Skip to main content

Work continues on South Wales Metro in spring

25 Maw 2022

Mae Trafnidiaeth Cymru yn parhau i symud ymlaen gyda'r gwaith o adeiladu Metro De Cymru a bydd gwaith mawr yn cael ei wneud ar draws Llinellau Craidd y Cymoedd yn y gwanwyn.

Bydd trawsnewid Llinellau Craidd y Cymoedd ar gyfer y Metro, sydd wedi’i ariannu’n rhannol gan Gronfa Datblygu Rhanbarthol Ewrop drwy Lywodraeth Cymru, yn galluogi gwasanaethau cyflymach, amlach rhwng Caerdydd a Blaenau’r Cymoedd.

O ddydd Llun 28 Mawrth, bydd y gwasanaeth bws yn lle trên rhwng Pontypridd a Radur gyda’r hwyr yn ymestyn yn ôl ac ymlaen o Gaerdydd Canolog tra bydd peirianwyr yn gosod seilbyst a sylfeini yn barod ar gyfer gosod offer llinellau uwchben.

Bydd gwasanaethau gyda'r hwyr Lein y Ddinas yng Nghaerdydd hefyd yn cael eu disodli gan fysiau o ddydd Llun 4 Ebrill rhwng dydd Llun a dydd Iau yn unig.  Bydd y gwasanaethau rhwng Pontypridd a Radur dros benwythnosau 1-3 Ebrill a 15-18 Ebrill yn cael eu heffeithio gan y gwaith hefyd.

Yn y cyfamser, rhwng dydd Sul 17 Ebrill a dydd Gwener 13 Mai 2022, bydd y lein rhwng Aberdâr ac Abercynon ar gau ar gyfer gwaith peirianyddol.  Bydd gwasanaethau bws yn lle trên yn weithredol rhwng Aberdâr a Phontypridd, i gysylltu â'r gwasanaethau trên yno ac yn ôl.

Bydd y cau am 26 diwrnod yn galluogi peirianwyr i wneud gwaith cymhleth gan gynnwys gosod sylfeini ar gyfer offer llinellau uwchben, dymchwel ac ailadeiladu’r bont droed rhwng Penrhiwceibr a Pharc Busnes Cwm Cynon, gwneud gwaith ar y platfform, cynnal a chadw a phrofi signalau, gwella cyflymder y lein a thorri llystyfiant.

Dywedodd Karl Gilmore, Cyfarwyddwr Seilwaith Rheilffyrdd TrC:

“Bydd y gwaith hanfodol hwn yn golygu ein bod ni gam arall yn nes at adeiladu Metro De Cymru ar gyfer pobl Cymru.

“Bydd y gwaith seilwaith allweddol yn caniatáu inni ei baratoi ar gyfer cyflwyno trenau tram trydan newydd sbon yn y blynyddoedd i ddod, a fydd yn caniatáu inni gynnig gwasanaethau cyflymach ac amlach.

“Hoffwn ddiolch i’n cymdogion a’n teithwyr ar ochr y llinell ymlaen llaw am eu dealltwriaeth a’u cefnogaeth barhaus wrth i ni wneud y gwaith hwn.”

Bydd y buddsoddiad yn Metro De Cymru yn gwella cysylltedd yn sylweddol gan ddarparu mynediad i swyddi, hamddena a chyfleoedd eraill i bobl Cymru, trwy uno llwybrau trenau, bysiau a theithio llesol.

Mae rhagor o wybodaeth am y Metro ar gael ar wefan Trafnidiaeth Cymru, gan gynnwys blog sy'n ateb rhai cwestiynau cyffredin am y gwaith o drawsnewid y Metro.  Mae diweddariadau teithio i'w gweld ar wefan TrC.

Llwytho i Lawr