English icon English
Carer and elderly lady

Hwb o £10 miliwn ar gyfer gofal cartref yng Nghymru

£10 million funding boost for domiciliary care in Wales

Mae’r Dirprwy Weinidog Gwasanaethau Cymdeithasol, Julie Morgan, wedi cyhoeddi y bydd £10 miliwn yn rhagor yn cael ei ddarparu i awdurdodau lleol i gefnogi gofal cartref a chynyddu’r ddarpariaeth o wasanaethau yng Nghymru.

Gellir defnyddio’r £10 miliwn, a ariennir drwy’r ail gyllideb atodol, i dalu am wersi gyrru ar gyfer gweithwyr gofal cartref ac i brynu cerbydau fflyd trydan fel y gall staff gael gafael ar gerbydau yn haws, a hynny er mwyn gwella capasiti gwasanaethau.

Mae methu â gyrru neu fethu â chael gafael ar gerbyd ymysg y prif rwystrau rhag recriwtio i’r sector, a gall gyfyngu ar nifer yr oriau y gall gweithwyr gofal cartref eu gweithio. 

Gan fod galw mawr o hyd am wasanaethau cymorth cartref yng Nghymru, mae awdurdodau lleol yn gorfod canfod ffyrdd arloesol o gynyddu capasiti eu gwasanaethau cymorth cartref a mynd i’r afael ag anawsterau a gafwyd ers tro byd o ran recriwtio a chadw staff.

Mae Llywodraeth Cymru wedi cymryd camau eisoes i ddatblygu capasiti’r gweithlu drwy gyflwyno’r Cyflog Byw Gwirioneddol a chynnal ymgyrch recriwtio genedlaethol.

Dywedodd y Dirprwy Weinidog Gwasanaethau Cymdeithasol, Julie Morgan:

“Rwy’n falch iawn ein bod yn darparu £10 miliwn yn ychwanegol i awdurdodau lleol i gynyddu capasiti ym maes gofal cartref. Nodir mai methu â gyrru yw un o’r prif rwystrau rhag recriwtio gweithwyr gofal cartref, a gall gyfyngu ar y gwasanaethau y gall darparwyr eu cynnig. Bydd y cyllid hwn yn cynorthwyo’r sector i gwrdd â’r heriau hyn ac yn helpu pobl i ddychwelyd i’w cartref o’r ysbyty drwy gynyddu’r ddarpariaeth o wasanaethau."

Yn ogystal, oherwydd y pandemig mae oedi sylweddol cyn dyddiadau profion gyrru. Mae’r Asiantaeth Safonau Gyrwyr a Cherbydau wedi cytuno i flaenoriaethu dyddiadau profion ar gyfer gweithwyr gofal cartref Cymru sy’n aros i gael eu profion gyrru.

Nododd Ms Morgan yn ogystal:

“Rwy’n annog pawb sy’n gweithio ym maes gofal cartref sydd wrthi’n dysgu sut i yrru i siarad â’u cyflogwr ynghylch sut y gallai’r cyllid hwn fod o fudd iddynt hwy a’u gyrfa.”

DIWEDD