English icon English
Top row - Vivan Laing, NSPCC
Middle row - Sally Holland, Children's Commissioner for Wales
Bottom Row [L-R] -  Julie Morgan, Deputy Minister for Social services, Janae and Malakai

Cosbi plant yn gorfforol nawr yn anghyfreithlon yng Nghymru

Physically punishing children becomes illegal in Wales

O heddiw [Mawrth 21], bydd yn anghyfreithlon cosbi plant yn gorfforol yng Nghymru wrth i Lywodraeth Cymru barhau i roi lle canolog i hawliau plant yn ei pholisïau.

Mae Cymru yn ymuno â mwy na 60 o genhedloedd y byd i roi terfyn ar gosbi plant yn gorfforol. Mae’r ddeddfwriaeth hon, sy’n gryn garreg filltir, yn cael gwared â’r amddiffyniad cyfreithiol hynafol 160 oed ac yn amddiffyn  plant rhag ymosodiadau yn yr un modd ag oedolion.

O dan Ddeddf Plant (Diddymu Amddiffyniad Cosb Resymol) (Cymru) 2020, mae pob math o gosbi corfforol, fel smacio, taro, slapio ac ysgwyd, yn anghyfreithlon. Bydd y gyfraith newydd yn berthnasol i bawb yng Nghymru, gan gynnwys ymwelwyr, o 21 Mawrth 2022.

Mewn digwyddiad i blant bach yn Techniquest, croesawodd y Dirprwy Weinidog Gwasanaethau Cymdeithasol, Julie Morgan, y Ddeddf, gan ddweud:

“Mae heddiw yn ddiwrnod hanesyddol i blant a’u hawliau yng Nghymru wrth inni roi’r arfer o gosbi plant yn gorfforol y tu ôl inni. Dw i wedi ymgyrchu i’w gwneud yn anghyfreithlon cosbi plant yn gorfforol ers dros 20 mlynedd. Dw i wrth fy modd y bydd plant, o’r diwedd, o heddiw ymlaen, yn cael eu hamddiffyn rhag ymosodiadau yn yr un modd ag oedolion. 

“Mae’r gyfraith yn glir bellach – ac yn haws i blant, rhieni, gweithwyr proffesiynol a’r cyhoedd ei deall. Mae cosbi corfforol yn anghyfreithlon yng Nghymru ac alla i ddim dweud wrthoch chi mor hapus mae hynny’n fy ngwneud i.”

“Rydyn ni eisiau diogelu plant a’u hawliau, a bydd y gyfraith hon yn ychwanegu at y gwaith rhagorol rydyn ni’n ei wneud i ofalu bod pob plentyn yng Nghymru yn cael y dechrau gorau mewn bywyd, ac yn cael byw’r bywydau y maen nhw am ei fyw.”

Dywedodd Prif Weinidog Cymru, Mark Drakeford:

“Dw i wrth fy modd ei bod hi bellach yn anghyfreithlon cosbi plant yn gorfforol yng Nghymru. Mae hyn yn rhywbeth hanesyddol i blant a’u hawliau.”

“Mae Confensiwn y Cenhedloedd Unedig ar Hawliau’r Plentyn yn ei gwneud yn glir bod gan blant yr hawl i gael eu diogelu rhag niwed a rhag cael eu brifo, ac mae hynny’n cynnwys eu hamddiffyn rhag cael eu cosbi’n gorfforol. Mae’r hawl honno bellach yn rhan glir o gyfraith Cymru. Dim mwy o ansicrwydd. Dim ‘amddiffyniad cosb resymol’ bellach. Mae hynny i gyd yn y gorffennol. Does dim lle i gosbi corfforol mewn Cymru fodern.”

DIWEDD

Nodiadau i olygyddion

Notes

More information on the legislation can be found here: gov.wales/endphysicalpunishment  

More information on positive parenting including resources to help parents, is available through Parenting. Give it time:  gov.wales/giveittime

NSPCC Cymru

Dywedodd Viv Laing, Rheolwr Polisi a Materion Cyhoeddus NSPCC Cymru, “Mae’r Ddeddf newydd yn dangos yng Nghymru, fel mewn mwy na 60 o wledydd ledled y byd, na fyddwn yn goddef cosbi corfforol yn erbyn plant mwyach.

"Hyd yn hyn, plant oedd yr unig grŵp yn ein cymdeithas yr oedd yn dderbyniol i fwrw dan rai amgylchiadau. Nid ydym yn caniatáu cosbi oedolion nac anifeiliaid yn gorfforol, felly mae'n hurt ein bod wedi galluogi hyn cyhyd gyda phlant. Mae NSPCC Cymru wedi bod yn glir ar hyn ers tro, ac yn awr, o'r diwedd, mae'r gyfraith hefyd.

“Mae rhianta cadarnhaol yn seiliedig ar ganmol y pethau da y mae plant yn eu gwneud, fel eu bod yn dysgu ailadrodd yr ymddygiad hwnnw, yn ogystal â gosod ffiniau clir a chyson.

"Rydym yn gwybod bod magu plant yn gallu bod yn heriol ar brydiau, felly mae ymgyrch Camu’n ôl am 5 yr NSPCC yn rhoi awgrymiadau i rieni, gofalwyr a gwarcheidwaid i'w helpu i feddwl cyn ymateb yn gorfforol mewn sefyllfaoedd o'r fath."

Barnardo’s Cymru

Dywedodd Sarah Crawley, Cyfarwyddwr Barnardo’s Cymru: “Rydym wrth ein bodd y bydd gennym eglurder o’r diwedd i rieni, gofalwyr a phob un ohonom sy’n gweithio’n uniongyrchol gyda phlant nad yw eu cosbi’n gorfforol o fudd i neb, nad yw bellach yn dderbyniol a nawr yn anghyfreithlon.

“Rydym yn hyderus y bydd y ddeddfwriaeth hon yn gyrru’r newid diwylliannol mewn rhianta y mae ymchwil yn dangos sydd eisoes wedi hen ddechrau. Mae’n gyfle pwysig i les plant a pherthnasoedd teuluol wella, yn ogystal â bod yn fuddsoddiad yn lles y genhedlaeth nesaf o rieni a gofalwyr plant.

“Nawr yw’r amser iawn ar gyfer newid oherwydd rydyn ni, fel cymdeithas, wedi newid. Mae ymchwil ar agweddau rhieni at gosb gorfforol yng Nghymru yn dangos nad yw mwyafrif y rhai a holwyd yn meddwl bod byth angen smacio plentyn a bron i 60% yn meddwl ei bod eisoes yn erbyn y gyfraith i wneud hynny.

“Byddwn yn parhau i weithio gyda miloedd o rieni a gofalwyr plant ledled Cymru gan eu cefnogi i fod yn rhieni gwych.”

Plant yng Nghymru 

Meddai Cyfarwyddwr Polisi Plant yng Nghymru, Sean O’Neill: “Mae heddiw’n nodi digwyddiad hanesyddol gan y bydd plant ledled Cymru nawr yn gallu mwynhau’r un lefel o amddiffyniad rhag ymosodiad ag oedolion. Rydym yn cefnogi’r newid hwn yn y gyfraith cant y cant ac rydym wedi ymgyrchu ers tro dros roi diwedd ar gosbi corfforol. Mae ein gwlad ar daith flaengar tuag at wireddu hawliau llawn i blant, ac mae’r newid yn y gyfraith heddiw yn gam sylweddol i’r cyfeiriad hwn.”

Achub y Plant yng Nghymru

Dywedodd Melanie Simmonds, Pennaeth Achub y Plant yng Nghymru: “Rydym yn falch o weld y gyfraith hon yn dod i rym ar 21 Mawrth. Bydd plant sy’n byw yng Nghymru yn tyfu i fyny gan wybod y byddan nhw’n cael yr un amddiffyniad cyfreithiol rhag cosbi corfforol ag oedolion a bod eu hawliau’n cael eu parchu.

“Byth ers i’n sylfaenydd, Eglantyne Jebb, ddrafftio’r ‘Datganiad o Hawliau’r Plentyn’ cyntaf a oedd yn sail i Gonfensiwn y Cenhedloedd Unedig ar Hawliau’r Plentyn, rydym wedi ymladd dros blant – pwy bynnag ydyn nhw, ble bynnag y bônt – i allu i fyw bywyd llawn, iach a hapus.

“Trwy ein gwaith gyda phartneriaid a rhieni, rydym yn gwybod pan fydd rhieni a gofalwyr plant yn cael eu cefnogi gyda’u hemosiynau a’u lles eu hunain eu bod yn teimlo’n fwy hyderus ac wedi’u harfogi i reoli ymddygiad eu plentyn mewn ffordd fwy adeiladol a chadarnhaol. Mae dull rhianta cefnogol a chadarnhaol, yn enwedig yn ystod y blynyddoedd cynnar hollbwysig, yn gwella gallu plentyn i ddysgu ac yn helpu i siapio’r person y mae’n tyfu i fod ac wedyn ei chyfraniad hwy i’r gymdeithas ehangach.”

Coleg Brenhinol yr Ymarferwyr Cyffredinol Cymru

Dywedodd Dr Rowena Christmas, cadeirydd Coleg Brenhinol yr Ymarferwyr Cyffredinol Cymru: “Mae’r dystiolaeth yn dangos yn gwbl glir fod cosbi plentyn yn gorfforol yn gallu bod yn niweidiol i les y plentyn a’r rhiant.

“Nid yw’n cynnig unrhyw fudd na ellir ei gael o ddull arall o ddisgyblu, ond mae’n gysylltiedig ag ystod eang o niweidiau sy’n gallu para oes.”

Pennaeth Ysgol y Bryn yn Llanelli

Dywedodd Stephen Thomas, pennaeth Ysgol y Bryn yn Llanelli: "Mewn byd lle mae pawb, gan gynnwys oedolion, yn gwneud camgymeriadau, mae’n hollbwysig ein bod yn cefnogi ein plant a’n pobl ifanc trwy eu helpu, eu cynorthwyo a’u harwain i ddysgu o gamgymeriadau.

“Does dim lle i gosbi corfforol wrth fagu plant. Mae darparu cysondeb, arferion da a bod yn esiampl dda i’n plant o ran y gwerthoedd yr hoffem iddyn nhw eu dangos yn creu pobl dda.”

Heddlu Gwent

Dywedodd Pam Kelly, Prif Gwnstabl Heddlu Gwent: “Bydd 21 Mawrth 2022 yn foment hanesyddol i amddiffyn hawliau plant yng Nghymru. O’r diwrnod hwn ymlaen, bydd cosbi plant yn gorfforol yn anghyfreithlon ar draws y wlad.

“Rydym ni’n llwyr gefnogi’r ddeddf newydd hon. Ein rôl fel heddweision, gan weithio gydag asiantaethau diogelu eraill yng Nghymru, yw rhoi cymorth a sicrwydd i deuluoedd, nid eu troseddoleiddio. Ond mae’n bwysig cydnabod nad yw disgyblu plant a’u cosbi’n gorfforol yr un peth.

“Mae diogelu plant yn hollbwysig ac mae cydweithwyr yn yr heddlu ledled Gwent yn gweithio’n agos gydag asiantaethau partner i sicrhau bod amddiffyn a diogelu plant yn flaenoriaeth.

“Byddwn yn parhau i weithio gyda Llywodraeth Cymru, rhanddeiliaid allweddol, heddluoedd eraill yng Nghymru, Comisiynwyr Heddlu a Throseddu a Gwasanaeth Erlyn y Goron i roi’r newidiadau hyn ar waith.” 

Gwasanaethau cymdeithasol Cyngor Ynys Môn

Dywedodd Fôn Roberts, cyfarwyddwr gwasanaethau cymdeithasol a phennaeth gwasanaethau plant a theuluoedd yng Nghyngor Ynys Môn: “Dylai plant allu mwynhau eu plentyndod. Mae llawer o ffyrdd mwy effeithiol o fagu plant na throi at gosbi corfforol. Ac fel tîm gwasanaethau cymdeithasol, rydym ni yma i gynnig cyngor a chymorth i rieni a gofalwyr sy’n chwilio am ffordd amgen o ddisgyblu.” 

Seicolegydd addysgol

Dywedodd Dewi Rowland Hughes, uwch seicolegydd addysgol a phlant a llywydd y Gymdeithas Seicolegwyr Addysgol: “Nid yw unrhyw riant eisiau smacio ei blentyn ac mae rhesymau da dros beidio â gwneud hynny. Yn gyntaf, yr effaith negyddol ar y berthynas rhwng y gofalwr a’r plentyn – mae’n niweidio ymddiriedaeth ac yn achosi cysylltiadau negyddol. Yn ail, mae’n fath o gamdrin pŵer ac yn codi cywilydd ar y plentyn – i’w orfodi i roi’r gorau i wneud rhywbeth nad ydych chi’n ei hoffi. Yn drydydd, mae’n esiampl wael o sut i ymddwyn pan fydd rhywbeth y mae rhywun arall yn ei wneud yn eich gwylltio. Nid dyna beth rydym ni eisiau ei ddysgu i’n plant. 

“Yn ffodus, mae dewisiadau amgen, cydweithredol ar gael yn lle cosbi corfforol.  Gallwn ddatblygu disgyblaeth gadarnhaol gyda’n plant ac felly rhoi smacio lle y dylai fod – ym min sbwriel hanes!”

Dywedodd Yr Athro Karen Graham: “P’un a ydych yn rhiant neu’n dylanwadu ar rieni trwy roi cymorth, argymhellaf yn gryf eich bod yn ymweld â’r wefan Magu plant. Rhowch amser iddo (llyw.cymru/rhowchamseriddo) i lwyr ddeall pam mae magu plant yn gadarnhaol yn ddewis gwell ar gyfer disgyblu plant.

“Mae gwahardd cosbi corfforol yn ymwneud â chymaint yn fwy nag atal smacio; mae’n ymwneud â llwyr gefnogi dulliau mwy ystyrlon o ddisgyblu sy’n datblygu gwydnwch ac ymddiriedaeth ar yr un pryd â chryfhau eich perthynas gydol oes â’ch plentyn.”