English icon English

Safle profi galw i mewn newydd yn agor ym Mhontypridd

New walk-through testing site opens in Pontypridd

Heddiw croesawodd y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol, Vaughan Gething y cyhoeddiad y bydd cyfleuster galw i mewn newydd a fydd yn cynnig profion y coronafeirws yn agor ym Mhrifysgol De Cymru ym Mhontypridd.

Mae’r safle, sy’n agor heddiw (dydd Gwener 25ain Medi), wedi’i leoli ym maes parcio myfyrwyr y brifysgol ar Gampws Trefforest ac mae’n rhan o gytundeb rhwng Llywodraeth Cymru a Llywodraeth y DU i greu 12 Safle Profi Lleol yng Nghymru a chynyddu’r capasiti profi. Mae’r Safle Profi Lleol yn safle galw i mewn a gellir archebu prawf yn y ffordd arferol drwy ffonio 119 neu ar-lein yn llyw.cymru/coronafeirws

Bydd y set gyntaf o safleoedd profi lleol yn cael eu cyflwyno rhwng mis Medi a mis Hydref a byddant yn cael eu lleoli ger prifysgolion ledled Cymru, gan gynnwys Caerdydd, Abertawe a Bangor.

Bydd pob un o’r Safleoedd Profi Lleol newydd hyn yn rhoi mynediad i brofion ar gyfer y myfyrwyr sy’n dychwelyd a’r boblogaeth leol.

Bydd profion ar gael ar gyfer y rheini sydd â symptomau’r coronafeirws yn unig – tymheredd uchel, peswch cyson, newydd neu os bydd rhywun yn sylwi eu bod wedi colli eu synnwyr blasu neu arogli neu eu bod wedi newid.

Mae’r safle’n cael ei weithredu mewn partneriaeth â Mitie a bydd yn cynnig profion y gall pobl eu gwneud eu hunain.

Dywedodd y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol, Vaughan Gething: “Mae profi’n rhan hanfodol o’n brwydr yn erbyn coronafeirws. Gyda Rhondda Cynon Taf a’r ardaloedd cyfagos o dan gyfyngiadau lleol ar hyn o bryd mae’n bwysig fod pobl yn gallu cael mynediad at brofion i sicrhau y gallwn atal y lledaeniad a hefyd i ddeall y gyfradd heintio yn yr ardal.”

“Y safle ym Mhontypridd yw’r cyntaf o 12 canolfan a fydd yn cael eu creu yn sgil cytundeb rhwng Llywodraeth Cymru a Llywodraeth y DU. Bydd y safleoedd newydd i’w gweld ledled Cymru ac maen nhw’n rhan hanfodol o’n rhaglen Profi, Olrhain, Diogelu GIG Cymru.”