English icon English

Agorodd y pandemig y drws i weithio o bell, nawr mae angen i ni gefnogi'r ffordd hon o weithio i genedlaethau'r dyfodol

The pandemic opened the door to remote working, now we need to support this way of working for future generations

Mae'r ffordd y mae pobl yn gweithio wedi newid yn sylweddol ers y pandemig ac mae Llywodraeth Cymru yn awyddus i wneud popeth o fewn ei gallu i helpu i gadw'r manteision cadarnhaol a brofir gan lawer ac annog mwy o fusnesau i fabwysiadu'r dull newydd hwn o weithio.

Mewn strategaeth a gyhoeddwyd heddiw, mae Llywodraeth Cymru yn nodi ei chynlluniau i weithio gyda busnesau, undebau llafur a rhanddeiliaid allweddol i helpu mwy o gyflogwyr i fabwysiadu dull mwy hyblyg yn eu gweithle, fel y gall gweithwyr wneud dewis o ran y ffordd y maent yn gweithio, boed hynny'n lleol o le gwaith a rennir,  oddi cartref, neu gymysgedd o'r ddau.

Mae cynlluniau i ddatblygu platfform ar-lein sy'n helpu pobl i ddod o hyd i leoedd gwaith sy'n lleol iddynt yn cael eu harchwilio, ochr yn ochr â chanllawiau arfer gorau y gellir eu rhannu â busnesau i'w helpu i symud. Ac er mwyn helpu gweithwyr i ddeall eu gweithlu'n well ac olrhain tueddiadau ar gyfer datblygu yn y dyfodol, cesglir data. 

Mae llawer o sefydliadau, megis y cwmni cyfathrebu o Wrecsam Moneypenny, Anabledd Cymru yng Nghaerffili a Chyngor Blaenau Gwent i enwi ond ychydig, eisoes wedi mabwysiadu dull gweithio o bell gyda gweithwyr a chyflogwyr yn elwa.

Dywedodd Lee Waters, y Dirprwy Weinidog dros y Newid yn yr Hinsawdd:

"Un o'r gwersi rydyn ni wedi'i ddysgu o'r pandemig yw nad yw llawer o bobl eisiau neu angen bod mewn amgylchedd gweithle traddodiadol i wneud eu gwaith.

"Mae gweithio o bell yn dod â llu o fanteision gydag ef. Yn ogystal â helpu pobl i ddianc rhag y cymudo a datblygu gwell cydbwysedd rhwng bywyd a gwaith, mae gweithio'n lleol hefyd yn chwarae rhan hanfodol wrth adfywio canol ein trefi drwy ddod â phobl i galon y gymuned i weithio a siopa, yn ogystal â lleihau tagfeydd a lleihau allyriadau carbon.

"Ond ni allwn gyflawni ein huchelgais ar ein pennau ein hunain, mae gan bawb ran i'w chwarae a byddwn yn parhau i ledaenu'r neges i gadw y newidiadau cadarnhaol rydym eisoes wedi'u gwneud a mynd i'r afael â'r negyddoldeb i gefnogi mwy o fusnesau i symud tuag at weithio hyblyg."

Dywedodd Gweinidog yr Economi, Vaughan Gething:

"Mae'r strategaeth gweithio o bell rydym yn ei lansio heddiw yn nodi sut y byddwn yn gweithio i annog mwy o hyblygrwydd a dewis i weithwyr, a mwy o hyblygrwydd i fusnesau a sefydliadau ar draws pob sector economaidd.

"Fel y nodwyd yn ein Cenhadaeth Economaidd, mae manteision gweithio o bell i fusnesau a sefydliadau sy'n gallu addasu yn glir - mwy o gynhyrchiant a llai o absenoldeb oherwydd salwch, mwy o gyfleoedd gwaith i bobl mewn cymunedau gwledig a lled-wledig, a mynediad at weithlu ehangach a mwy amrywiol. At hynny, bydd ein Gweledigaeth Strategol ar gyfer Manwerthu sydd ar y gweill yn amlinellu sut y gall y sector manwerthu fanteisio ar gyfleoedd i bobl weithio'n agosach at adref.

"Ni fyddwn yn mandadu targedau ar gyfer cyflogwyr nac unigolion - yn hytrach, rydym yn anelu at gefnogi cyflogwyr a gweithio gydag undebau llafur i arddangos arfer gorau. Credwn y dylid cyflwyno'r ffyrdd newydd hyn o weithio a'u cynnal yn unol â'r egwyddorion gwaith teg a phartneriaeth gymdeithasol y mae Llywodraeth Cymru wedi ymrwymo'n llwyr iddynt."