- Cwcis sydd wir eu hangen
Cwcis sydd wir eu hangen
Mae rhai o’n cwcis yn hanfodol ac ni fydd rhannau o’r safle’n gweithio hebddynt. Mae hyn yn cynnwys cofnodi eich dewisiadau cadw cwcis.
22 Chw 2024
Bydd lein Treherbert yn ailagor i deithwyr ddydd Llun 26 Chwefror yn dilyn naw mis o waith trawsnewidiol i uwchraddio rhan o Fetro De Cymru.
I ddechrau, bydd y gwasanaeth yn rhedeg dau drên yr awr, gyda threnau Dosbarth 756 newydd sbon yn cael eu cyflwyno ar y lein yn ddiweddarach eleni, fel rhan o waith Metro De Cymru.
Fel gwerthfawrogiad i’n teithwyr am eu hamynedd, gall cwsmeriaid yn y Rhondda deithio am hanner pris tan ddiwedd Mai 2024.
Mae Trafnidiaeth Cymru (TrC) a phartneriaid wedi cael gwared ar rai o'r seilwaith rheilffyrdd hynaf yng Nghymru, ac wedi rhoi system signalau fodern, newydd sbon yn ei lle gan gynnwys gosod Cyfarpar Llinellau Uwchben a fydd yn trydaneiddio'r llinell yn y misoedd sydd i ddod.
Yn ogystal â gwasanaethau amlach, gwnaed nifer o uwchraddiadau i'r orsaf, gan gynnwys ymestyn y platfformau ac ychwanegu pontydd troed newydd er mwyn gwella lefelau hygyrchedd.
Dywedodd Jan Chaudhry-Van dêr Velde, Prif Swyddog Gweithredol TrC: “Mae disodli'r system signalau Fictoraidd gyda signalau golau lliw modern a reolir gan ein canolfan reoli bwrpasol yn y Cymoedd wedi cymryd peth amser, ond bydd trenau'n dychwelyd i redeg ar hyd Treherbert o 26ain Chwefror.
“Mae rhaglen hyfforddi gynhwysfawr ar gyfer gyrwyr a rheolwyr y trenau'n sy'n gweithio ar y lein wedi bod yn mynd rhagddi ers dechrau'r flwyddyn, a bydd yn parhau dros yr wythnosau nesaf. Yna byddwn yn troi ein sylw at gyflwyno trenau Dosbarth 756 newydd ar y lein yn ddiweddarach yn 2024.
“Rydym yn gwerthfawrogi bod ein cwsmeriaid a'n cymdogion ar ochr y lein hon wedi bod yn hynod amyneddgar gyda ni yn ystod y cyfnod hwn, ac i gydnabod hyn, rydym yn cynnig gostyngiad o 50% i gwsmeriaid y Rhondda ar eu teithiau am y tri mis nesaf, tan 23 Mai 2024.”
Ychwanegodd Lee Waters, y Dirprwy Weinidog Newid Hinsawdd, sydd â chyfrifoldeb dros drafnidiaeth: “Mae hwn yn fuddsoddiad enfawr arall a fydd yn gwneud gwahaniaeth eithriadol i deithwyr sy'n teithio ar y lein. Mae'n dilyn ôl troed gwell gwasanaethau Glynebwy a’r trenau newydd ar y linell Maesteg ac mae'n gam cadarnhaol arall yn ein huchelgais i drawsnewid rheilffyrdd y cymoedd.”
Nodiadau i olygyddion
Ni fydd gwasanaethau newydd yn galw yng ngorsaf Ynyswen, sydd ar gau dros dro tra bod TrC yn parhau i wneud gwaith seilwaith mawr yn yr orsaf.
Bydd bysiau gwennol yn rhedeg i gyfeiriad y gogledd i Dreherbert ac i gyfeiriad y de i Dreorci a fydd yn cyd-fynd ag amserlen y trenau.
Ceir rhagor o wybodaeth am hyn yma Trawsnewid Lein Treherbert | Trafnidiaeth Cymru (trc.cymru)
Bydd gwasanaethau trên yn galw yn y gorsafoedd canlynol:
Pontypridd, Trehafod, Porth, Dinas Rhondda, Tonypandy, Llwynypia, Ystrad Rhondda, Ton Pentre, Treorci a Threherbert.
Mae gwaith trydaneiddio hanfodol yn dal i gael ei wneud ar y lein ac o ganlyniad bydd trenau yn cael eu disodli yn hwyr gyda'r nos rhwng nos Sul a nos Iau.
Gellir dod o hyd i amseroedd trenau ar gyfer y gwasanaethau newydd yma: Cynllunio Taith TrC |
Ymestyn gostyngiad 50% tocyn trên Rhondda
Er mwyn diolch i’n cwsmeriaid a’n cymdogion ar ochr y llinell am eu hamynedd drwy gydol y gwaith trawsnewid, byddwn yn ehangu’r cynllun gostyngiad ar docyn Rhondda am 3 mis yn dilyn ail-agor y llinell ym mis Chwefror 2024. Mae’r gostyngiad yn caniatáu i bob teithiwr sy’n teithio ar linell Treherbert dderbyn gostyngiad o 50% ar gost eu tocyn a bydd y gostyngiad ar gael tan ddiwedd mis Mai 2024.
I gael gostyngiad, bydd angen i deithwyr ddangos eu tocyn Rhondda i oruchwylwr y trên ynghyd â’u tocyn trên.