English icon English

Treblu cyllid ar gyfer llesiant staff fel rhan o ‘ddull ysgol gyfan’ o ymdrin ag iechyd meddwl

Funding for staff well-being trebled as part of ‘whole school approach’ to mental health

Mae Gweinidog y Gymraeg ac Addysg Jeremy Miles wedi cyhoeddi y caiff y cyllid ar gyfer cymorth iechyd meddwl a llesiant i staff ysgolion ei dreblu yn ystod y flwyddyn ariannol nesaf.

Bydd y gwariant ar gymorth i staff ysgol yn codi o £350,000 yn ystod 2021-22 i £1.25 miliwn yn ystod 2022-23. Mae Llywodraeth Cymru yn cynllunio cynyddu'r cyllid hwn bob blwyddyn hyd at £3 miliwn erbyn 2024-25.

Mae'r cyllid ychwanegol yn rhan o ‘ddull ysgol gyfan’ Llywodraeth Cymru, sy'n golygu y bydd cyfanswm y cyllid i ysgolion, ar gyfer disgyblion a staff, yn cynyddu i £12.2 miliwn yn ystod y flwyddyn ariannol nesaf. Bydd y cyllid hwn mwy na dwywaith y lefel a oedd yn cael ei gynnig ar ddechrau'r pandemig, sef £5 miliwn yn ystod 2020-21.

Nod dull ysgol gyfan Llywodraeth Cymru yw cefnogi llesiant emosiynol a llesiant meddyliol dysgwyr a staff mewn ysgolion.

Defnyddir y cyllid i fynd i'r afael â rhestrau aros, sicrhau rhagor o gymorth i blant iau a darparu mwy o hyfforddiant i staff cymorth mewn ysgolion, gan gynnwys hyfforddiant ar effeithiau COVID-19. 

Caiff cyllid newydd ei dargedu tuag at gymorth llesiant i ddysgwyr mewn Unedau Cyfeirio Disgyblion hefyd. Cyhoeddwyd swm o £1.45 miliwn ar gyfer hyn dros y tair blynedd nesaf.

Dywedodd Jeremy Miles:

“Mae COVID-19 wedi peri heriau newydd i ysgolion a dysgwyr, wrth i bawb ddod i arfer â’r newidiadau yn ein ffordd o fyw. Mae'r pandemig wedi pwysleisio'r angen inni feithrin gwydnwch drwy gryfhau ac ehangu'r cymorth sydd ar gael i ddysgwyr a staff.

“Yn ogystal â pharhau i ddarparu cymorth i blant a phobl ifanc, nod y gyfran nesaf o gyllid yw cynyddu'r cymorth i staff ysgolion yn benodol, drwy dreblu maint y cymorth a fydd ar gael flwyddyn nesaf.

“Rydyn ni wedi buddsoddi mewn cynnig rhagor o gymorth yn ystod y pandemig. Ond nid mesur untro, tymor byr yw hwn – rwyf am gynyddu'r cymorth bob blwyddyn, er mwyn ei gwneud yn haws i staff a dysgwyr fanteisio ar y cymorth sydd ei angen arnynt, pan fydd ei angen arnynt.”

Dywedodd y Dirprwy Weinidog Iechyd Meddwl a Llesiant, Lynne Neagle:

“Mae'r ddwy flynedd ddiwethaf wedi cael effaith sylweddol ar bawb yng Nghymru, gan gynnwys athrawon a staff eraill mewn ysgolion. Mae'n hollbwysig cydnabod mai drwy gefnogi llesiant emosiynol a meddyliol ein pobl ifanc, rydyn ni’n gallu eu helpu i gyrraedd eu potensial llawn. Dyma'r rheswm ein bod wedi cynnal Grŵp Gorchwyl a Gorffen Cyd-Weinidogol ar ddull ysgol gyfan o ymdrin ag iechyd meddwl a llesiant yn 2018, a'r rheswm y bydd y grŵp hwn yn parhau i ysgogi’r gwaith o gyflawni a gwella darpariaeth yn y maes hwn.

“Mae'n wych ein bod wedi gallu treblu'r arian rydyn ni'n ei fuddsoddi mewn cymorth emosiynol, iechyd meddwl a llesiant er mwyn helpu pawb yn y system addysg. Bydd y cyllid hwn yn sicrhau bod mwy o bobl yn gallu manteisio ar y cymorth sydd ei angen arnynt, gan leihau nifer y bobl sy'n teimlo eu bod o dan straen, neu'n ansicr am le i fynd i gael help a chyngor.”

Nodiadau i olygyddion

Cyhoeddwyd adolygiad o wasanaethau cwnsela mewn ysgolion a chymunedau, gan gynnwys ystadegau, ar 17 Mawrth 2022:

Adolygiad o wasanaethau cwnsela sydd wedi'u lleoli mewn ysgolion ac yn y gymuned