English icon English
Wales stands with Ukraine WELSH

Cenedl Noddfa ar Waith

Welsh Nation of Sanctuary in Action

Heddiw rhoddodd y Gweinidog Cyfiawnder Cymdeithasol Jane Hutt amlinelliad o'r cynnydd a wnaed ar y cynllun Cartrefi i Wcráin yng Nghymru hyd yma, gan dynnu sylw at y cymorth pellach y mae Llywodraeth Cymru wedi ei ddarparu i'r argyfwng dyngarol.

Dywedodd Jane Hutt, y Gweinidog Cyfiawnder Cymdeithasol:

“Rydyn ni wedi gweld ymateb anhygoel gan bobl Cymru wrth iddyn nhw gofrestru yn eu miloedd i gynllun Cartrefi i Wcráin Llywodraeth y DU er mwyn gallu noddi pobl sy'n ffoi rhag y rhyfel ac agor eu cartrefi iddyn nhw.

Dyma Gymru yn gweithredu fel Cenedl Noddfa go iawn.

Mae'r datganiadau o ddiddordeb hynny yn brysur yn troi'n geisiadau am fisâu sydd wedi'u cwblhau ar sail y cynigion hael o lety a ddaeth i law gan bobl yng Nghymru drwy'r cynllun Cartrefi i Wcráin.

Mae Llywodraeth Cymru bellach yn noddi pobl o Wcráin yn uniongyrchol, sy'n golygu bod modd iddyn nhw aros mewn un o'r Canolfannau Croeso rydyn ni'n eu sefydlu mewn partneriaeth â llywodraeth leol ac eraill – ac yno gallan nhw gael cymorth strwythuredig a chwblhau ceisiadau am fisâu.

Gwnaethon ni lansio llinell gymorth benodol ddoe er mwyn rhoi cyngor ac arweiniad i bobl sy'n dod i Gymru o Wcráin ac i bobl sy'n gweithredu fel noddwyr. Mae croeso i bobl gysylltu i ddysgu mwy am beth mae bod yn noddwr yn ei olygu, a gall pobl sydd am wneud cais gael gwybodaeth am ein cynllun noddi.”

Wrth sôn am y pecyn cymorth pellach ar gyfer y fenter ddyngarol, cyhoeddodd y Gweinidog rodd ychwanegol o £1m i Gronfa Croeso Cenedl Noddfa Sefydliad Cymunedol Cymru, a gofynnodd i fusnesau a sefydliadau am help o ran darparu gwasanaethau cymorth.

Dywedodd y Gweinidog:

“Mae'r Pwyllgor Argyfwng Trychinebau wedi sefydlu apêl ddyngarol Wcráin, sy'n helpu i ddarparu bwyd, dŵr, llety, gofal iechyd a diogelwch i bobl sy'n ffoi rhag y rhyfel.

Mae Llywodraeth Cymru wedi rhoi £4m i apêl y Pwyllgor Argyfwng Trychinebau, ac wedi anfon llwyth o gyflenwadau meddygol i Wlad Pwyl – a gaiff eu hanfon i Wcráin o'r wlad honno. Mae rhagor o gyflenwadau meddygol yn barod i gael eu hanfon.

Heddiw rwy wedi cadarnhau y byddwn ni'n rhoi £1m i Gronfa Croeso Cenedl Noddfa, a sefydlwyd gan Sefydliad Cymunedol Cymru.

Mae'r gronfa hon ar agor i'r cyhoedd ac i sefydliadau, ac mae'n gweithio gyda phobl sy'n chwilio am noddfa yng Nghymru. Rydyn ni'n falch o roi arian i'r gronfa ac i fenter Sefydliad Cymunedol Cymru er mwyn cefnogi pobl sy'n dod i Gymru o Wcráin, yn ogystal â chefnogi ffoaduriaid a cheiswyr lloches eraill yng Nghymru.

Rydyn ni hefyd yn gofyn i fusnesau a sefydliadau am eu help o ran darparu:

-Llety ar raddfa fawr

-Trafnidiaeth i fynd â phobl i'w cartrefi newydd

-Cyflenwadau megis bwyd, dillad ac eitemau ar gyfer y mislif

-Cyfieithwyr a Chyfieithwyr ar y Pryd."

O'r diwedd dywedodd y Gweinidog:

“Bu'n ddiwrnod du i heddwch y byd pan benderfynodd Putin ymosod ar Wcráin. Ond mae'r ffaith bod pobl ledled Cymru wedi bod mor awyddus i helpu yn dangos bod yna obaith, hyd yn oed ar yr adegau mwyaf trychinebus.”