Dwr Cymru Welsh Water News

14 Mar 2022

Ffeindiwch dag a bachwch £1000 yng nghystadleuaeth pysgota tag Llyn Brenig!

Find a tag and bag £1000 in Llyn Brenig’s tagged fishing competition!

Ffeindiwch dag a bachwch £1000 yng nghystadleuaeth pysgota tag Llyn Brenig!: Llyn Brenig Fish Farmer Jack Finney stocking lake March 2022 2

Mae ffermwyr pysgod yn Llyn Brenig wedi gosod tagiau ar nifer o bysgod yn barod ar gyfer cystadleuaeth pysgota tag, a fydd yn dechrau ar y llyn ar 18 Mawrth. I ddathlu dechrau'r tymor pysgota, bydd y gystadleuaeth rad ac am ddim yma'n gweld pysgotwyr brwd yn cystadlu am y pysgod â thag a gaiff eu rhyddhau i’r llyn trwy gydol y tymor.

Yn ogystal â’r stoc arferol, mae 300 o frithyll seithliw mawr ychwanegol yn cael eu rhyddhau ar gyfer y tymor hwn. Mae rhai ohonynt dros 10 pwys! Felly mae digonedd o resymau i bysgotwyr ddod i Brenig wrth i ni ailagor i bysgotwyr ar 18 Mawrth.

Mae cystadlaethau pysgota tag yn boblogaidd iawn yn UDA ac maent yn rhedeg mewn nifer o wledydd eraill hefyd, gan gynnwys Awstralia. Mae'r amodau yn Llyn Brenig a'r stoc o bysgod yn berffaith i bysgotwyr, a gyda gwobr gyntaf o £1,000, mae hi'n sicr yn werth roi cynnig ar y gystadleuaeth hon!

Mae'r tagiau pysgod yn cael eu gosod wrth ymyl yr asgell ddorsal heb wneud unrhyw niwed i'r pysgodyn. Gall pysgotwyr gasglu'r tagiau a'u dychwelyd i Ganolfan Ymwelwyr Llyn Brenig neu e-bostio lluniau sy’n dangos y manylion ar y tag. Mae angen hawlen bysgota ddilys i bysgota yn Llyn Brenig. Gellir prynu'r rhain ar lein neu yn y ganolfan ymwelwyr.

Bydd y gystadleuaeth yn rhedeg drwy'r tymor tan 3 Tachwedd, a bydd raffl y diwedd blwyddyn ar 5 Tachwedd yn defnyddio manylion y tagiau a gesglir yn ystod y tymor.

Gwobr 1af - £1,000 arian parod

2il wobr - tocyn tymor llawn

3ydd wobr - tocyn hanner tymor

Mae manylion Ymgeisio i'r gystadleuaeth pysgota tag, y rheolau a'r rheoliadau’ ar ein gwefan

Llyn Brenig Fish Farmer Jack Finney stocking lake March 2022

Gwybodaeth Cyswllt

Sally Walters
Visitor Attractions Comms & Marketing Manager
Dwr Cymru Welsh Water
sally.walters@dwrcymru.com

Nodiadau i olygyddion

DIWEDD

Nodiadau i'r golygydd

  • Mae Dŵr Cymru’n unigryw yn y diwydiant dŵr am ei fod mewn perchnogaeth ar ran ei gwsmeriaid
  • Mae'r cwmni wedi bod yn eiddo i Glas Cymru ers 2001. Cwmni a sefydlwyd yn Ebrill 2001 yn unswydd at ddibenion caffael a pherchen ar Ddŵr Cymru yw Glas Cymru.
  • Nid oes unrhyw gyfranddeiliaid gan y cwmni, ac mae'r holl elw ariannol yn cael ei ail-fuddsoddi yn y busnes er budd y cwsmeriaid
  • Mae Dŵr Cymru yn buddsoddi'n drwm ac yn gweithio'n galed er mwyn sicrhau bod y cymunedau y mae'n eu gwasanaethu'n cael gwasanaethau o'r safon uchaf
  • Bydd y cwmni'n buddsoddi £1.8 biliwn yn ei rhwydweithiau dŵr a charthffosiaeth rhwng 2020 a 2025.
  • Mae'r cwmni'n gwasanaethu'r rhan fwyaf o Gymru, Glannau Dyfrdwy a Sir Henffordd. Y cwmni yw'r mwyaf ond pump o 10 cwmni dŵr a charthffosiaeth Cymru a Lloegr. 

Ymholiadau i swyddfa'r wasg, Dŵr Cymru Welsh Water ar 01443 452452 / press@dwrcymru.com