English icon English
Julie Morgan (1)

Cyflwyno Rhaglen Addysg a Hyfforddiant Anableddau Dysgu Paul Ridd i staff gofal iechyd GIG Cymru

The Paul Ridd Learning Disability Education and Training Programme rolled out to NHS Wales healthcare staff

Bydd hyfforddiant newydd yn cael ei gyflwyno ar draws GIG Cymru i staff gofal iechyd sy’n wynebu’r cyhoedd er mwyn eu galluogi i gefnogi pobl ag anableddau dysgu sy’n defnyddio’r gwasanaethau. Dyna gyhoeddiad y Dirprwy Weinidog Gwasanaethau Cymdeithasol Julie Morgan.

Bydd cam cyntaf Rhaglen Hyfforddiant Ymwybyddiaeth Anableddau Dysgu Paul Ridd ar gyfer staff gofal iechyd, yr hyfforddiant Lefel Sylfaen, yn dechrau ar 1 Ebrill. Bydd yn allweddol i ‘leihau anghydraddoldebau iechyd i bobl ag anableddau dysgu’, ac mae’n un o’r deilliannau allweddol yn rhaglen Gwella Bywydau Anableddau Dysgu Llywodraeth Cymru 2018. Mae’r cam cyntaf, sy’n cael ei hyrwyddo gan Sefydliad Paul Ridd a Mencap Cymru wedi bod yn gydweithrediad rhwng Gwella Cymru ynghyd â Llywodraeth Cymru, Sefydliad Paul Ridd, pobl ag anableddau dysgu, Prifysgol De Cymru, y gwasanaethau iechyd a’r trydydd sector.

Nod yr hyfforddiant yw gwella gwybodaeth a chodi ymwybyddiaeth o’r materion sy’n wynebu pobl ag anableddau dysgu pan fyddant yn ceisio gwasanaethau gofal iechyd. Bydd yn galluogi staff a darparwyr gofal iechyd i ddeall anghenion penodol yr unigolyn a gwneud addasiadau rhesymol a fydd yn diwallu’r anghenion hynny.

I gydnabod y pwysau cyson sy’n wynebu staff gofal iechyd a heriau parhaus y pandemig, bydd yr hyfforddiant lefel sylfaen yn cael ei ddarparu drwy raglen ar-lein. I ategu’r hyfforddiant hwn, bydd Sefydliad Paul Ridd yn parhau i gynnig hyfforddiant ychwanegol a phwrpasol i ddarparwyr gofal iechyd sy’n gofyn amdano.  

Dywedodd y Dirprwy Weinidog Gwasanaethau Cymdeithasol, Julie Morgan: “Mae gan bawb yr hawl i gael gwasanaethau gofal iechyd ac mae’n bwysig ein bod ni fel llywodraeth yn sicrhau nad yw unrhyw un yn wynebu rhwystrau y gellir eu dileu gydag ychydig o feddwl a chynllunio. Rwy’n falch o wneud y cyhoeddiad hwn heddiw ac rwy’n ddiolchgar i sefydliad Paul Ridd am eu gwaith parhaus i wella ymwybyddiaeth o’r rhwystrau y mae pobl ag anableddau dysgu’n eu hwynebu weithiau pan fyddant yn ceisio cael gwasanaethau. Hoffwn hefyd dalu teyrnged i staff GIG Cymru sy’n darparu gofal hanfodol ac a fydd nawr yn gwneud yr hyfforddiant hwn i gefnogi pobl ag anableddau dysgu ymhellach. Rwy’n bwriadu edrych ar ddewisiadau ar gyfer cyflwyno’r hyfforddiant pwysig hwn i staff gofal cymdeithasol ar draws Cymru.”

Dywedodd Jonathan Ridd a Jayne Nicholls, sylfaenwyr ac ymddiriedolwyr Sefydliad Paul Ridd: “Rydym wrth ein bodd ein bod wedi cael y cyfle i weithio gyda’r GIG yng Nghymru a Llywodraeth Cymru i gynhyrchu’r Hyfforddiant Ymwybyddiaeth Anableddau Dysgu hwn. Ers marwolaeth Paul yn 2009, rydym wedi gweithio’n ddiflino i wella ymwybyddiaeth o’r anghydraddoldebau sy’n wynebu pobl ag anableddau dysgu pan fyddant yn ceisio gofal iechyd. Mae’r hyfforddiant hwn yn garreg filltir i ni, gan y bydd staff gofal iechyd rheng flaen yn y GIG yng Nghymru nawr yn gorfod cwblhau Hyfforddiant Ymwybyddiaeth Anableddau Dysgu Paul Ridd. 

Bydd yr adnodd hwn yn rhoi peth ymwybyddiaeth i staff o’r rhwystrau sy’n wynebu pobl ag anableddau dysgu pan fyddant yn ceisio gofal iechyd, a bydd yn eu galluogi i ddileu’r rhwystrau hynny.  

Rydym yn edrych ymlaen at ddatblygu’r hyfforddiant hwn ymhellach a’i ehangu gyda’r ail a’r drydedd haen.”