- Cwcis sydd wir eu hangen
Cwcis sydd wir eu hangen
Mae rhai o’n cwcis yn hanfodol ac ni fydd rhannau o’r safle’n gweithio hebddynt. Mae hyn yn cynnwys cofnodi eich dewisiadau cadw cwcis.
20 Medi 2023
Bydd gwasanaethau rheilffordd NEWYDD SBON yn cael eu lansio ar un o brif reilffyrdd De Cymru, gan bron ddyblu nifer yr opsiynau teithio.
Diolch i fuddsoddiad o £70 miliwn drwy Lywodraeth Cymru a Chyngor Bwrdeistref Sirol Blaenau Gwent, bydd Trafnidiaeth Cymru a Network Rail yn darparu gwasanaethau uniongyrchol rhwng Glynebwy a Chasnewydd.
O fis Rhagfyr ymlaen, bydd dau drên yr awr yn rhedeg ar y rheilffordd – un i Gaerdydd ac un i Gasnewydd.
Mae hynny’n golygu y bydd gan y rheilffordd fwy na 60 o wasanaethau’n rhedeg arni bob un diwrnod.
Dywedodd Kevin Lewis, Noddwr Prosiect TrC fod y prosiect yn enghraifft o “gydweithio go iawn”.
Dywedodd: “Bydd y gwasanaethau newydd hyn yn hwb enfawr i’r economi leol gan roi mwy o opsiynau teithio i bobl ar gyfer hamdden, dysgu a busnes.
“Os ydych chi eisiau teithio i Fryste, Llundain neu Fanceinion, does dim rhaid i chi fynd yn ôl i Gaerdydd mwyach, er bod y gwasanaethau hynny’n dal yno i’r rheini sy’n mynd i’r gorllewin.
“Mae TrC, Network Rail a’n partneriaid yng Nghyngor Blaenau Gwent, yn ogystal â Chyngor Caerffili, wedi gweithio’n eithriadol o agos i sicrhau ein bod wir wedi cael gwerth am arian o’r buddsoddiad hwn gan Lywodraeth Cymru. Mae hyn wedi bod yn ymdrech ar y cyd go iawn.”
Fel rhan o’r prosiect hwn, mae pont droed gwbl hygyrch wedi cael ei hadeiladu hefyd yn Llanhiledd a phlatfformau newydd yn Llanhiledd a Threcelyn, sy’n golygu bod mynediad heb risiau at bob platfform ar y rheilffordd.
Er mwyn i’r gwasanaethau allu rhedeg, mae dolen basio newydd 7 milltir o hyd wedi cael ei hadeiladu rhwng Crosskeys ac Aberbîg ochr yn ochr â gwaith cloddio a draeniau newydd, a adeiladwyd ar gyfer y cledrau newydd. Ochr yn ochr â’r gwaith hwn, mae’r Adran Drafnidiaeth a Network Rail wedi darparu £17m arall o gyllid i uwchraddio signalau ym mhen deheuol y rheilffordd.
Mae Network Rail gyda chontractwyr AmcoGiffen a Siemens wedi bod yn cyflawni’r gwaith ar y seilwaith dros y 18 mis diwethaf. Nodir cam nesaf y gwaith isod. Yn ystod y cyfnod hwn, bydd y gwaith yn barhaus (24/7) wrth i fysiau ddisodli trenau.
- Dydd Sul 24 Medi
- Dydd Sadwrn 30 Medi a dydd Sul 1 Hydref
- Dydd Mercher 15 Tachwedd i ddydd Llun 4 Rhagfyr 2023
Dywedodd Nick Millington, Cyfarwyddwr Llwybrau Network Rail Cymru a’r Gororau: “Rwy’n falch iawn ein bod nawr yn dechrau ar gam olaf y gwaith a fydd yn trawsnewid sut mae teithwyr yn teithio ar reilffordd Glynebwy. “Rydyn ni’n falch o ddarparu teithiau carbon isel a chefnogi uchelgeisiau Llywodraeth Cymru, gan gynnwys symud oddi wrth ddefnyddio ceir preifat. Bydd hefyd yn helpu i gysylltu cymunedau a rhoi hwb i’r economi leol.
“Hoffwn ddiolch eto i deithwyr a’n cymdogion am barhau i fod yn amyneddgar wrth i ni gwblhau’r gwelliannau hanfodol hyn.”
Bydd tocyn dwyffordd o Dref Glynebwy i Gasnewydd yn costio £8.30 neu bydd tocyn tymor saith diwrnod yn costio £29.10 (yn gywir hyd at fis Mawrth 2024).
Ailagorodd rheilffordd Glynebwy yn 2008 ar ôl bod ar gau am 40 o flynyddoedd ac roedd y gwasanaethau uniongyrchol yn ôl ac ymlaen i Gaerdydd Canolog yn boblogaidd ar unwaith gyda theithwyr.
Yn 2014, agorodd gorsaf newydd sbon yn Pye Corner a oedd yn gwasanaethu teithwyr ym mhen deheuol y rheilffordd ac yn 2015, gosodwyd tua 1.5 milltir o gledrau newydd i ymestyn y rheilffordd o Barcffordd Glynebwy i orsaf newydd sbon yn Nhref Glynebwy.
Dywedodd y Cynghorydd John Morgan, Aelod Cabinet dros Le ac Adfywio a Datblygu Economaidd yng Nghyngor Blaenau Gwent:“Rwy’n falch bod y gwaith i wella’r gwasanaeth rheilffyrdd bron â gorffen. Mae gweithio gyda’n partneriaid yn Llywodraeth Cymru, Network Rail a Trafnidiaeth Cymru i wella cyswllt rheilffordd Glyn Ebwy er mwyn cael cysylltiadau trafnidiaeth gwell yn dal yn flaenoriaeth uchel i’r Cyngor.
“Does gen i ddim amheuaeth y bydd gwasanaeth amlach yn gwella cyfleoedd ar gyfer mewnfuddsoddi, mynediad at gyflogaeth yn yr ardal leol a thu hwnt ac yn gwella rhydweli drafnidiaeth hanfodol sy’n cael ei hystyried yn brif ffactor yng nghyd-destun cynnig ehangach Bargen Ddinesig Prifddinas-Ranbarth Caerdydd a datblygiad y Metro.”
Dywedodd y Cynghorydd Nigel George, Aelod Cabinet dros Wasanaethau Corfforaethol, Eiddo a Phriffyrdd yng Nghyngor Caerffili:“Mae’r gwelliannau yng ngorsaf Trecelyn a’r gwaith ehangach ar y llwybr rhwng Glynebwy a Chasnewydd yn gam gwych ymlaen tuag at wella mynediad i bawb at drafnidiaeth gyhoeddus.
“Nid yn unig y byddant yn gwella mynediad i deithwyr anabl, dylent hefyd annog mwy o bobl i deithio ar drenau a gwella profiad teuluoedd sydd â phramiau a’r rheini sydd â bagiau.
“Hoffwn ddiolch i’r rhanddeiliaid i gyd am eu holl waith caled a Llywodraeth Cymru am ei buddsoddiad i wireddu’r gwaith hwn. Edrychaf ymlaen at weld y gwahaniaeth y bydd yn ei wneud i bobl yn lleol.”
O ganlyniad i’r cynnydd mewn gwasanaethau, bydd amseroedd y trenau’n newid, felly mae’n bwysig bod cwsmeriaid yn cadarnhau manylion eu taith o 11 Rhagfyr ymlaen.