English icon English
Sue Tranka (1)

Prif Swyddog Nyrsio Cymru yn dechrau yn ei swydd

Wales’s new Chief Nursing Officer takes up post

Heddiw, mae Sue Tranka yn dechrau yn ei swydd fel Prif Swyddog Nyrsio Cymru, gan ddod â bron i 30 o flynyddoedd o brofiad nyrsio gyda hi.

Yn wreiddiol o Dde Affrica, lle y cafodd ei hyfforddi fel bydwraig, nyrs gyffredinol gofrestredig, a nyrs iechyd meddwl a chymunedol, bu Sue yn gweithio i’r GIG am 22 o flynyddoedd, a hynny mewn rolau arweinyddiaeth gweithredol a chlinigol.

Mae gan Sue brofiad sylweddol ym maes diogelwch cleifion a gwella ansawdd. Ers mis Ionawr 2020, mae wedi bod yn gweithio i GIG Lloegr lle bu’n arwain yr ymateb nyrsio cenedlaethol i COVID, fel Dirprwy Brif Swyddog Nyrsio ar gyfer Diogelwch Cleifion ac Arloesi. Ers dechrau’r pandemig, bu’n canolbwyntio’n bennaf ar ddiogelu staff a chleifion rhag trosglwyddiad nosocomiaidd COVID.

Mae’n dod â chyfoeth o brofiad i’w rôl newydd gyda Llywodraeth Cymru, ac mae bellach yn edrych ymlaen at gwrdd â’r gweithlu nyrsio yma yng Nghymru, a’u cefnogi a’u harwain wrth inni fynd ati i adfer o’r pandemig.

Dywed Sue Tranka:  “Yn ystod y cyfnod digynsail hwn, dw i wedi gweld â’m llygaid fy hun gyfraniad enfawr ein proffesiwn, a dw i’n hynod falch o’r ffordd y mae wedi ymroi i ddarparu gofal i’n cleifion, y tu mewn i’r ysbyty a’r tu allan iddo. Dw i hefyd yn ddiolchgar i bawb a ddaeth allan o’u hymddeoliad i helpu eu cydweithwyr, ac rydyn ni’n awyddus i elwa ar eu harbenigedd nhw hefyd wrth inni ganolbwyntio ar y dyfodol.

“Mae’n hanfodol rhoi’r sylw priodol i iechyd a llesiant ein hased mwyaf gwerthfawr yn y GIG, sef ein gweithlu, wrth inni adfer ein gwasanaethau. Mae aelodau ein gweithlu nyrsio wedi dangos cadernid mawr yn ystod y cyfnod anodd hwn, a dw i’n gwybod bod eu hymdrechion i gadw eu hunain a’u cydweithwyr yn ddiogel wedi costio’n fawr iddyn nhw fel unigolion. 

“Rydyn ni wedi ymateb i lawer iawn o heriau yn ystod y cyfnod hwn, a bydd angen inni ddyblu ein hymdrechion i recriwtio, a chanolbwyntio ar y strategaethau mwyaf effeithiol i sicrhau bod pobl yn parhau i weithio inni.  Nid yw’r pandemig hwn drosodd eto, ond dw i’n edrych ymlaen at gwrdd ag aelodau gweithlu nyrsio Cymru er mwyn siarad â nhw a gwrando ar yr hyn sydd ganddynt i’w ddweud, wrth inni ystyried digwyddiadau’r 18 mis diwethaf, ac adeiladu ar gyfer y dyfodol.”

Dywed Prif Weithredwr GIG Cymru, Andrew Goodall: “Dw i wrth fy modd o allu croesawu Sue i Gymru a’i rôl newydd o arwain y proffesiwn nyrsio yma. 

"Mae hwn wedi bod – ac yn dal i fod – yn gyfnod heriol i’r GIG, a dw i’n gwybod bod Sue yn awyddus i gwrdd â’r gweithlu a deall y pwysau sydd arno er mwyn inni allu ei gefnogi wrth inni adfer o’r pandemig COVID. Bydd ei phrofiad a’i gwybodaeth helaeth yn gymorth enfawr inni yn ystod y cyfnod hwn a dw i’n edrych ymlaen at weithio gyda hi.”

Nodiadau i olygyddion

Sue Tranka Bio

Sue Tranka is a nurse and NHS Trust Manager in the NHS in England, and is now the Chief Nursing Officer - Nurse Director NHS Wales in the Welsh Government. She has been the Deputy Chief Nursing Officer for Patient Safety and Innovation at NHS England and Improvement since January 2020 and has held the Director of Infection prevention and control role leading the national team in their response to supporting guidance development, implementation and remobilisation of NHS services. Protecting staff and patients from nosocomial transmission of Covid has been a key focus of her work since the start of the pandemic.

Sue has 29 years of experience in nursing and has spent the last 22 years working in the National Health Service. Sue trained as a midwife, registered general nurse, mental health and community nurse. Sue’s career spans both operational and clinical leadership roles. Her passion for patient safety and quality improvement culminated in her establishing and leading a Critical Care Outreach team in a North London hospital. Sue‘s nurse consultant and leadership roles have predominantly focussed in the safety arena. Sue has a strong interest in quality improvement, human factors and safety systems.

More recently she has held a Board level role as an Executive Chief Nurse in a provider organisation. She was made an honorary visiting professor by the University of Surrey and has established links with Staffordshire University as a professional advisor on Human Factors programmes.

In October 2020, Sue was voted as one of HSJ’s 50 most influential BME people in health.