- Cwcis sydd wir eu hangen
Cwcis sydd wir eu hangen
Mae rhai o’n cwcis yn hanfodol ac ni fydd rhannau o’r safle’n gweithio hebddynt. Mae hyn yn cynnwys cofnodi eich dewisiadau cadw cwcis.
20 Medi 2023
Ynghyd â'n partneriaid, mae Trafnidiaeth Cymru yn falch o gefnogi cymuned y Lluoedd Arfog. Fel rhan o'n huchelgais i fod yn un o sefydliadau mwyaf cynhwysol Cymru, rydym yn parhau i gefnogi'r rhai sydd wedi gwasanaethu yn y Lluoedd Arfog, fel cyflogwr a darparwr gwasanaeth.
Buom yn siarad â Sam Yaw Oppong-Druyeh sy'n gyn-filwr am ei waith yn Siemens Rail, sefydliad sy'n rhan o Gynghrair Craidd.
Dywedwch wrthym am yr amser pan oeddech yn y fyddin
Rwy'n gyn-filwr balch a chefais yrfa ragorol gyda'r Fyddin Brydeinig am dros 15 mlynedd. Fe wnes i wasanaethu gydag Uned Hedfan y Peirianwyr Trydanol a Mecanyddol Brenhinol (REEM) fel Rheolwr Technegydd Awyrennau ac fel Rheolwr Asedau Cymorth Hedfan. Fy rôl oedd datrys problemau ynghylch diogelwch ac ansawdd critigol peirianneg mewn amgylcheddau amddiffyn. Rhoddais y gorau i wasanaethu fel milwr yn y fyddin ym mis Tachwedd 2019 gan ymuno a’r adran Cynnal a Chadw Awyrennau fel contractwr ac yn ddiweddarach, fel Rheolwr Safleoedd Adeiladu.
Beth yw eich rôl bresennol gyda Gynghrair Craidd a sut wnaethoch chi ymuno?
Ymunais â Siemens, sy'n rhan o Gynghrair Craidd, drwy'r brosiect Military2Rail ym mis Ionawr 2022 fel cynllunydd prosiect ac rwyf bellach yn gweithio ar Linellau Craidd y Cymoedd (CVL), Treherbert, Aberdâr a Merthyr (TAM) a'r llinell rhwng Caerdydd a Rhymni (CAR). Mae fy rôl yn cynnwys cydlynu a chynllunio cwblhau prosiectau i sicrhau bod popeth yn rhedeg ar amser yn ogystal ag adolygu ac adrodd ar gynnydd i uwch reolwyr a chleientiaid. Mae'r rôl wedi fy ngalluogi i ddatblygu fy sgiliau yn ymdrin â risg a rheoli rhanddeiliaid.
Beth mae'n ei olygu i chi i weithio eich bod yn gweithio i gyflogwr sy'n cefnogi cymuned y lluoedd arfog?
Rwyf wedi gallu rhwydweithio ac integreiddio gyda thimau o fewn Cynghrair Craidd sydd wedi gwella fy mhroffil ymhellach. Mae'n galonogol bod mewn amgylchedd lle mae'r diwylliant yn cyd-fynd yn agos â'm gwerthoedd craidd a'm cysylltiad â'r lluoedd arfog. Mae hefyd yn galonogol gwybod bod y gwerth rydych chi'n ei ychwanegu yn cael ei werthfawrogi. O weithio gyda'r gynghrair, mae wedi tynnu fy sylw at y ffaith bod fy nghyflogwr yn gwerthfawrogi bod gan gyn-bersonél y fyddin sgiliau trosglwyddadwy amrywiol sy'n ein gwneud yn ymgeiswyr delfrydol ar gyfer rolau amrywiol o fewn amgylchedd peirianneg a chyflawni prosiectau. Mae'r gynghrair hefyd yn barod iawn i roi cyfle i bobl.
Os hoffech wybod mwy am weithio i Trafnidiaeth Cymru neu i'n partneriaid, dewch i'n Digwyddiad Recriwtio y Lluoedd Arfog i ddysgu am yr amrywiaeth o gyfleoedd sydd ar gael i gymuned y lluoedd arfog.