English icon English
WG42435 Addo Adverts Bi-2

'Diolch' – Gweinidog yr Economi, Vaughan Gething, yn diolch i'r diwydiant twristiaeth, staff ac ymwelwyr cyn penwythnos gŵyl y banc

‘Diolch’ - Economy Minister, Vaughan Gething, thanks tourism and hospitality industry, staff and visitors ahead of the bank holiday weekend

Gyda gŵyl banc olaf yr haf a diwedd gwyliau’r ysgol yn nesáu, mae Gweinidog yr Economi, Vaughan Gething wedi diolch i bawb am eu hymdrechion i gadw Cymru'n ddiogel dros yr haf.

Yng nghanol y galw cynyddol gan gwsmeriaid o ganlyniad i lacio rheolau COVID-19, a rhagor o bobl yn dewis cyrchfannau domestig ar gyfer eu gwyliau’r haf hwn, mae ymgyrch Addo Croeso Cymru wedi bod yn rhedeg ers i'r cyfyngiadau gael eu codi ym mis Mawrth i annog pobl Cymru ac ymwelwyr i ofalu am ei gilydd ac i barhau i barchu’r cefn gwlad a'r cymunedau yr ydym yn ymweld â nhw.

Dywedodd Gweinidog yr Economi, Vaughan Gething:

"Rydyn ni i gyd wedi chwarae rhan bwysig iawn wrth gadw Cymru, ein hymwelwyr, ein gweithwyr a'n cymunedau'n ddiogel yn yr hyn a fu'n haf prysur iawn i'r economi ymwelwyr yng Nghymru.

"Hoffen ni ddiolch i bawb sydd wedi gwneud eu gorau i sicrhau eu bod yn ymweld â Chymru mewn modd cyfrifol yr haf hwn.  Wrth inni edrych ymlaen at benwythnos gŵyl banc olaf yr haf rydyn ni’n disgwyl i lawer o leoedd fod yn brysur, felly, chwiliwch am leoliadau tawelach, cynlluniwch eich ymweliad, defnyddiwch wasanaethau parcio a theithio, dilynwch y cod cefn gwlad a pharchwch eich gilydd a'r lleoedd rydych chi'n ymweld â nhw i sicrhau bod pawb yn gallu cael penwythnos gŵyl banc gwych.

"Mae'r rhai sy'n gweithio yn yr economi ymwelwyr wedi mynd y filltir ychwanegol i sicrhau bod ymwelwyr yn cael profiad cofiadwy – maen nhw'n haeddu ein diolch, a hefyd ein parch yn ystod y cyfnod prysur hwn.

"Dylai pobl barhau i ddilyn y rheolau syml i atal y feirws rhag lledaenu. Mae COVID yn bresennol o hyd ac mae'r achosion cynyddol yn ein hatgoffa ni bod angen inni i gyd barhau i ddilyn y rheolau syml i atal y feirws rhag lledaenu. Golchwch eich dwylo, cadwch bellter a gwisgwch orchuddion wyneb lle bo hynny’n briodol."

Mae Llywodraeth Cymru wedi gweithio'n agos gydag amrediad o gyrff, gan gynnwys awdurdodau'r parciau cenedlaethol, i'w helpu i gynllunio'n ofalus ac yn ddiogel, a rhoi mesurau lliniaru ar waith.

Mae cyllid wedi bod ar gael i awdurdodau lleol i helpu gyda chost ychwanegol rheoli niferoedd uwch o ymwelwyr.