- Cwcis sydd wir eu hangen
Cwcis sydd wir eu hangen
Mae rhai o’n cwcis yn hanfodol ac ni fydd rhannau o’r safle’n gweithio hebddynt. Mae hyn yn cynnwys cofnodi eich dewisiadau cadw cwcis.
09 Chw 2024
Mae Trafnidiaeth Cymru yn ailgyflwyno gwasanaethau trên pob awr rhwng Caer a Lerpwl - gan ddechrau heddiw (dydd Llun 12 Chwefror) drwy Runcorn, Helsby a Frodsham.
Bydd y cynnydd mewn gwasanaethau yn cynyddu o 15 i 30 y dydd (15 i bob cyfeiriad) a bydd yn cael ei ddarparu ar drenau newydd sbon, gan wella profiad y cwsmer a chysylltedd y rhanbarth.
Dywedodd Lee Waters, Y Dirprwy Weinidog Newid Hinsawdd gyda chyfrifoldeb dros Drafnidiaeth: “Mae hwn yn newyddion gwych. Bydd y trenau newydd hyn yn darparu profiad llawer gwell i deithwyr gyda gwasanaethau mwy rheolaidd ar drenau cyfforddus modern, gan annog mwy o bobl i adael y car gartref a gadael i'r trên gymryd y straen."
Dywedodd Jan Chaudhry-Van dêr Velde, Prif Swyddog Gweithredol TrC:
“Gan ein bod bellach mewn perchnogaeth ar fwy o'n trenau newydd sbon, rydym mewn sefyllfa i ail-ddechrau'r gwasanaeth pob awr rhwng Caer a Lerpwl trwy Frodsham a Runcorn.
“Lansiwyd gwasanaethau ar y llwybr hwn gyntaf yn 2019, ac maent yn darparu cysylltedd da â Maes Awyr John Lennon Lerpwl trwy alw yng ngorsaf Lerpwl South Parkway.
“Mae'r buddsoddiad mewn trenau newydd, a adeiladwyd yn ffatri'r gwneuthurwr CAF yng Nghasnewydd yn Ne Cymru, yn adlewyrchu rhan o drawsnewidiad parhaus y rhwydwaith gwerth £800m.