English icon English

Dechrau paru pobl o dan y cynllun Cartrefi i Wcráin

First matches being made under Homes for Ukraine scheme

Bydd Cymru yn gweithredu fel uwch-noddwr ar gyfer cynllun a fydd yn rhoi cyfle i bobl sy'n ffoi rhag y rhyfel geisio lloches yng Nghymru.

Mae 10,000 o bobl wedi cofrestru eu bwriad i gynnig llety yn eu cartref ac i noddi unigolyn o Wcráin fel rhan o'r cynllun Cartrefi i Wcráin. Mae pobl yn dechrau cael eu paru o dan y cynllun ar hyn o bryd. Bydd yr opsiwn hwn ar gael i bobl sy’n ffoi o Wcráin o 26 Mawrth ymlaen.

Bydd y cynllun Cartrefi i Wcráin yn galluogi pobl o Wcráin nad oes ganddynt gysylltiadau teulu presennol i gael fisa i ddod i'r DU am hyd at dair blynedd.

Hefyd heddiw bydd grŵp rhyngweinidogol newydd Llywodraeth Cymru yn cyfarfod am y tro cyntaf i oruchwylio'r ymateb i argyfwng Wcráin. Mae'r grŵp yn cynnwys Gweinidogion o bob rhan o'r Llywodraeth yn ogystal â'r Ysgrifennydd Parhaol ac uwch-swyddogion. Bydd yn cyfarfod o leiaf bob wythnos ac yn cefnogi'r gwaith o wneud penderfyniadau brys yn effeithiol.

Dywedodd y Prif Weinidog, Mark Drakeford:

“Bydd y cynllun Cartrefi i Wcráin yn helpu pobl mewn angen difrifol sy'n wynebu amgylchiadau truenus.

“Mae cyfrifoldeb arnon ni i helpu pobl sy'n ffoi rhag amgylchiadau mor anodd, ond mae hefyd gyfrifoldeb arnon ni i sicrhau bod gwasanaethau cymorth ar gael pan fydd pobl yn cyrraedd. Rydyn ni'n gweithio'n agos gyda phobl a sefydliadau ym mhob cwr o Gymru i wneud yn siŵr bod hyn yn digwydd.

“Rydyn ni am i Gymru fod yn Wlad Noddfa, a byddwn ni’n parhau i wneud popeth o fewn ein gallu i sicrhau bod Cymru yn estyn croeso cynnes.”

Dywedodd Jane Hutt, y Gweinidog Cyfiawnder Cymdeithasol:

“Fel rhan o'n rôl fel uwch-noddwr, rydyn ni wedi bod yn gweithio'n agos iawn gyda llywodraeth leol yng Nghymru, yn ogystal â'r trydydd sector a gwasanaethau cyhoeddus ehangach i sicrhau bod y cymorth sydd ei angen ar ffoaduriaid ar gael pan fyddan nhw'n cyrraedd Cymru. Mae hyn yn cynnwys cymorth i bobl sy'n dioddef trawma a salwch sy'n deillio'n uniongyrchol o'r rhyfel.

“Byddwn ni hefyd yn gallu noddi pobl yn uniongyrchol. Bydd pobl sy'n cyrraedd drwy'r llwybr hwn yn cael eu cyfeirio at un o'r canolfannau croeso sy'n cael eu sefydlu ledled Cymru, cyn symud ymlaen i lety tymor canolig a thymor hwy. Mae'r patrwm hwn yn seiliedig ar lwyddiant y cynlluniau adsefydlu ffoaduriaid o Syria ac Affganistan.”