Skip to main content

Book your fflecsi bus at the library

09 Mai 2022

Gallwch nawr gael help i archebu eich tocyn bws fflecsi yn Hyb Cymunedol Glynebwy.  

Gall teithwyr nawr gael cymorth i archebu tocyn ar gyfer fflecsi ym Mlaenau Gwent wrth i Trafnidiaeth Cymru, mewn partneriaeth â Chyngor Bwrdeistref Sirol Blaenau Gwent a darparwr technoleg fflecsi Via, sefydlu cyfleuster archebu ar-lein newydd yn yr hyb cymunedol.

Mae staff wedi’u hyfforddi i ddefnyddio’r system ar-lein a gallant nawr brynu tocynnau ar ran teithwyr sydd efallai heb ffôn symudol neu ddyfais glyfar ac felly heb fodd o archebu tocyn fflecsi tra’u bod oddi cartref.

Dywedodd James Price, Prif Swyddog Gweithredol TrC: “Mae’r gwasanaeth fflecsi ym Mlaenau Gwent wedi bod yn rhedeg ers bron i 10 mis a chan mai gwasanaeth peilot yw hwn, rydym wedi gallu gwrando ar bryderon lleol a thrwy ddefnyddio’r data mae fflecsi yn ei ddarparu gallwn adnabod ac addasu’r gwasanaeth fel ei bod yn gweddu’n well i anghenion teithwyr.

“Mae ein partneriaeth gyda Stagecoach a Chyngor Blaenau Gwent yn ein helpu i ganfod yr ateb trafnidiaeth gyhoeddus gorau ar gyfer yr ardal hon a bydd y newidiadau diweddar i’r llwybrau bysiau rheolaidd yn rhyddhau fflecsi ac yn ein galluogi i ddarparu mwy o deithiau i fwy o bobl ar draws y parth.  Y datblygiad diweddaraf hwn yw’r lleoliad archebu trydydd parti cyntaf ar gyfer fflecsi a byddwn yn ei gyflwyno mewn cynlluniau peilot eraill ledled Cymru yn y misoedd nesaf.”

Cynllun fflecsi Blaenau Gwent yw ein cynllun fflecsi IRT cryfaf ac mae dros 30,000 o deithiau wedi'u cwblhau ers y lansiad, gyda chyfartaledd presennol o bron i 1000 o deithiau'r wythnos.  Mae gennym fwy na 250 o deithwyr actif rheolaidd gan gynnwys teithwyr newydd i'r bws sy'n cyrchu cyrchfannau nad oeddent yn cael eu gwasanaethu gan fysiau eisoes fel Ystâd Ddiwydiannol Rasa a Gorsaf Llanhiledd.  Ar gyfartaledd, dim ond 55 metr mae cwsmeriaid yn gorfod ei gerdded.  Mae hyn yn golygu bod y gwasanaeth yn hygyrch iawn i deithwyr sydd â nam corfforol ac mae hefyd yn llawer mwy hygyrch i deithwyr o'i gymharu â bysiau confensiynol, sydd fel arfer â llwybrau cerdded hirach. Mae tua 80% o docynnau yn cael eu prynu ar ap fflecsi.

Dywedodd Christian Reed, Pennaeth Adran Fasnachol, Stagecoach De Cymru:  “Mae wedi bod yn wych gallu cynnig gwasanaeth bws hyblyg i’n cwsmeriaid sydd ar gael pan mae ei angen arnynt. 

“Mae fflecsi ar gael chwe diwrnod yr wythnos ym mharth teithio Blaenau Gwent; mae'n rhwydd iawn trefnu taith ar ein ap, dros y ffôn a nawr, yn nifer o’n llyfrgelloedd lleol.

“Rydyn ni’n edrych ymlaen at groesawu mwy o deithwyr ar fwrdd ein bysiau”

Archebwch eich tocyn bws fflecsi yn y Llyfrgell Brynmawr, Llyfrgell Abertyleri, Tredegar Library, Llyfrgell Tredegar, Llyfrgell Blaina, Llyfrgell Cwm, Sefydliad Glowyr Llanhiledd

Libraries - Aneurin Leisure manages the libraries across Blaenau Gwent.

Mae Fflecsi bellach yn gweithredu mewn 11 ardal ledled Cymru, yn darparu tua 4,500 o deithiau pob wythnos ac mae pob un o’r cynlluniau peilot yn cael eu gwerthuso i’n helpu i ddod o hyd i’r ateb gorau ar gyfer trafnidiaeth gyhoeddus mewn ardaloedd gwledig a threfol.

I gael rhagor o wybodaeth, ewch i   www.fflecsi.wales     

Llwytho i Lawr