English icon English
national-cancer-institute-NFvdKIhxYlU-unsplash

Ymestyn Bwrsariaeth y GIG yng Nghymru

NHS Bursary extended in Wales

Mae’r Gweinidog Iechyd, Eluned Morgan, wedi cadarnhau y bydd Cymru yn ymestyn cynllun Bwrsariaeth GIG Cymru i fyfyrwyr gofal iechyd cymwys sy’n astudio ym mlwyddyn academaidd 2023-24.

Mae myfyrwyr nyrsio, bydwragedd a gweithwyr proffesiynol perthynol i iechyd sy’n ymrwymo i weithio yng Nghymru am hyd at ddwy flynedd ar ôl cymhwyso yn gymwys i gael y fwrsariaeth. Mae’r cynllun yn darparu cymorth nad oes rhaid ei ad-dalu sy’n cwmpasu ffioedd dysgu a chostau byw.

Mae’r cyhoeddiad heddiw yn rhoi sicrwydd ynglŷn â threfniadau’r fwrsariaeth tan 2024 i helpu myfyrwyr a darparwyr cyrsiau i gynllunio ar gyfer y dyfodol.

Mae Llywodraeth Cymru yn bwriadu ymgynghori ar y ffordd orau o barhau i gefnogi pobl sy’n astudio rhaglenni gofal iechyd yng Nghymru i sicrhau bod Cymru’n parhau i ddenu a chadw’r disgleiriaf a’r gorau.

Dywedodd y Gweinidog Iechyd, Eluned Morgan:

“Rydyn ni wedi ymrwymo i fuddsoddi yn hyfforddiant ein nyrsys, ein bydwragedd a’n gweithwyr proffesiynol hynod fedrus eraill sy’n gweithio yn ein GIG.

“Mae’r estyniad pellach hwn o fwrsariaeth y GIG yn dangos ein hymrwymiad i sicrhau cynaliadwyedd gweithlu’r GIG yn y dyfodol. Rydyn ni’n falch o barhau â’r fwrsariaeth sydd wedi helpu cymaint o bobl i gymhwyso a gweithio yn y GIG, gan ofalu am bobl yng Nghymru.

“Rydyn ni’n parhau i weithio’n galed i ddenu mwy o weithwyr gofal iechyd proffesiynol i Gymru drwy ein hymgyrch Hyfforddi, Gweithio, Byw.”

Dywedodd y Gweinidog Addysg, Jeremy Miles:

“Bydd ymestyn y fwrsariaeth yn helpu i ddenu gweithwyr gofal iechyd proffesiynol medrus i Gymru ac i’w cadw ar ôl iddyn nhw fod yn astudio yma. Mae’r fwrsariaeth yn ategu ein pecyn ariannu ar gyfer myfyrwyr, sydd wedi’i wella – yr un mwyaf hael yn y DU.”

Ychwanegodd Sue Tranka, Prif Swyddog Nyrsio Cymru:

“Rwy’n falch iawn ein bod unwaith eto’n ymestyn bwrsariaeth y GIG. Un o’m blaenoriaethau yw denu, recriwtio a chadw gweithlu brwdfrydig a medrus ac mae’r fwrsariaeth yn atgyfnerthu hyn.”

DIWEDD