English icon English
SNPA Logo-2

Y Gweinidog Newid Hinsawdd yn penodi aelodau newydd i Awdurdod Parc Cenedlaethol Eryri

Minister for Climate Change appoints new members to Snowdonia National Park Authority

Mae’r Gweinidog Newid Hinsawdd wedi penodi dau aelod newydd i Awdurdod Parc Cenedlaethol Eryri.

Cadarnhaodd y Gweinidog fod Naomi Luhde-Thompson a Delyth Lloyd wedi cael eu penodi i’r Awdurdod. Fel rhan o’u rôl byddan nhw’n helpu i arwain gwaith y Parc Cenedlaethol, gan gefnogi ei arweinyddiaeth a chyfrannu at y gwaith o ddatblygu cynlluniau a blaenoriaethau ar gyfer y dyfodol.

Mae’r ddau penodiad ar gyfer pedair blynedd, tan 2026.

Dywedodd y Gweinidog Newid Hinsawdd, Julie James, “mae Naomi a Delyth yn dod â thoreth o brofiad, ac rwy’n edrych ymlaen at weithio gyda nhw.

“Mae’r rôl mae ein Hawdurdodau Parc Cenedlaethol yn ei chwarae bellach yn bwysicach nac erioed wrth fynd i’r afael â materion sydd o bwys cenedlaethol a rhyngwladol, fel lliniaru effeithiau newid hinsawdd, datgarboneiddio, atal colli bioamrywiaeth a hyrwyddo twristiaeth fwy cynaliadwy. Mae’n hanfodol bod y sefydliadau hyn yn cael eu rheoli’n dda, a’n bod yn penodi aelodau a chanddyn nhw amrediad o sgiliau a phrofiad i’w helpu i wireddu’r uchelgeisiau hynny.”  

Mae Aelodau o’r Awdurdodau Parc Cenedlaethol yn derbyn tâl o £4,738 y flwyddyn, gan adlewyrchu ymrwymiad amser o 44 diwrnod y flwyddyn.

Mae’r penodiadau hyn wedi cael eu gwneud yn unol â Chod Llywodraethiant Penodiadau Cyhoeddus. Nid yw’r un ohonynt wedi ymgymryd ag unrhyw weithgareddau gwleidyddol yn y pum mlynedd diwethaf nac yn dal unrhyw swyddi Gweinidogol eraill.