03 May 2022
Yn ddiweddar, cymerodd 5ed grŵp Beavers, Cybs a Sgowtiaid Castell-nedd ym Mryn-coch, dan arweiniad Mike Loyns, sy'n gweithio dros Ddŵr Cymru, ran mewn gwaith cloddio archeolegol yng Ngweithfeydd Dur Abaty Nedd gyda CADW er mwyn codi arian at Wcráin. Ymunodd rhaglen Coast and Country ITV â'r grŵp sgowtiaid i ffilmio'r criw cymunedol wrth eu gwaith. Ar ôl cyflawni'r gwaith cloddio cyffrous, aeth y tîm allan i gerdded10k wrth ddringo mynydd cyfagos Drumau i weld tirnod hanesyddol Carreg Bica.
Dywedodd Mike Loyns, sy'n arweinydd Sgowtiaid ac yn Beiriannydd Asedau gyda Dŵr Cymru: "Bu'r achlysur yn llwyddiant mawr, ac fe lwyddon ni i godi arian at yr achos pwysig dros ben. Mae'r grŵp wedi chwarae rhan frwd yn ein holl weithgareddau codi arian, ond mae'r un yma wedi bod yn un arbennig o ddiddorol i'r plant. Dim ond aberth bach iawn yw hwn y gallwn ei wneud fel grŵp cymunedol i roi rhywbeth nôl i'r bobl sy'n dioddef yn Wcráin. Rydyn ni'n falch o'r holl blant a'u h ymdrechion nhw i gyd i godi arian i helpu pobl sydd mewn angen.”
Mae'r achlysur hwn yn un o nifer fawr o weithgareddau y mae Beavers, Cybs a Sgowtiaid 5ed Grŵp Sgowtiaid Castell-nedd ym Mryn-coch yn cymryd rhan ynddynt. Yn ddiweddar, maent wedi derbyn cyllid o Gronfa Gymunedol Dŵr Cymru i helpu i drawsnewid tiroedd Neuadd y Sgowtiaid a gwella bioamrywiaeth yr ardal leol trwy adeiladu gwestai chwilod, ardaloedd natur a chartrefi draenogod.
Dywedodd Claire Roberts, Pennaeth Cysylltiadau Cymunedol Dŵr Cymru: “Mae Cronfa Gymunedol Dŵr Cymru'n falch o gefnogi amrywiaeth eang o brosiectau cymunedol. Mae cefnogi'r achos gwerth chweil yma sy'n annog cenedlaethau'r dyfodol i fod yn ddinasyddion cyfrifol codi calon rhywun, ac yn enwedig o ystyried yr achlysur ychwanegol yma i godi arian at ddioddefwyr yr argyfwng yn Wcráin. Fel sefydliad nid-er-elw, cwsmeriaid sydd wrth galon popeth a wnawn, ac mae'r cyllid yma'n caniatáu i ni roi rhywbeth nôl i'r cymunedau rydym yn buddsoddi ynddynt.”
Mae Cronfa Gymunedol Dŵr Cymru'n gyfle i gymunedau hybu ymdrechion i godi arian at achosion da yn eu hardaloedd. Os ydych chi'n byw mewn ardal lle mae gwaith yn cael ei wneud – ac yn codi arian ar gyfer prosiectau er budd y gymuned – gallech gael gwerth £1,000 o gyllid gan Ddŵr Cymru. Am ragor o fanylion ewch i www.dwrcymru.com/Cronfa-Gymunedol
-DIWEDD-
Sophie Pulman
sophie.pulman@dwrcymru.com
Nodiadau i olygyddion