English icon English
JM at Llandogo Early Years-2

Lleoliadau’r blynyddoedd cynnar yn barod i helpu i roi'r Cwricwlwm i Gymru ar waith

Early years settings ready to support roll out of Curriculum for Wales

Mae Gweinidog y Gymraeg ac Addysg, Jeremy Miles, wedi canmol gwaith lleoliadau’r blynyddoedd cynnar wrth iddynt baratoi i helpu i roi'r Cwricwlwm newydd i Gymru ar waith.

Mewn ymweliad â meithrinfa ddydd Llandogo Early Years yn Sir Fynwy, gwnaeth y Gweinidog gyfarfod ag ymarferwyr y blynyddoedd cynnar sydd wedi gweithio gyda Llywodraeth Cymru i ddatblygu cwricwlwm ar gyfer lleoliadau nas cynhelir yn benodol.

Cyhoeddwyd y cwricwlwm ar gyfer lleoliadau meithrin a ariennir nas cynhelir yn gynharach eleni. Cafodd ei ddatblygu er mwyn helpu i roi'r Cwricwlwm newydd i Gymru ar waith ym mis Medi, a sicrhau bod y plant hynny sy'n cael addysg mewn lleoliadau nas cynhelir yn cael y dechrau gorau posibl ar eu taith ddysgu.

Mae ymarferwyr ac arweinwyr ym maes y blynyddoedd cynnar wedi cyfrannu'n sylweddol at y gwaith o gyd-awduro'r cwricwlwm, gan wneud defnydd o’u profiad o'r sector yn ogystal â safbwyntiau arbenigwyr ym maes datblygiad plant ac addysg gynnar.

Darparwyd hyfforddiant i’r ymarferwyr, ac mae adnoddau a fydd yn cefnogi'r gwaith o roi'r cwricwlwm ar waith wrthi’n cael eu cyflwyno ar hyn o bryd. Ymhlith y modiwlau a gynigir y mae dysgu yn yr awyr agored, chwarae a dysgu seiliedig ar chwarae, a datblygiad plant.

Cyhoeddir rhagor o adnoddau ym mis Mehefin.

Dywedodd Jeremy Miles, Gweinidog y Gymraeg ac Addysg:

“Mae wedi bod yn fraint cael ymweld â meithrinfa Llandogo Early Years a gweld y gwaith rhagorol y maen nhw'n ei wneud er mwyn cefnogi ein dysgwyr ieuengaf.

“Mae llawer o blant yn dechrau ar eu taith ddysgu mewn lleoliad nas cynhelir. Mae'r gallu i fanteisio ar ddarpariaeth addysg gynnar o ansawdd uchel yn hanfodol i ddatblygiad addysgol a chymdeithasol plant. Bydd ein cwricwlwm newydd i leoliadau a ariennir nas cynhelir yn sicrhau bod y ddarpariaeth hon yn cael ei chynnig yn gyson ledled Cymru.

“Wrth inni symud tuag at roi'r cwricwlwm newydd i Gymru ar waith i ddysgwyr rhwng 3 a 16 oed, bydd gan leoliadau’r blynyddoedd cynnar rôl allweddol i’w chwarae. Dyna pam roedd yn bwysig cynnwys y bobl hynny sy'n gweithio mewn lleoliadau nas cynhelir wrth ddatblygu cwricwlwm sy'n benodol iddyn nhw. Rwy'n ddiolchgar i bob un o'r lleoliadau meithrin hynny sydd wedi bod yn rhan o'r gwaith o ddatblygu'r cwricwlwm hwn, ac sy'n parhau i weithio gyda ni wrth inni ddatblygu trefniadau asesu ar gyfer y sector.

“Mae'r sector gofal plant wedi cyfrannu'n sylweddol at ein hymateb i'r pandemig. Hoffwn achub ar y cyfle hwn i dalu teyrnged i bawb sy'n gweithio yn y sector sydd wedi parhau i gefnogi ein dysgwyr ieuengaf o dan amgylchiadau a all fod yn anodd ar adegau, gan sicrhau bod amgylcheddau dysgu a gofal diogel ar gael iddynt.”

Nodiadau i olygyddion

Early learning (Foundation Phase Nursery) for 3 and 4 year olds is delivered in schools and also childcare settings (non-maintained). Examples of non-maintained settings include day nurseries, playgroups and Cylchoedd Meithrin. There are around 550 childcare settings which provide early education places funded by the local authority, and some 10,000 children receive their early learning in childcare settings. 

 

The curriculum for funded non-maintained nursery settings was published in January and links closely to the principles of child development, as well as to the four purposes of the Curriculum for Wales, and the six areas of learning and experience.

Resources to support implementation of the curriculum are available on Hwb