English icon English

Y Gweinidog Iechyd yn pwysleisio mor bwysig fydd cael pigiad ffliw a dos atgyfnerthu Covid y gaeaf hwn, wrth i’r rhaglen i frechu rhag y ffliw gael ei hehangu

‘Getting your flu jab and Covid booster is so important this autumn,’ urges Health Minister Eluned Morgan as flu vaccination programme expanded

Bydd Cymru'n rhoi ei rhaglen frechu fwyaf erioed ar waith i frechu rhag y ffliw yr hydref hwn. Bydd pawb sydd dros 50 oed a phob disgybl ysgol uwchradd yn cael cynnig brechiad.

Yn 2020/2021 cafodd y nifer mwyaf erioed o frechiadau ffliw – dros filiwn – eu rhoi yng Nghymru, ac am y tro cyntaf roedd nifer y bobl dros 65 oed a fanteisiodd ar y cynnig yn fwy na 75%.

Bydd y rhaglen i roi dos atgyfnerthu o’r brechlyn Covid hefyd yn cael ei gweinyddu ar y cyd ar gyfer pobl sy’n gymwys, lle bo hynny'n briodol, er mwyn ceisio gwella  effeithlonrwydd y broses ac annog mwy o bobl i fanteisio ar y cyfle i gael y ddau frechiad.   

Daw hyn wrth i’r Prif Swyddog Meddygol rybuddio, yn ei lythyr blynyddol am y ffliw, y gallai’r ffliw a Covid-19 fod ar led yr un pryd y gaeaf hwn, yn ogystal â heintiau anadlol eraill.

Bydd cynyddu nifer y rhai sy'n gymwys i gael y pigiad ffliw, a chynnal y rhaglen yr un pryd â rhaglen atgyfnerthu’r brechlyn Covid, yn fodd i ddiogelu'r cyhoedd a'r GIG fel ei gilydd.

Y gobaith yw y bydd ehangu’r rhaglen brechu rhag y ffliw yn golygu bod llai o salwch a marwolaethau sy’n gysylltiedig â'r ffliw ac y bydd llai o bobl yn gorfod mynd i’r ysbyty, ar adeg pan allai'r GIG a’r gwasanaethau gofal cymdeithasol fod yn rheoli achosion lluosog o Covid-19 unwaith eto y gaeaf hwn.

Yn ogystal â chynnig brechiad i bawb sydd dros 50 oed, bydd y rhaglen ysgolion yn cael ei hestyn i bobl disgybl ysgol uwchradd ym mlynyddoedd 7-11.

Mae hyn yn golygu y bydd y brechlyn y ffliw ar gael drwy’r GIG i ymhell dros 1.5 miliwn o bobl yng Nghymru y gaeaf hwn.

Mae Llywodraeth Cymru wedi gosod uchelgais o sicrhau bod 75% o ddisgyblion ysgolion uwchradd ac 80% o bobl 65 oed a hŷn yn cael eu brechu y ffliw.

Caiff pecyn ariannu ychwanegol o £6.8m ei ddyrannu i’r byrddau iechyd i’w galluogi i gyrredd y ddwy garfan newydd.

Bydd Prif Swyddog Meddygol Cymru, Frank Atherton, yn ysgrifennu at GIG Cymru am y Rhaglen Imiwneiddio Genedlaethol Rhag y Ffliw yn 2021-22. Bydd yn manylu ymhellach ynglŷn â’r grwpiau brechu sy’n cael blaenoriaeth, yr uchelgais o ran sicrhau bod pobl yn manteisio ar y cynnig, y brechlynnau sydd ar gael a'r potensial i weinyddu brechlynnau Covid a brechlynnau’r ffliw ar y cyd yn ystod y tymor sydd i ddod.

Dywedodd: "Dyma'r tro cyntaf inni gynnig brechiad rhag y ffliw i'r rhai ym mlynyddoedd 7-11 yn yr ysgol, gan ein bod yn sylweddoli bod mwy o risg y bydd y ffliw a chyflyrau anadlu yn lledaenu ymysg pobl ifanc yn ystod y gaeaf.

"Rydym yn pryderu y bydd y ffliw a Covid-19 yn cyd-ddigwydd y gaeaf hwn, ac yn gwneud popeth i baratoi cystal ag y gallwn."

Dywedodd y Gweinidog Iechyd Eluned Morgan: "Mae'n bwysig iawn bod pobl yn manteisio ar y cyfle i gael eu brechu rhag y ffliw ac rydyn ni’n falch iawn y bydd modd ei gyflwyno gyda dos atgyfnerthu Covid mewn rhai achosion.

"Diolch i lwyddiant rhyfeddol ein rhaglen i frechu rhag Covid - y mae nifer digynsail o bobl wedi manteiso arni ac sydd wedi dysgu gwersi gwerthfawr inni - rydym wedi gallu ehangu’r rhaglen i frechu rhag y ffliw i gynnwys bawb sydd dros 50 oed neu ym  mlynyddoedd 7 i 11 yn yr ysgol.

"Rydym yn disgwyl y bydd y ffliw a Covid-19 ar led yr un pryd y gaeaf hwn, ac allwn ni ddim pwysleisio digon pa mor bwysig yw hi bod y rhai sy'n gymwys yn manteisio ar y cyfle i gael pigiad ffliw a brechiad atgyfnerthu Covid."