Skip to main content

Transport for Wales working with Passenger to unify bus travel across the country

10 Mai 2022

Mae’r darparwr technoleg trafnidiaeth gyhoeddus yn y DU, Passenger, wedi cyhoeddi partneriaeth newydd fawr gyda Trafnidiaeth Cymru wrth iddo baratoi i gyhoeddi ap a gwefan bysiau newydd ar gyfer ei rwydwaith bysiau pellter hir TrawsCymru.

Bydd ap a gwefan newydd, amlieithog TrawsCymru yn cefnogi bwriad Llywodraeth Cymru i sicrhau system bysiau sy’n hybu cydraddoldeb cymdeithasol ac sy’n gallu cyflawni’r newid moddol sydd ei angen i fynd i’r afael â’r argyfwng hinsawdd. Bydd TrawsCymru yn lansio ar blatfform profiad cwsmeriaid Passenger ac yn defnyddio ei gyfleusterau cynllunio teithiau, amserlenni bysiau a’i allu i olrhain cerbydau’n fyw. Bydd tocynnau ar yr ap ac eFasnach tocynnau ar y wefan, hefyd yn helpu i sicrhau newid sylweddol o ran mynediad digidol at wasanaethau TrawsCymru.

Mae TrawsCymru yn rhan annatod o’r rhwydwaith bysiau yng Nghymru, gan ddarparu cysylltiadau rhwng prif drefi a dinasoedd a helpu pobl i gysylltu â lleoliadau gwaith, addysg, iechyd a hamdden. Dros y blynyddoedd nesaf, bydd Trafnidiaeth Cymru yn cyflwyno gwelliannau i’r rhwydwaith, cerbydau carbon isel, integreiddio tocynnau Traws a rheilffyrdd a gwella seilwaith ar ochr y ffordd a gwybodaeth i deithwyr.

Dywedodd Tom Quay, Prif Swyddog Gweithredol Passenger: “Rydyn ni’n falch iawn o ddechrau gweithio gyda Trafnidiaeth Cymru mewn cyfnod mor gyffrous i’r sefydliad. Mae Llywodraeth Cymru wedi tynnu sylw at y dirywiad graddol yn y diwydiant bysiau yng Nghymru dros y blynyddoedd drwy ei phapur gwyn diweddar ‘Un rhwydwaith, un amserlen, un tocyn’[1]. Mae’r papur gwyn yn nodi nad oes gan 25% o bobl yng Nghymru gar at eu defnydd, ac er bod Llywodraeth Cymru wedi buddsoddi dros £100m bob blwyddyn mewn gwasanaethau bysiau, mae gwelliannau wedi bod yn heriol oherwydd bod gwasanaethau bysiau wedi cael eu preifateiddio.

“Mae’n galonogol gweld ymdrechion sylweddol yn cael eu gwneud gan y llywodraeth i wrthdroi’r dirywiad hwn, gyda buddsoddiad yn cael ei sianelu i wasanaethau cyhoeddus i helpu mwy o bobl i gyrraedd lle mae angen iddyn nhw fynd. Mae Trafnidiaeth Cymru yn gyrru’r newid hwn, ac mae’n bleser gennym eu cefnogi gyda’n harbenigedd a’n technoleg, sydd wedi’u dylunio i wneud bysiau’n ffordd fwy deniadol a hygyrch o deithio. Gyda’n gilydd, rydyn ni’n credu y gallwn ni wneud gwahaniaeth sylweddol yn y ffordd mae pobl yn teithio ledled Cymru.”

Ychwanegodd James Price, Prif Weithredwr Trafnidiaeth Cymru: “Mae ein ap a’n gwefan newydd ar gyfer TrawsCymru yn garreg filltir bwysig yn ein cynlluniau i drawsnewid trafnidiaeth gyhoeddus yng Nghymru, wrth i ni geisio creu rhwydwaith sy’n apelio at ddemograffeg ehangach o lawer.

“Ein pwrpas yw bwrw ymlaen â gweledigaeth Llywodraeth Cymru o gael rhwydwaith sefydlog, hawdd ei ddefnyddio o wasanaethau bysiau sy’n cysylltu’n llawn â dulliau eraill o drafnidiaeth gyhoeddus. Rydyn ni eisiau darparu rhwydwaith trafnidiaeth dibynadwy, fforddiadwy, hyblyg a charbon isel sy’n cefnogi mwy o bobl i ddefnyddio’r bws yn hytrach na’u ceir – a bydd ein ap a’n gwefan TrawsCymru newydd yn ategu ein hymdrechion parhaus”.

Bydd Trafnidiaeth Cymru yn lansio ei ap newydd ym mis Gorffennaf, wedi’i ddilyn gan ei wefan ym mis Awst eleni. I gael rhagor o wybodaeth am Trafnidiaeth Cymru, ewch i https://trc.cymru/

I gael rhagor o wybodaeth am Passenger, ewch i https://passenger.tech/

Nodiadau i olygyddion


Mae Passenger yn darparu platfform profiad cwsmeriaid trawsnewidiol ar gyfer cwmnïau gweithredu bysiau ac awdurdodau trafnidiaeth drwy apiau a gwefannau sydd gyda’r gorau yn y farchnad ar gyfer eu teithwyr. Mae Passenger yn helpu i gyflymu taith y DU tuag at drafnidiaeth gynaliadwy a rennir drwy docynnau symudol a digyswllt, gwybodaeth am deithio, a ffrydiau data byw ar gyfer apiau a gwefannau. https://passenger.tech 

Llwytho i Lawr