English icon English

Arweinydd technoleg o'r Unol Daleithiau yn dod â swyddi gwerth uchel i Flaenau Gwent

US tech leader brings high value jobs to Blaenau Gwent

Heddiw, cyhoeddodd Gweinidog yr Economi, Vaughan Gething, y bydd cwmni technoleg o America a leolir ar y cwmwl, SIMBA Chain, yn sefydlu canolfan yng Nglynebwy yn dilyn cymorth gan Lywodraeth Cymru drwy ei rhaglen y Cymoedd Technoleg, gan greu 26 o swyddi medrus â chyflog da.

Cafodd SIMBA Chain ei sefydlu yn 2017 gyda grant i ddatblygu platfform negeseuon a thrafodion diogel, na ellir ei hacio, ar gyfer lluoedd arfog yr Unol Daleithiau, ac mae’r cwmni wedi sefydlu ei hun yn gyflym fel arweinydd yn ei faes.

Erbyn hyn, mae ganddo gontractau gwerth uchel gydag Adran Amddiffyn yr Unol Daleithiau, Llu Awyr yr Unol Daleithiau a Llynges yr Unol Daleithiau, a chredir efallai mai SIMBA Chain fydd y cwmni uncorn cyntaf i ddod o Brifysgol Notre Dame. Byddai hyn yn ei weld yn cael prisiad o $1 biliwn.

Bydd symud i Gymru yn golygu y bydd y busnes yn elwa ar gyllid o £737,000 i sicrhau bod 26 o swyddi newydd, medrus â chyflog da yn cael eu creu. Mae'r cymorth yn rhan o raglen y Cymoedd Technoleg Llywodraeth Cymru, sy’n werth £100 miliwn ac a sefydlwyd i gefnogi swyddi cynaliadwy gwerth uchel, i ddenu buddsoddiadau ac i greu cyfleoedd newydd ym Mlaenau Gwent a'r cyffiniau.

Bydd cymorth gan Lywodraeth Cymru yn cefnogi ymhellach gynlluniau SIMBA Chain i ehangu’n fyd-eang ac i fod yr enw mae pobl yn ei gysylltu â defnyddio technoleg Blockchain yn effeithiol.

Bydd gan y 26 swydd newydd gyflog cyfartalog o £60,000.

Dywedodd Vaughan Gething, Gweinidog yr Economi:

“Drwy ein rhaglen uchelgeisiol, y Cymoedd Technoleg, rydyn ni wedi ymrwymo i ddenu, cefnogi ac ysgogi busnesau technoleg arloesol ym Mlaenau Gwent a'r cyffiniau.

“Rwy'n falch iawn bod SIMBA Chain wedi gweld potensial enfawr yr ardal hon ac wedi penderfynu lleoli ei weithrediadau yn yr ecosystem sy'n gyfoethog o ran technoleg rydyn ni’n ei hadeiladu.

“Hoffen ni weld ffyniant economaidd hirdymor ar gyfer y trigolion, a'r swyddi medrus newydd hyn yw'r union fath o gyfleoedd cyflogaeth rydyn ni am eu cefnogi. Rwy'n dymuno'r gorau i SIMBA yn ei gynlluniau ehangu byd-eang.”

Dywedodd Joel Neidig, Prif Swyddog Gweithredol SIMBA Chain:

“Rydyn ni’n falch o wneud Cymru'n gartref i'n swyddfa ryngwladol gyntaf. Bydd hyn yn helpu i ehangu presenoldeb SIMBA Chain ymhlith corfforaethau, endidau'r llywodraeth, a phrifysgolion sydd am hyrwyddo manteision diamheuol technoleg Blockchain, nid yn unig yn y Deyrnas Unedig, ond ledled Ewrop hefyd.

“Mae'r galw am ein platfform contractau smart Web 3.0 wedi cyflymu'n gyflymach o lawer na’r disgwyl. Mae defnyddwyr ar draws llawer o sbectra wedi croesawu ac wedi dilysu model SIMBA Chain, sy'n symleiddio'r gwaith o ddatblygu contractau smart. Bydd y bartneriaeth hon hefyd yn ein galluogi i fanteisio ar y doniau lleol ym maes technoleg sydd eu hangen arnon ni i gefnogi twf cyflym y cwmni.”

Yr Athro o Brifysgol Caerdydd, Dr Ian Taylor, sy'n cael ei gydnabod ymhlith dylanwadwyr Blockchain gorau'r byd, yw Cyd-sylfaenydd a Phrif Swyddog Technoleg SIMBA Chain. Dywedodd:

“Mae'n anrhydedd creu cyfleoedd yng Nghymru i'r rhai sy’n frwd dros dechnoleg Blockchain. Dyma ddyfodol diogelwch gwybodaeth ddigidol a chreu gwerth, ac yn ffynhonnell gyrfaoedd cyffrous.

“Mae SIMBA Chain yn newid y byd yn llythrennol drwy wneud y dechnoleg hynod gymhleth hon yn hawdd ei defnyddio a’i chymhwyso ar draws pob platfform Blockchain mawr. A minnau wedi fy cael ngeni Nghymru, rwyf mor falch o weld ein cwmni'n sefydlu endid yng Nghymru ac yn helpu i gefnogi economi fywiog newydd yng Nghymru sy’n deall technoleg.”