English icon English
F31A6226 (1)

Plannu coeden rhif 15 miliwn a gyllidir gan Gymru yn Uganda

15 millionth Wales-funded tree planted in Uganda

Mae 15 miliwn o goed wedi’u plannu yn Uganda fel rhan o fenter gan Lywodraeth Cymru i helpu i fynd i'r afael â'r argyfwng hinsawdd. Y nod yw plannu 25 miliwn o goed erbyn 2025.

Nod prosiect Coed Mbale - a gyllidir gan raglen hirsefydlog Cymru ac Affrica - yw plannu dros 3 miliwn o goed y flwyddyn yn ardal fryniog, sydd wedi’i datgoedwigo’n sylweddol yn nwyrain Uganda mewn ymgais i gynyddu cydnerthedd cymunedau i effeithiau’r newid yn yr hinsawdd.

Gan weithio gyda Maint Cymru a Menter Tyfu Coed Mount Elgon (METGE), dosberthir planhigion coed am ddim i bobl leol i'w plannu ar dyddynod a thir yn y gymuned, ynghyd â stofiau sy’n arbed tanwydd a chyngor a chymorth ar gyfer bywoliaethau eraill, fel cadw gwenyn.

Mae'r prosiect yn cyd-fynd â Chynllun Plant! Llywodraeth Cymru, sy’n plannu dwy goeden ar gyfer pob plentyn sy'n cael ei eni neu ei fabwysiadu yng Nghymru – un yn Uganda ac un yma yng Nghymru.

Yn ystod y blynyddoedd diwethaf, mae Mbale wedi dioddef glaw trwm a thirlithriadau angheuol, a achoswyd gan gyfuniad o effeithiau’r newid yn yr hinsawdd a gormod o dorri a thrin coed oherwydd gorfodaeth wael ar gyfreithiau diogelu a phoblogaeth sy'n tyfu.

Mae coed sy'n tyfu'n gyflym yn amddiffyn pobl leol rhag effeithiau erydu pridd ac mae tyfu ffrwythau yn cynnig ffynhonnell gynaliadwy o fwyd ac incwm ychwanegol.

Cyflawnwyd y garreg filltir o blannu 10 miliwn o goed yn hydref 2019, a gwnaeth y Prif Weinidog Mark Drakeford nodi'r achlysur drwy blannu coeden ym Mharc Bute Caerdydd wrth i un arall gael ei phlannu yn Uganda gan ymgyrchydd ifanc ar y newid yn yr hinsawdd.

Dywedodd Jane Hutt, y Gweinidog Cyfiawnder Cymdeithasol, y mae ei phortffolio yn cynnwys Cymru ac Affrica:

"Ers dros ddegawd mae Cymru wedi datblygu a dyfnhau ei chysylltiadau cymunedol â gwledydd is-Sahara yn Affrica. Mae'r dull hwn sy'n fuddiol i'r ddwy ochr wedi cefnogi datblygu cynaliadwy ac undod ers amser maith, y gallwn fod yn haeddiannol falch ohono.

"Yn ogystal â phlannu 15 miliwn o goed – cyflawniad gwych ynddo'i hun – mae Cymru wedi helpu i ddiogelu ardal o goedwig law drofannol ddwywaith maint Cymru ac wedi cefnogi 16,000 o deuluoedd ar draws 30 o bentrefi a allai fel arall fod wedi wynebu caledi difrifol."

Dywedodd Julie James, y Gweinidog Newid Hinsawdd:

"Mae menter Coed Mbale yn enghraifft o'r hyn y gellir ei gyflawni pan fydd cenhedloedd yn gweithio gyda'i gilydd i fynd i'r afael â’r newid yn yr hinsawdd."

"Bydd ein haddewid i blannu 3 miliwn yn fwy bob blwyddyn am y 5 mlynedd nesaf yn dod â manteision sylweddol, nid yn unig i'r rhai ym Mbale, ond bydd yn cael effaith fyd-eang sylweddol ar newid yn yr hinsawdd.

"Mae’r cynllun blaenllaw hwn yn enghraifft arall o Gymru'n arwain y ffordd ymhellach ym maes datblygu cynaliadwy a gweithredu ar y newid yn yr hinsawdd, er lles pawb."

Dywedodd Nicola Pulman, Cyfarwyddwr Maint Cymru:

"Rydym yn falch iawn o fod wedi cyflawni’r uchelgais o blannu 15 miliwn o goed. Mae'n tystio i waith caled y cymunedau a'r sefydliadau lleol ym Mbale sydd wedi gweithio'n ddiflino.

"Mae pob coeden a dyfir o fudd i'r ardal leol, ond mae hefyd yn helpu i gryfhau gwydnwch ein planed i fygythiad y newid yn yr hinsawdd. Felly, rydym yn annog pawb yng Nghymru i gefnogi'r rhaglen yn ei cham nesaf a'n helpu i gyrraedd ein nod yn y pen draw o blannu 25 miliwn o goed erbyn 2025."

Dywedodd Godfrey Natwaluma, Rheolwr Rhaglen ym Menter Tyfu Coed Mount Elgon (METGE):

"Rydym yn falch bod Menter Tyfu Coed Mount Elgon wedi cefnogi dros 30,000 o aelwydydd mewn 6 ardal i blannu coed. Mae'r ardaloedd hyn oll wedi profi'r tirlithriadau dinistriol o'r blaen. 

"Ers 2010, rydym wedi dosbarthu o leiaf 15 miliwn o goed ac rydym yn obeithiol y byddwn, erbyn y flwyddyn 2025, wedi cefnogi ein cymunedau targed gyda 25 miliwn o goed.

"Mae ein tîm maes technegol, drwy bartneriaid gweithredu, wedi bod mewn sefyllfa i fonitro'r broses o gynhyrchu hadau coed drwy rwydwaith o 45 o welyau meithrin coed cymunedol sydd gennym fel sefydliad, ac rydym yn bwriadu ehangu'r prosiect i ranbarthau eraill."

I gael gwybod mwy, ewch i www.sizeofwales.org.uk