English icon English

Gwybodaeth am farwolaethau yr amheuir eu bod yn achosion o hunanladdiad i gael ei chasglu i atal trasiedi yn y dyfodol

Suspected suicide information to be collected to prevent future tragedies

Mae’r Dirprwy Weinidog Iechyd Meddwl a Llesiant, Lynne Neagle, wedi cyhoeddi bod system fonitro genedlaethol newydd yn cael ei sefydlu i gasglu gwybodaeth am farwolaethau yr amheuir eu bod yn achosion o hunanladdiad, fel rhan o ymdrech ehangach i atal trasiedi yn y dyfodol.

Mae’r System Gwyliadwriaeth Hunanladdiad Amser Real yn cael ei lansio mewn partneriaeth ag Iechyd Cyhoeddus Cymru, holl heddluoedd Cymru, a Chydweithrediad Iechyd GIG Cymru a bydd yn casglu gwybodaeth ynghylch marwolaethau sydyn neu ddiesboniad yr amheuir eu bod yn farwolaethau drwy hunanladdiad.

Datblygwyd y system hon oherwydd yr oedi rhwng marwolaeth annisgwyl a chofnodi’r farwolaeth fel hunanladdiad yn dilyn cwest crwner. Mae hyn yn ei gwneud yn anodd gweithredu ymateb a chymorth ar unwaith. Bydd y system yng Nghymru yn darparu gwybodaeth heb yr oedi hwn, gan alluogi gwasanaethau i ymateb yn llawer cynharach.

Bydd yr wybodaeth a geir o’r system newydd yn cynorthwyo gwasanaethau i ddatblygu dulliau ataliol a sicrhau bod cymorth ar gael i unigolion a chymunedau sydd wedi cael eu heffeithio’n uniongyrchol. Gall hyn gynnwys darparu cymorth mewn profedigaeth.

Mae gwaith ymchwil yn awgrymu, i bob person sy’n marw drwy hunanladdiad, y gall hyd at 135 o bobl eraill ddod i gysylltiad ag ef, cael eu heffeithio ganddo, neu fod mewn profedigaeth, i raddau amrywiol, gan olygu bod angen cymorth arnynt. Bydd yr wybodaeth a geir o’r system yn galluogi gwasanaethau i ddarparu cymorth yn fwy amserol.

Mae cyllid ar gyfer y system yn rhan o £50 miliwn o arian ychwanegol gan Lywodraeth Cymru i wella iechyd meddwl a llesiant, ac mae gwaith ar y gweill hefyd i wella cymorth i bobl mewn profedigaeth er mwyn darparu ymateb mwy tosturiol – ar gyfer cymorth ymarferol ac emosiynol – ar wahanol gamau’r daith brofedigaeth.

Un elfen o raglen waith ehangach i atal hunanladdiad yng Nghymru yw’r system, sef rhaglen waith sy’n cynnwys hwyluso mynediad at amrywiaeth o gymorth hunanatgyfeirio fel na fydd materion yn gwaethygu, a gwella gwasanaethau argyfwng.

Bydd yr wybodaeth a gesglir hefyd yn cael ei defnyddio i feithrin dealltwriaeth o hunan-niwed a hunanladdiad ymhellach, gan gynnwys data hanesyddol am gofrestriadau marwolaethau a adroddir yn flynyddol drwy fwletinau ar hunanladdiad gan y Swyddfa Ystadegau Gwladol (ONS).

 

Dywedodd y Dirprwy Weinidog Iechyd Meddwl a Llesiant, Lynne Neagle: “Mae colli rhywun i hunanladdiad yn drychineb i deuluoedd, ffrindiau a chymunedau cyfan. Mae atal hunanladdiad yn un o’m prif flaenoriaethau i ac mae sefydlu’r System Gwyliadwriaeth Hunanladdiad Amser Real yn darparu platfform ar gyfer cryfhau ein gwaith atal hunanladdiad. Yn hanfodol, bydd hefyd yn ein galluogi i ddarparu cymorth amserol i’r rhai hynny sydd mewn galar yn sgil hunanladdiad, yr ydym yn gwybod eu bod â risg lawer uwch o farw drwy hunanladdiad.

Mae’r cydweithio rhwng Cydweithrediad Iechyd GIG Cymru, Iechyd Cyhoeddus Cymru a’r heddlu yn dangos ein dull gweithredu sydd wedi’i seilio’n gadarn ar bartneriaeth a bod atal hunanladdiad yng Nghymru yn ymrwymiad a rennir gennym. Mae lansio’r system yn ddatblygiad pwysig i gynorthwyo’r broses o gyflawni Siarad â fi 2, sef ein Strategaeth Atal Hunanladdiad a Hunan-niwed.

Byddaf hefyd yn anelu mwy o fuddsoddiad yn 2022/23 at atal hunanladdiad a hunan-niwed ac mae ein rhaglen waith ehangach i’w gwneud yn haws cael gafael ar gymorth iechyd meddwl, yn arbennig i’r rhai mewn argyfwng, yn sail i hynny.”

Dywedodd Arweinydd yr Heddlu ar gyfer Iechyd Meddwl yng Nghymru, y Prif Gwnstabl Cynorthwyol Dave Thorne: “Mae pob achos trasig o hunanladdiad yn fywyd a gollwyd, a dylai atgoffa pob un ohonom yn barhaus fod rhaid inni gydweithio i sicrhau bod atal hunanladdiad yn aros yn flaenoriaeth. Mae pob un bywyd a gollir yn gadael anwyliaid, teuluoedd, cyfeillion a chymunedau mewn profedigaeth ddwys. Mae lansio’r System Gwyliadwriaeth Hunanladdiad Amser Real, sef y system gyntaf o’i math yng Nghymru, yn llwyddiant mawr a fydd yn golygu bod data gwyliadwriaeth gan sawl asiantaeth ar gael ar blatfform a rennir, gan wella ein hymateb ar y cyd. Hoffwn ddiolch am ymroddiad y rhai a fu’n gweithio’n ddiflino i gasglu a chydlynu’r data o bob rhan o Gymru, ac ni ellir wir amgyffred cymaint fydd effaith y system newydd hon. Bydd yn sicr yn datgloi achosion fel y gellir rhoi’r gwasanaethau cywir ar waith er mwyn atal colli rhagor o fywydau, a chefnogi ymrwymiad ehangach Llywodraeth Cymru.”

Dywedodd Dr Rosalind Reilly, Ymgynghorydd Iechyd y Cyhoedd yn Iechyd Cyhoeddus Cymru: "Mae Iechyd Cyhoeddus Cymru wedi gweithio gydag amrywiaeth o bartneriaid ar draws y system i ddatblygu'r System Gwyliadwriaeth Hunanladdiad Amser Real. Menter newydd yw hon a fydd yn darparu data ac yn gwella dealltwriaeth er mwyn gallu darparu cymorth yn briodol, ac i feithrin gwir ymwybyddiaeth o'r materion a'r heriau sy'n gysylltiedig â'r maes anodd hwn. Rydym yn ddiolchgar i Lywodraeth Cymru sydd wedi dyrannu'r cyllid i ganiatáu i'r gwaith hwn ddigwydd."