English icon English
PO 200521 Miles 25-3

Cysoni canllawiau COVID-19 i ysgolion â chanllawiau i fusnesau a sefydliadau eraill

Schools’ Covid guidance aligned to businesses and other workplaces

Mae Gweinidog y Gymraeg ac Addysg, Jeremy Miles, wedi cyhoeddi y bydd mesurau COVID-19 i ysgolion yng Nghymru yn cael eu cysoni â chanllawiau i fusnesau a sefydliadau eraill.

Mae Llywodraeth Cymru wedi ysgrifennu at ysgolion yng Nghymru y bore yma i roi gwybod iddynt am y newidiadau.

Ers mis Medi y llynedd, mae ysgolion wedi bod yn rhoi mesurau ar waith i atal y coronafeirws rhag lledaenu, yn unol ag amgylchiadau lleol ac ar sail y Fframwaith penderfyniadau rheoli heintiau COVID-19 lleol ar gyfer ysgolion. Ni fydd angen i ysgolion ddefnyddio'r fframwaith bellach.

Mae'r newid yn unol â chynllun pontio COVID-19 hirdymor o bandemig i endemig Llywodraeth Cymru. Ystyrir y risg o'r coronafeirws yn yr un cyd-destun bellach â'r risg o glefydau trosglwyddadwy eraill, megis y ffliw.

 

Mae'r Prif Weinidog wedi cyhoeddi y caiff y cyfyngiadau coronafeirws sy'n weddill eu dileu o 9 Mai ymlaen, os bydd y sefyllfa o ran iechyd y cyhoedd yn aros yn sefydlog. Daw'r newidiadau i'r canllawiau i ysgolion i rym ar 9 Mai hefyd.

Bydd ysgolion a lleoliadau addysg eraill yn cael eu cynghori o hyd i weithio gydag awdurdodau lleol a chynghorwyr iechyd cyhoeddus i sicrhau bod mesurau yn parhau i fod yn briodol ac yn gymesur, ac yn adlewyrchu risgiau ac amgylchiadau lleol.

Darperir rhestr wirio er mwyn helpu ysgolion a lleoliadau i ystyried pa fesurau rheoli sy'n parhau i fod yn gymesur. Bydd ysgolion arbennig yn parhau i ddilyn y cyngor i blant a phobl ifanc sy'n wynebu mwy o risg glinigol ac oedolion sy'n eithriadol o agored i niwed yn glinigol.

Gan siarad yng Nghynhadledd i'r Wasg wythnosol Llywodraeth Cymru, dywedodd Jeremy Miles:

“Yn unol â'r canllawiau iechyd cyhoeddus ehangach a gyhoeddwyd fel rhan o'r adolygiad tair wythnos diwethaf, rydym wedi ysgrifennu at benaethiaid ysgolion heddiw i dynnu sylw at y newidiadau sydd ar ddod yn ein cyngor i ysgolion, sy'n adlewyrchu'r newid o bandemig i endemig. Drwy hyn, gwneir yn siŵr bod canllawiau i ysgolion yn fwy cyson â gweddill y gymdeithas.

“Mae pawb yn gwybod nad yw COVID-19 wedi diflannu. Mae'n hollbwysig o hyd ein bod yn lleihau lledaeniad y feirws lle y bo'n bosibl – gan gynnwys, er enghraifft, dilyn canllawiau o ran hunanynysu, a sicrhau bod lleoliadau addysg yn parhau i gynnal asesiadau risg cadarn.”