English icon English

Buddsoddiad pellach gwerth £5m i wasanaethau adfer ‘arloesol’ COVID Hir

Further £5m investment in ‘innovative’ Long-COVID rehabilitation services

Bydd gwasanaeth cymorth sy’n helpu pobl sy’n byw ag effeithiau hirdymor COVID-19 yng Nghymru yn elwa o gyllid ychwanegol o £5m gan Lywodraeth Cymru.

Mae’r cyllid ychwanegol hwn yn dilyn yr adolygiad chwe mis cyntaf o’r rhaglen Adferiad. Dangoswyd bod y rhaglen yn ymateb ac yn trin anghenion pobl a oedd wedi ceisio am gymorth ar gyfer eu symptomau gwanychol.

Mae’r model o wasanaethau adfer sy’n cael eu harwain gan y gymuned wedi ei groesawu yn fodd effeithiol o gefnogi pobl gan bobl sydd wedi defnyddio’r gwasanaethau a chan glinigwyr.

Mae gwasanaethau adfer, sydd wedi’u datblygu gan ddefnyddio’r model hwn yn cynnwys y rhaglen COVID hir, Lles gydag Opera Cenedlaethol Cymru, sy’n cymryd atgyfeiriadau gan fyrddau iechyd. Dyma raglen anadlu a chanu ar-lein ar gyfer pobl sy’n byw â COVID hir yng Nghymru.

Mae’r rhaglen beilot yn cael ei chyflawni mewn partneriaeth rhwng Opera Cenedlaethol Cymru, Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr, Bwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a’r Fro a Bwrdd Iechyd Prifysgol Cwm Taf Morgannwg. Mae’r rhaglen beilot yn cael ei hariannu gan Gyngor Celfyddydau Cymru a Chronfa Loteri y Celfyddydau, Iechyd a Lles.

Dywedodd Emma Flatley, Cyfarwyddwr rhaglenni a meithrin cysylltiadau Opera Cenedlaethol Cymru: “Mae’r ymateb i’r rhaglen wedi bod yn anhygoel, a disgwyliwn y bydd y canlyniadau gwerthuso ffurfiol, a fydd ar gael yn fuan, yn cefnogi hyn.

“Mae’r ddwy raglen beilot wedi dangos canlyniadau tu hwnt o gadarnhaol o ran iechyd ac anadlu pobl, yn ogystal â gwelliannau yn seicolegol i’r rhai hynny sy’n cymryd rhan.

“Mae yna lawer o straeon a datganiadau gwerthfawr gan y bobl sydd wedi cymryd rhan. Mae pobl hefyd wedi gallu osgoi teithiau brys i’r ysbyty drwy ddefnyddio’r technegau a’r cyngor sydd wedi’u rhoi iddynt.

“Bydd y cyllid ychwanegol sydd ar gael i fyrddau iechyd ar gyfer gwasanaethau adfer yn galluogi i raglenni fel ein rhai ni i barhau, ac ehangu o bosibl, er mwyn gallu cynnig cefnogaeth i ragor o bobl ledled Cymru.”

Bydd byrddau iechyd yn elwa o’r £5m ychwanegol, a fydd yn cael ei ddefnyddio i barhau i ddarparu gwasanaethau adfer sydd wedi eu datblygu yn ddiweddar. Bydd hyn yn galluogi i bobl i fanteisio ar raglenni fel yr un sy’n cael ei ddarparu gan Opera Cenedlaethol Cymru.

Y gobaith erbyn diwedd y cyfnod chwe mis nesaf ym mis Gorffennaf, yw y bydd byrddau iechyd wedi ehangu’r model cymunedol i drin a chefnogi pobl sydd â chyflyrau hirdymor eraill sydd ag effeithiau tebyg i COVID hir, gan gynnwys MS, ME a Syndrom Blinder Cronig. Byddai hyn o gymorth i sefydlu gwasanaethau ymyriadau hirdymor effeithiol, yn ogystal â sicrhau cysondeb wrth drin pobl sydd â gwahanol gyflyrau a diagnosisau.

Bydd y cyllid hefyd yn fodd o gefnogi parhad yr ap adfer hunanreoli COVID-19 a’r Canllawiau Cymru Gyfan ar reoli COVID hir, sydd wedi bod o gymorth i gefnogi pobl i hunanreoli eu symptomau. Maent hefyd wedi bod o gymorth i roi’r cyngor a’r dysgu diweddaraf i weithwyr gofal iechyd proffesiynol er mwyn cefnogi’r broses o roi diagnosis o COVID hir a’i drin.

Dywedodd Eluned Morgan, y Gweinidog Iechyd: “Rydyn ni’n parhau i ddysgu rhagor am effeithiau hirdymor COVID-19 a sut y mae’n gallu effeithio ar bobl mewn gwahanol ffyrdd.

“Rydyn ni’n credu mai ein dull o drin pobl, eu cefnogi a gofalu amdanynt drwy ein model gwasanaeth unigryw yw’r ffordd fwyaf effeithiol ac effeithlon o sicrhau’r canlyniadau gorau i bobl sy’n byw â COVID hir.

“Mae rhaglenni arloesol fel yr un sy’n cael ei gynnal gan Opera Cenedlaethol Cymru yn dangos manteision sylweddol i iechyd a llesiant. Rwy’n gobeithio y bydd y cyllid hwn yn creu llawer mwy o gyfleoedd i bobl fanteisio ar raglenni eraill fel yr un yma er mwyn cefnogi eu gwellhad a’u hadferiad.

“Rydyn ni wedi ein calonogi o weld llwyddiant chwe mis cyntaf Adferiad ac edrychwn ymlaen nid yn unig at weld y rhaglen hon yn parhau, ond i ddysgu ohoni fel ein bod yn gallu cymhwyso’r wybodaeth i sut rydyn ni’n trin cyflyrau hirdymor eraill fel MS, ME a Syndrom Blinder Cronig.”