- Cwcis sydd wir eu hangen
Cwcis sydd wir eu hangen
Mae rhai o’n cwcis yn hanfodol ac ni fydd rhannau o’r safle’n gweithio hebddynt. Mae hyn yn cynnwys cofnodi eich dewisiadau cadw cwcis.
14 Maw 2022
Bydd Cyngor Sir Ddinbych a Thrafnidiaeth Cymru yn cyflwyno cynllun cludiant cyhoeddus arloesol sy’n ymateb i’r galw yn ac o amgylch ardal Rhuthun.
fflecsi yw enw’r cynllun, ac mae’n un o ddim ond 12 enghraifft yng Nghymru. Mae’n ymuno â chynlluniau peilot yn Ninbych a Phrestatyn yn Sir Ddinbych.
Fel rhan o ddatganiad Argyfwng Hinsawdd y Cyngor, bydd hefyd yn cael ei weithredu gan fws mini 16 sedd di allyriadau a weithredir yn llwyr gan fatri, yr un cyntaf erioed yn y wlad. Rhaid diolch am y gefnogaeth gan Lywodraeth Cymru a Gwasanaeth Ynni Llywodraeth Cymru.
Bydd y cynllun cludiant hefyd yn darparu adborth defnyddiol ar addasrwydd cerbydau o’r fath mewn sefyllfaoedd a lleoliadau tebyg ledled Cymru.
Bydd teithwyr yn gallu archebu eu cludiant seiliedig ar alw awr o flaen llaw trwy un ai lawrlwytho a defnyddio gwefan fflecsi.cymru neu trwy ffonio canolfan alwadau ddynodedig. Yna gall yr ap hysbysu’r cwsmer ynghylch unrhyw newidiadau yn yr amseroedd casglu.
Bydd fflecsi Rhuthun ar gael o fewn tref Rhuthun ei hun. Gall y cerbyd deithio o amgylch y rhan fwyaf o ffyrdd pengaead trefol Rhuthun. Bydd hyn yn cyflwyno gwasanaeth bws i nifer o bobl yn Rhuthun am y tro cyntaf.
Bydd fflecsi hefyd yn gwasanaethu nifer o bentrefi a phentrefannau, yn bennaf Bontuchel, Clawddnewydd, Clocaenog, Derwen, Graigfechan, Llanelidan, Pentrecelyn a Rhydymeudwy.
Pan gyflwynwyd fflecsi yn flaenorol mewn Ardaloedd gwledig, hyd yma gwelwyd cynnydd yn y galw gan deithwyr o gymharu â gwasanaethau bws a amserlennwyd.
Meddai Lee Waters, Dirprwy Weinidog dros Newid Hinsawdd a chyfrifoldeb am Gludiant: “Mae fflecsi yn gynllun newydd i wneud gwasanaethau bws yn fwy hygyrch a defnyddiol i bobl wneud siwrneiau bob dydd. Mae’n rhoi mwy o reolaeth i deithwyr o ran sut maent yn teithio trwy ddarparu mynediad i deithio dibynadwy a hyblyg, a helpu i greu Cymru fwy gwyrdd.”
Dywedodd James Price, Prif Weithredwr Trafnidiaeth Cymru: “Mae’r gwasanaeth arloesol hwn yn rhan bwysig o weledigaeth Trafnidiaeth Cymru a Llywodraeth Cymru i leihau’r defnydd o geir a hyrwyddo ffyrdd mwy gwyrdd o deithio, a chefnogi’r economi leol a sicrhau mynediad at gludiant cyhoeddus. Rydym yn falch o lwyddiant y cynlluniau peilot fflecsi ledled Cymru ac wrth ein boddau o allu ehangu’r gwasanaeth gyda cherbyd trydan newydd.”
Dywedodd y Cyng. Brian Jones, Aelod Arweiniol dros Wastraff, Cludiant a’r Amgylchedd: “Bellach mae hyblygrwydd o ran ble gall teithwyr deithio. Nid oes angen i leoliadau yn Rhuthun fod yng nghanol y dref yn unig, a gallant bellach gynnwys y ganolfan hamdden, un o’r tair archfarchnad, meddygfeydd, yr ysbyty neu unrhyw le y gall y bws deithio iddo’n ddiogel. Mae hyn hefyd yn cynnwys cyfleoedd i bentrefwyr gyrraedd Coleg Llysfasi heb newid bysys, er enghraifft.
“Mae fflecsi yn cynnig ateb sy’n gallu ymateb i anghenion teithwyr yn llawer mwy penodol. Mae’r amrywiaeth o fannau casglu a gollwng yn llawer gwell. Mae gwasanaethau bws yn Rhuthun a’r pentrefi i’r de a gorllewin y dref wedi bod yn eithaf cyfyngedig yn draddodiadol. Gobeithiwn trwy fod yn hyblyg y gallwn gynnig mwy o gyfleoedd i deithwyr presennol ac y gallwn hefyd ddenu defnyddwyr newydd.”
Nodiadau i olygyddion
- Bydd fflecsi Rhuthun yn cael ei weithredu yn fewnol gan Gyngor Sir Ddinbych.
- Yn gyffredinol bydd fflecsi ar gael yn ystod yr un cyfnod â gwasanaethau a amserlennwyd yn bresennol: rhwng 0900 - 1430 dydd Llun i ddydd Gwener.
- Bydd y siwrnai gyntaf o Glawddnewydd i Ruthun trwy Glocaenog a Bontuchel yn dilyn amserlen benodol, yn debyg i’r un ar hyn o bryd. Yna bydd gan deithwyr i’r ardaloedd hyn hyblygrwydd llwyr o ran dychwelyd yn dibynnu ar ddefnyddwyr eraill hefyd yn gwneud yr un fath.
- Bydd teithwyr yn Rhuthun ac i bentrefi eraill yn gallu archebu eu siwrnai yn hyblyg i fynd a dychwelyd.
- Mae teithio am ddim i’r rhai sydd â cherdyn bws teithio am ddim dilys.
- Bydd ffioedd oedolion dechreuol yn £1.50 am docyn sengl ar gyfer unrhyw siwrnai o’r pentrefi i Ruthun neu £1 o fewn Rhuthun. Mae gostyngiadau i blant o dan 16 ac i oedolion ifanc gyda’u FyNgherdynTeithio dilys.
- Mae fflecsi Rhuthun yn lle Gwasanaeth Bws 173 Tref Rhuthun, a gwasanaethau 172 Rhuthun - Clawddnewydd/Derwen) a 176 Rhuthun - Llanelidan/Graigfechan). Mae’r holl wasanaethau hyn yn gweithredu ar amserlen gyfyngedig ar hyn o bryd.
- Bu’n bosib prynu bws mini di allyriadau trwy Lywodraeth Cymru a Gwasanaeth Ynni Llywodraeth Cymru.