cwmni Egino maes o law.