English icon English
J5-J6 Rhosrobin Road Bridge A483 (North bound)-1

Cyhoeddi’r opsiynau a ffefrir ar gyfer y gwelliannau i’r A483 yn Wrecsam

Preferred options for A483 Wrexham improvements published

Mae’r Gweinidog Trafnidiaeth a’r Gogledd, Ken Skates, yn annog pobl i edrych ar yr opsiynau a ffefrir ar gyfer y gwelliannau ar hyd yr A483 yn Wrecsam ac i fynegi’u barn am y cynigion pwysig hyn.          

Yr A483 yw un o’r prif ffyrdd cyswllt rhwng y Gogledd a’r De, a rhwng y Gogledd a Chanolbarth Lloegr.  Mae’n ffordd bwysig i dwristiaid sy’n teithio i’r rhanbarth ac ar gyfer cludo nwyddau o Ewrop, y DU ac Iwerddon.

          Mae angen y gwelliannau er mwyn lleihau’r tagfeydd wrth y cyffyrdd ar hyd yr A483 a lleihau’u heffaith ar economi Wrecsam a gweddill y Gogledd.          

          Mae’r cynigion hyn yn rhan o raglen o gynlluniau i wella’r mannau cyfyng sydd wedi’u cynnwys yng Nghynllun Cyllid Trafnidiaeth Cenedlaethol Llywodraeth Cymru a dogfen Symud Gogledd Cymru Ymlaen gyda’r nod o greu rhwydwaith trafnidiaeth dibynadwy ac effeithiol ar draws y rhanbarth ac ar draws ffin Cymru a Lloegr.

          Mae’r cynigion ar gyfer yr A483 yn allweddol i’r weledigaeth hon a byddant yn bwysig i gefnogi llwyddiant y Gogledd yn y dyfodol.

Mae’r opsiynau a drafodir yn yr arddangosfa hon wedi bod trwy broses Arfarniad Trafnidiaeth Llywodraeth Cymru (WelTAG) a gafodd ei gynhyrchu yn unol â Deddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol. Mae’r Arfarniad yn cynnwys ystyried dulliau teithio, yr amgylchedd, diogelwch y ffyrdd, ansawdd aer a modelau traffig.

Caiff arddangosfeydd eu cynnal yn unol â’r rheolau ar Covid-19 yn Ngwesty’r Ramada yn Wrecsam ar 23-24 Medi.  Fe welwch fanylion llawn yr opsiynau a ffefrir a’r ymgynghoriad ar-lein hefyd https://llyw.cymru/gwelliannau-cyffyrdd-3-i-6-yr-a483 

          Dyma’r opsiynau a ffefrir ar gyfer pob cyffordd:

  • Cyffordd 3 (Ffordd Wrecsam): Mân-newidiadau i’r gyffordd bresennol i ymgorffori’r gwelliannau teithio llesol
  • (Ffordd Rhuthun): Newidiadau mawr i’r gyffordd bresennol, gan gynnwys system gylchu newydd sy’n cadw trosbont yr A525 ac yn ymgorffori gwelliannau teithio llesol ar hyd yr A525 ar draws yr A483.
  • Cyffordd 5 (Cylchfan Plas Coch / Ffordd yr Wyddgrug): Gwelliannau teithio llesol.
  • Cyffordd 6 (A5156 / Cyfnewidfa Gresffordd): Mân-newidiadau i’r gyffordd bresennol i ymgorffori gwelliannau teithio llesol.

Dywedodd y Gweinidog Trafnidiaeth a’r Gogledd Ken Skates: “Mae’r gwelliannau hyn ar y darn hwn o’r A483 yn angenrheidiol.  O adael y ffordd fel y mae, byddai’n amharu ar dwf Wrecsam a rhanbarth y Gogledd yn ei gyfanrwydd.

“Yn dilyn proses asesu drylwyr, mae’n dda nawr gallu cyhoeddi’r opsiynau a ffefrir ar gyfer y pedair cyffordd.  Trwy’r cynllun hwn, rydym am wireddu cyfleoedd ar gyfer teithio llesol, gwella’r cysylltiadau trafnidiaeth gyhoeddus a gwella’r llif traffig a fydd yn arwain at wella ansawdd yr aer.

“Rwy’n pwyso ar bawb sy’n defnyddio’r A483 yn ardal Wrecsam i ddweud eu dweud am y cynlluniau hyn sy’n hanfodol i’r rhanbarth.

 Dywedodd y Cyng David A Bithell, Arweinydd dros yr Amgylchedd a Thrafnidiaeth: “Mae’r A483 yn rhan hanfodol o’r rhwydwaith ffyrdd yn Wrecsam a’r Gogledd.  Mae’n bwysig bod y gwelliannau’n cael eu gwneud i leihau’r tagfeydd er lles yr ardal.  Byddan nhw hefyd yn gwella llwybrau Teithio Llesol yr ardal.  Rhowch o’ch amser i gymryd rhan a mynegi’ch barn wrth Lywodraeth Cymru.

Bydd yr ymgynghoriad yn para tan 22 Tachwedd a disgwylir cyhoeddiad ynghylch yr opsiynau a ffefrir yng Ngwanwyn 2021.  Yn amodol ar y prosesau statudol, gallai’r gorchmynion drafft gael eu cyhoeddi’n ddiweddarach yn 2021 gyda’r gwaith dylunio manwl yn cael ei wneud yn 2022.