English icon English
Pâr o swyddogion gorfodaeth amgylcheddol ar batrôl

Swyddogion gorfodi yn targedu troseddau amgylcheddol

Enforcement officers targeting environmental crime

Mae tîm o swyddogion gorfodi troseddau amgylcheddol bellach wedi bod yn patrolio ar draws Sir Benfro ers dros fis.

Dewisodd Cyngor Sir Penfro WISE (Waste Investigations Support & Enforcement) i fynd i'r afael ag amrywiaeth o droseddau amgylcheddol sy'n cael effaith negyddol ar y cymunedau lle mae pobl yn byw, yn gweithio ac yn ymweld â nhw.

Ar 25 Medi, roedd dros 600 o Hysbysiadau Cosb Benodedig wedi'u cyflwyno.

Mae'r FPN wedi cael eu cyhoeddi ar gyfer sbwriel, baw cŵn a thorri is-ddeddfau yn ymwneud â chŵn ar draethau.

Y nod yw ysgogi newid ymddygiad yn y ganran fechan o bobl sy'n cael effaith fawr ar yr amgylchedd lleol.

Meddai'r Cynghorydd Rhys Sinnett, Aelod Cabinet dros Wasanaethau Trigolion: "Mewn byd delfrydol ni fyddai angen y math yma o orfodaeth.

"Fodd bynnag, mae nifer yr Hysbysiadau Cosb Benodedig a gyhoeddwyd eisoes yn dangos bod yna bobl o hyd a fydd yn gollwng sbwriel neu'n methu â chodi baw eu ci ac yn cyflawni troseddau amgylcheddol eraill sy'n parhau i ddifetha'r amgylchedd i bawb arall.

"Trwy gyflwyno'r Hysbysiadau Cosb Benodedig hyn rydym ni’n anfon y neges na fydd y math hwn o ymddygiad yn cael ei oddef.

"Defnyddiwch y biniau a ddarperir, cymerwch gyfrifoldeb am eich gweithredoedd eich hun a gwnewch eich rhan i helpu i gadw Sir Benfro yn lle prydferth i bawb."

Diolchodd y Cynghorydd Sinnett i aelodau'r cyhoedd sydd wedi anfon e-bost i enviro-crime@pembrokeshire.gov.uk i dynnu sylw at feysydd o bryder penodol.

Ychwanegodd y Cynghorydd Sinnett: "Y cyhoedd fydd ein llygaid a'n clustiau ar lawr gwlad bob amser. Rhowch wybod i ni lle mae materion yn digwydd fel y gallwn ni hysbysu swyddogion gorfodi a gallwn ni dargedu patrolau yn unol â hynny."