English icon English

Dim newid i reolau Covid yng Nghymru

No changes to Covid rules in Wales

Mae’r Prif Weinidog, Mark Drakeford yn annog pobl yng Nghymru i gael eu brechu a pharhau i gymryd y camau, sy’n gyfarwydd iawn i ni bellach, er mwyn helpu i fynd i’r afael â’r cynnydd mewn achosion o’r coronafeirws.

Daw hyn wrth iddo gadarnhau na fydd newidiadau sylweddol i’r rheolau Covid yn ystod y cylch diweddaraf hwn o 21 diwrnod.

Dair wythnos yn ôl, symudodd Cymru i Lefel Rhybudd Sero. Tynnodd hyn y cyfyngiadau cyfreithiol a oedd ar gwrdd â phobl ac roedd wedi galluogi pob busnes i agor, ond gan gadw amddiffyniadau cyfreithiol allweddol yn eu lle. Mae’n orfodol eich bod yn gwisgo gorchuddion wyneb yn y rhan fwyaf o leoliadau cyhoeddus, ac mae’n rhaid i bawb barhau i ynysu os oes ganddynt symptomau Covid neu os cewch ganlyniad prawf sy’n bositif, a rhaid i fusnesau gymryd camau rhesymol i leihau’r risg o ddod i gysylltiad â’r coronafeirws.

Anogir pobl i barhau i gymryd rhagofalon i amddiffyn eu hunain a phawb arall ac i atal lledaeniad y feirws. Mae nifer yr achosion wedi parhau i godi, ac yn gynharach yr wythnos hon fe aeth y gyfradd achosion yn uwch na 320 achos ym mhob 100,000 o bobl.

Dywedodd y Prif Weinidog, Mark Drakeford:

“Dros y 18 mis diwethaf, mae pobl wedi cydweithio i ddiogelu Cymru. Mae’r angen i wneud hynny heddiw cyn gryfed ag erioed.

“Mae nifer yr achosion yn cynyddu, ac mae’r sefyllfa iechyd cyhoeddus yn waeth na’r sefyllfa a oedd yn ein wynebu dair wythnos yn ôl pan symudodd Cymru i Lefel Rhybudd Sero. Mae’n hanfodol ein bod yn parhau gyda’r rhagofalon, a hynny i sicrhau nad yw’r gwaith da sydd wedi’i wneud hyd yma yn ofer.

“Cael y brechiad yw’r amddiffyniad gorau sydd gennym o hyd. Os nad ydych wedi manteisio ar y cynnig o frechiad yn barod, rwy’n eich annog yn gryf i wneud hynny, gan ymuno â thros 2.1 miliwn o bobl yng Nghymru sydd wedi cael eu brechu’n llawn er mwyn amddiffyn eu hunain ac eraill.

“Mae yna gamau syml y gallwn eu cymryd bob dydd i gadw pawb yn ddiogel. Cwrdd ag eraill yn yr awyr agored yn hytrach na dan do neu cadw pellter wrth bobl eraill y tu allan. Os ydych yng nghwmni pobl o dan do, yna gall agor ffenest i adael awyr iach i ddod i mewn olygu bod y feirws yn llai tebygol o ledaenu. Rydym yn parhau i ofyn i bobl weithio adref pan fo hynny’n bosibl.

“Bydd camau fel hyn yn helpu i osgoi’r angen am fesurau cryfach. Mae’r pandemig yn dal yma yng Nghymru, ac mae hyn yn golygu bod rhaid i ni gael ein brechu a pharhau i gymryd y rhagofalon er mwyn cadw’r feirws dan reolaeth.”

Er nad oes newidiadau sylweddol yn digwydd y tro hwn, mae mân newidiadau yn cael eu gwneud er mwyn symleiddio ac egluro’r rheolau sydd eisoes yn bodoli. Mae’r newidiadau’n cynnwys nad oes gofyniad cyfreithiol ar bobl sy’n mynd i briodas neu bartneriaeth sifil wisgo gorchudd wyneb, yn unol â’r eithriad sydd eisoes yn bodoli ar gyfer derbyniadau priodas. Bydd y rheoliadau’n cael eu hadolygu eto ar 16 Medi.

Bydd yr achos dros yr angen i ddefnyddio dogfennau er mwyn cael mynediad i leoliadau risg uwch yn cael ystyried fel rhan o’r adolygiad. Yn y cyfamser mae Pàs Covid y GIG eisoes ar gael yng Nghymru, ac mae’n caniatáu i bobl gael tystiolaeth ddigidol o’u statws brechu, a gallai busnesau ddewis defnyddio’r pàs hwn fel amod mynediad.