English icon English

Dirprwyaeth Cymru Greadigol wrthi’n llwytho... yn barod ar gyfer Cynhadledd fyd-eang ar Ddatblygu Gemau

Creative Wales delegation loading… for global Game Development Conference

Diolch i gymorth a roddwyd gan Lywodraeth Cymru, mae dirprwyaeth o wyth sy’n cynrychioli’r prif gwmnïau datblygu gemau a meddalwedd yng Nghymru yn mynd i San Francisco gyda Cymru Greadigol ar gyfer cyfarfod blynyddol mwyaf y diwydiant gemau.

Mae'r Gynhadledd Datblygwyr Gemau (GDC) yn dod â'r gymuned datblygu gemau ynghyd i gyfnewid syniadau, i ddatrys problemau, ac i lywio dyfodol y diwydiant yn ystod pum diwrnod o addysg, ysbrydoliaeth a rhwydweithio. Ymhlith y rheini a fydd yn bresennol bydd rhaglenwyr, artistiaid, cynhyrchwyr, dylunwyr gemau, gweithwyr sain proffesiynol, ac arweinwyr busnes.

Mae Cynhadledd GDC hefyd yn arddangos yr offer datblygu gemau a’r gwasanaethau diweddaraf a ddarperir gan gwmnïau technoleg blaenllaw fel Epic, Google, Intel, Nvidia, Oculus, Sony, Amazon a Microsoft.

Yn ôl yr amcangyfrifon, roedd y diwydiant gemau yn werth £7 biliwn yn y DU y n 2020, o gofio hynny, mae Llywodraeth Cymru yn gwbl ymrwymedig i helpu cwmnïau o Gymru i fasnachu'n rhyngwladol, ac i gefnogi cyfleoedd i ddenu mewnfuddsoddiad.

Dywedodd Dawn Bowden, Dirprwy Weinidog y Celfyddydau a Chwaraeon:

"Yma yng Nghymru, rydyn ni wedi bod yn ymwneud ac yn trafod gyda’n diwydiant gemau, sy’n prysur dyfu, ac yn ei gefnogi ers nifer o flynyddoedd, gan wneud hynny drwy fentrau fel y Gronfa Datblygu Digidol, cymorth masnach ar gyfer cynadleddau rhyngwladol allweddol, a Sioe Datblygu Gemau Cymru.

"Mae'n sector allweddol o’r diwydiannau creadigol sy'n cynnig swyddi cynaliadwy sy'n talu'n dda, a dyna pam rydyn ni’n awyddus i'w weld yn tyfu ac yn ehangu yng Nghymru. O gofio bod cynrychiolwyr yn dod o bedwar ban byd, mae'r digwyddiad hwn yn gyfle i fusnesau Cymru eu hyrwyddo eu hunain a, thrwy gydweithio â Cymru Greadigol, yn gyfle hefyd iddyn nhw ddangos yr hyn sydd gan Gymru i'w gynnig i ddarpar fuddsoddwyr."

Dywedodd Richard Pring, Sylfaenydd a Chyfarwyddwr Wales Interactive:

"Ers y daith gyntaf saith mlynedd yn ôl, mae taith fasnach Llywodraeth Cymru i ymweld â GDC wedi dod yn ddyddiad pwysig yn ein calendr, ac ar ôl bwlch o ddwy flynedd, mae’n braf iawn cael mynd yn ôl unwaith eto!

"Heblaw am greu cannoedd o gyfleoedd busnes a chyfleoedd rhwydweithio inni yn ystod y cyfnod hwnnw, mae hefyd, y naill flwyddyn ar ôl y llall, wedi rhoi cyfle inni arddangos talent a gemau gorau Cymru ar lwyfan y byd!"

Dywedodd Jason Veal, Rheolwr Gyfarwyddwr Sugar Creative:

"Allai ddim pwysleisio digon pa mor bwysig y mae teithiau masnach Cymru Greadigol wedi bod i dwf Sugar Creative. Maen nhw wedi’n galluogi i feithrin a datblygu perthynas gyda'n partneriaid datblygu yn rhyngwladol ac wedi galluogi Sugar i gystadlu ar lwyfan byd-eang.

"Mae'r bartneriaeth a'r cysylltiadau a ddatblygwyd yn GDC, diolch i arweiniad a chefnogaeth tîm Cymru Greadigol, wedi bod yn allweddol i dwf Sugar, nid yn unig o’n rhan ni fel cwmni, ond hefyd o ran yr enw da sydd gennym yn

fyd-eang fel cwmni sy’n arwain y ffordd wrth ddefnyddio technoleg ymgolli i adrodd straeon ac wrth ddatblygu realiti estynedig."