- Cwcis sydd wir eu hangen
Cwcis sydd wir eu hangen
Mae rhai o’n cwcis yn hanfodol ac ni fydd rhannau o’r safle’n gweithio hebddynt. Mae hyn yn cynnwys cofnodi eich dewisiadau cadw cwcis.
18 Medi 2023
I ddathlu Mis Dal y Bws y mis Medi hwn, mae Trafnidiaeth Cymru (TrC) yn hwyluso teithio cynaliadwy ar fysiau drwy gynnig 50% oddi ar bryniannau ap TrawsCymru am y tro cyntaf ar rai llwybrau TrawsCymru.
Gall defnyddwyr newydd ap TrawsCymru dderbyn prisiau hanner pris am docynnau dethol ar y gwasanaethau T1, T1C, T2, T3, T8 a T10. Bydd angen i gwsmeriaid nodi'r cod CBM23 wrth brynu eu tocynnau i dderbyn y cynnig.
Gellir actifadu’r tocynnau hanner pris unrhyw bryd o fewn 12 mis o’u prynu a’u defnyddio i deithio i leoliadau gwych gan gynnwys Aberystwyth, Abermaw, Bangor, Betws-y-Coed, Caerdydd, Caer a Wrecsam.
Bydd angen prynu tocynnau erbyn 30 Medi ond gellir eu defnyddio unrhyw bryd o fewn 12 mis i'w prynu.
Rydym yn falch o fod yn cefnogi Mis Dal y Bws – ymgyrch ledled y DU a arweinir gan Bus Users UK sy’n helpu i hyrwyddo’r bws fel ffordd iach, gynhwysol a chynaliadwy o deithio.
Dywedodd Mark Jacobs, Rheolwr Contractau a Pherfformiad TrawsCymru: “Rwy’n falch ein bod yn gallu cynnig gostyngiad hanner pris ar docynnau i gwsmeriaid newydd sy’n defnyddio ap TrawsCymru, i gefnogi Mis Dal y Bws y mis Medi hwn.
“Mae gwasanaethau bysiau TrawsCymru yn chwarae rhan hanfodol wrth gysylltu cymunedau ledled Cymru, tra hefyd yn ffordd gost-effeithiol, cynaliadwy a hygyrch o fynd o gwmpas.
“Mae nifer y teithwyr yn parhau i godi ar draws rhwydwaith TrawsCymru, yn enwedig ar lwybr T1, lle bu i ni basio 100,000 o deithwyr yn ddiweddar ers i ni gyflwyno fflyd newydd o fysiau trydan ym mis Mawrth.
“Rwy’n gobeithio y bydd y cynnig hwn yn annog mwy o bobl yng Nghymru i ystyried cynnwys bysiau yn eu dewisiadau teithio yn y dyfodol.”
Cadwch lygad ar ein sianeli cyfryngau cymdeithasol i weld beth arall rydyn ni'n ei wneud ar gyfer Mis Dal y Bws.
Nodiadau i olygyddion
Mae rhestr lawn o delerau ac amodau isod:
- Bydd y cod hwn yn ddilys o 00:01 12 Medi i 23:59 30 Medi 2023.
- Yn ddilys ar bryniannau ap tro cyntaf yn unig.
- Mae'r cod hwn yn ddefnydd un-amser yn unig fesul cwsmer.
- Mae'r cod CBM23 yn ddilys ar y pryniannau tocyn canlynol yn unig:
- T1: Oedolyn, plentyn a dan 21 - 10 tocyn taith, diwrnod ac wythnos
- T1C: Oedolyn, plentyn a dan 21 - tocynnau diwrnod
- T2: Oedolyn, plentyn a dan 21 – 10 tocyn taith a diwrnod
- T3: Oedolyn, plentyn a dan 21 - 10 taith, tocyn sengl a thocynnau dydd
- T8: Oedolyn a phlentyn - tocynnau diwrnod ac wythnos
- T10: Oedolyn, plentyn a dan 21 - 10 tocyn taith, diwrnod ac wythnos
- Gellir actifadu eich tocyn unrhyw bryd o fewn 12 mis i'w brynu.
- Sylwch, pan fydd yn eu hactifadu, bydd dilysrwydd cyfyngedig i docynnau.