- Cwcis sydd wir eu hangen
Cwcis sydd wir eu hangen
Mae rhai o’n cwcis yn hanfodol ac ni fydd rhannau o’r safle’n gweithio hebddynt. Mae hyn yn cynnwys cofnodi eich dewisiadau cadw cwcis.
14 Chw 2024
Wrth dreulio oriau mewn tagfa draffig a chwilio am le i barcio, ydych chi’n teimlo fel bo’ch car yn rheoli’ch diwrnod ac rydych yn methu’r gwir anturiaethau?
Mae hi’n amser ichi archwilio trysorau cudd Cymru heb ffws na ffwdan y car.
Aberystwyth – Archwilio'r arfordir, yn lle chwilio lle i barcio
Gyda’i lanmôr deniadol a’i draethau prydferth, mae Aberystwyth yn lleoliad perffaith ar gyfer antur heb gar. Archwiliwch y baeau ar droed gyda Go Jauntly
Treuliwch benwythnos yno a gydag un tocyn yn unig, teithiwch o Aberystwyth ar fws trydan T1 TrawsCymru i leoliadau eraill yn ne Cymru.
Harlech – Gweld y golygfeydd, yn lle ciw o geir
Yn lle treulio oriau mewn traffig, ymlaciwch a mwynhewch yr olygfa wrth ichi archwilio hanes a phrydferthwch naturiol y dref. Mae Harlech wedi’i leoli o fewn Parc Cenedlaethol Eryri ac mae’n gartref i safle Treftadaeth y Byd UNESCO, Castell Harlech.
Wyddoch chi y gallwch gael 2 docyn am bris 1 am bob safle Cadw lle bo angen talu am fynediad gyda’ch tocyn trên?
Llandudno – Mwynhewch golygfeydd da yn lle gorfod gyrru
Gadewch y car a chrwydrwch ar hyd promenâd deniadol y dref, ewch ar dramffordd hanesyddol, Y Gogarth, neu archwiliwch y pier Fictoraidd – dyma yw’r de Ffrainc Cymreig!
Mae Llandudno yn un o’n hoff lefydd yng ngogledd Cymru. Tra yno, rhaid yw mwynhau pysgod a sglodion wrth syllu ar ei adeiladau glanmor deniadol a’i westai lliwgar.
Dinbych y Pysgod - heb yr holl draffig
Mae trip i Ddinbych y Pysgod yn gyfle i ddianc rhag hwrlibwrli’r ddinas. Mwynhewch brydferthwch Dinbych y Pysgod a chrwydrwch drwy strydoedd lliwgar y dref heb y straen o yrru.
Wedi’i leoli yng ngorllewin Cymru ar Lwybr Arfordir Sir Benfro, beth am roi’ch esgidiau cerdded ymlaen a cherdded ar hyd 186 milltir o lwybr Arfordir Cymru. Cyrhaeddwch yno ar drên a chrwydrwch ar droed.
Cer heb y car, mae yna rywbeth at ddant pawb, heb y car.
Cynlluniwch eich antur nesaf yma - https://trc.cymru/