Skip to main content

Children's artwork on display in Carmarthen

16 Maw 2022

Grŵp o blant ysgol o Gaerfyrddin yn helpu i roi bywyd newydd i orsaf reilffordd y dref gyda darn unigryw o waith celf.

Cafodd disgyblion Ysgol y Model y dasg o greu darn o gelf i ddangos beth mae Caerfyrddin yn ei olygu iddyn nhw.

Mae eu cynllun yn dangos Myrddin y consuriwr – rhywun y mae llawer o ysgrifennu wedi bod amdano yng Nghymru ers y 12fed Ganrif - ar drên ac ar ei ffôn symudol – er mwyn dangos elfennau hudolus Caerfyrddin.

Fe’i crëwyd gan ‘Griw Cymraeg’ yr ysgol - disgyblion o bob dosbarth, sy’n amrywio o oedran rhwng pedwar ac 11.

Dywedodd y plant: “Rydyn ni wedi cael llawer iawn o sbort yn helpu gorsaf drenau Caerfyrddin i greu’r faner newydd hwn.  Buom yn gweithio gyda'n gilydd i drafod yr hyn yr oedd Caerfyrddin yn ei olygu i ni.  Roedden ni’n llawn syniadau.

“Fe benderfynon ni gynnwys Myrddin ar drên fel canolbwynt i’n holl syniadau am pam fod Caerfyrddin mor arbennig ynghyd â’r pyffiau o fwg yn dod o’r trên.

“Roedden ni hefyd eisiau cynnwys enfys er mwyn ein hatgoffa o’r hyn rydyn ni wedi bod trwyddo yn sgil COVID.   Fe wnaethon ni helpu ein gilydd a chydweithio – rydyn ni’n gobeithio y bydd pawb sy’n gweld ein gwaith yn yr orsaf drenau yn ei fwynhau.”

Ychwanegodd Cynghorydd Sir Caerfyrddin Alan Speake, sydd hefyd yn Llywodraethwr yn Ysgol Fodel: “Mae’r plant wedi bod mor ymatebol - yn gwrando ar arweiniad a chefnogaeth staff yr ysgol – cefnogaeth o ansawdd proffesiynol gwirioneddol – gan arwain at gwblhau’r gwaith o’u blaenau o’r radd flaenaf.

Pwy a ŵyr?  Efallai bod darpar Michelangelo neu ddau yn eu mysg.

Mae gorsaf reilffordd Caerfyrddin yn un o nifer sy’n elwa o Weledigaeth Gwella Gorsaf Trafnidiaeth Cymru gwerth miliynau o bunnoedd.

Bydd y rhaglen uchelgeisiol yn darparu adnewyddiadau a chyfleusterau gwell ym mhob gorsaf a lle bo modd, bydd Trafnidiaeth Cymru hefyd yn creu cyfleusterau manwerthu newydd, gan gyflwyno cyfleoedd i fusnesau lleol a gweithio mewn partneriaeth i ddatblygu mannau cymunedol mewn gorsafoedd.

Dywedodd Rheolwr Gorsaf Caerfyrddin, James Nicholas: “Rydym wedi ymrwymo i wneud Caerfyrddin yn orsaf fywiog a chroesawgar i'n cwsmeriaid, felly roedd yn wych cydweithio ag Ysgol Gynradd y Model ar y prosiect hwn.

“Gofynnon ni i’r plant grynhoi beth mae Caerfyrddin yn ei olygu iddyn nhw ac fe gawson ni ein syfrdanu gan eu hymatebion.  Hoffwn ddiolch yn bersonol i'r plant, y Cynghorydd Alan Speake a'n tîm cysylltiadau cymunedol am eu hymdrechion.

“Bydd y gwaith celf newydd yn bywiogi ein hystafelloedd aros cwsmeriaid ar gyfer ymwelwyr ac yn crynhoi pa mor bwysig yw cael gorsaf sydd wrth galon y gymuned.”