- Cwcis sydd wir eu hangen
Cwcis sydd wir eu hangen
Mae rhai o’n cwcis yn hanfodol ac ni fydd rhannau o’r safle’n gweithio hebddynt. Mae hyn yn cynnwys cofnodi eich dewisiadau cadw cwcis.
19 Medi 2023
Gyda llygaid y byd ar gystadleuaeth Cwpan Rygbi'r Byd, mae Trafnidiaeth Cymru yn falch o groesawu rhywfaint o’r gymuned Ffijïeg i Gaerdydd ddydd Iau hwn ar gyfer digwyddiad rygbi a recriwtio.
Mae Trafnidiaeth Cymru wrthi'n adeiladu Metro De Cymru ac mae wedi trefnu digwyddiad i rai o'r busnesau sy'n rhan o'i gadwyn gyflenwi ddod ynghyd i hyrwyddo eu swyddi gwag i Gymuned y Lluoedd Arfog.
Anogir unrhyw gyn-filwyr, y rheini sydd ar fin gadael y lluoedd arfog, milwyr wrth gefn, gwirfoddolwyr gyda'r cadetiaid neu bartneriaid, i fynd i'r digwyddiad os ydynt yn chwilio am waith neu i ddysgu mwy am y swyddi sydd ar gael.
Cynhelir y digwyddiad ym Mharc yr Arfau Caerdydd Ddydd Iau 21 Medi 2023 am 13.00.
Gyda bylchau sgiliau ar draws sawl sector, bydd 40 o fusnesau yn bresennol yn y digwyddiad recriwtio. Ar ôl y digwyddiad, bydd gêm rygbi rhwng Tîm Rygbi Byddin Fiji a Thîm Rygbi Gwasanaethau Brys Cymru.
Dywedodd Karl Gilmore, Cyfarwyddwr Seilwaith Rheilffyrdd TrC: “Yn TrC, rhoddwyd Gwobr Aur Cyfamod y Lluoedd Arfog i ni yn ddiweddar ac rydym yn cynnal y digwyddiad hwn fel y gall cyn-filwyr yn y rhanbarth hwn chwilio am swyddi neu ddod i wybod pa rolau sydd ar gael.
“Mae prosiectau seilwaith ar raddfa fawr yn digwydd ledled y diwydiant rheilffyrdd yng Nghymru ac mae llawer o gyfleoedd a bylchau sgiliau yn ein cadwyn gyflenwi. Rydym yn annog pawb sy'n rhan o Gymuned y Lluoedd Arfog i ddod i'r digwyddiad hwn gan y gallai fod gennych y sgiliau rydyn ni'n chwilio amdanynt.
“Fel rhan o'r digwyddiad, rydym hefyd yn falch o groesawu rhywfaint o’r gymuned Ffijïeg i Gymru gyda gêm rygbi yn ddiweddarach yn y prynhawn.”