English icon English

Llywodraeth Cymru: Dim mwy o danwydd ffosil i wresogi cartrefi newydd!

Welsh Government: No more fossil fuels to heat new homes

Bydd y defnydd o danwydd ffosil i wresogi cartrefi cymdeithasol sydd newydd eu hadeiladu yn dod i ben o 1 Hydref wrth i Lywodraeth Cymru ymrwymo i ynni adnewyddadwy a thechnolegau arloesol yn ei safonau adeiladu newydd, a gyhoeddwyd heddiw.

Yr uchelgais yw i ddatblygwyr preifat fabwysiadu ‘Gofynion Ansawdd Datblygu Cymru 2021 - Mannau a Chartrefi Prydferth’, erbyn 2025.

Bydd angen cyrraedd y safonau effeithlonrwydd ynni uchaf i leihau'r defnydd o garbon yn ystod y broses adeiladu cartrefi a phan fydd pobl yn byw ynddynt. Yn ogystal â safonau gofod blaenllaw'r sector, bydd angen i ddatblygwyr ystyried ailgylchu a storio gwastraff bwyd o dan y rheolau newydd. Ar hyn o bryd mae Cymru yn drydydd ymhlith arweinwyr y byd ym maes ailgylchu, ond mae'n ymdrechu i sicrhau dyfodol diwastraff.

Mae'r cam beiddgar hwn yn sail i ymrwymiad Llywodraeth Cymru i adeiladu 20,000 o gartrefi carbon isel o ansawdd uchel i'w rhentu dros y pum mlynedd nesaf. Bydd tai cymdeithasol a adeiladwyd gyda chyllid Llywodraeth Cymru yn arloesi o ran y safonau newydd.

Mae'r rheolau newydd yn arwyddocaol o ran ymateb Llywodraeth Cymru i'r argyfwng hinsawdd ac ymrwymiad i leihau allyriadau er mwyn cyrraedd y nod uchelgeisiol ‘carbon sero-net erbyn 2050’. Yng Nghymru, mae allyriadau preswyl yn cyfrif am 10% o'r holl allyriadau carbon.

Y tu hwnt i dargedau carbon isel, mae'r safonau hefyd yn ei gwneud yn ofynnol i eiddo newydd fod yn ‘barod ar gyfer gigabit’, sy'n golygu bod band eang ffeibr optig neu dechnoleg ddiwifr gigabit ar gael, ochr yn ochr â dewis o ddarparwyr gwasanaethau rhyngrwyd. Lle nad yw hyn ar waith ar hyn o bryd, rhaid darparu seilwaith er mwyn ei gwneud yn bosibl ei osod yn y dyfodol heb darfu.

Mae'r newidiadau hyn yn arbennig o amserol yn dilyn y pandemig, pan welwyd yr angen i lawer o'r wlad ddysgu a gweithio gartref, gan eu bod yn cydnabod dyfodol o ran gweithio hyblyg.

Mae'r safonau newydd hefyd yn ffafrio dylunio da a lle hael fel bod pobl yn byw'n dda yn eu cartrefi.

Nod hyn nid yn unig yw hybu lles a chadw cymunedau gyda'i gilydd, ond i ymateb i anghenion newidiol trigolion, megis digon o le i sicrhau y gellir hwyluso addasiadau i bobl hŷn a phobl anabl. 

Mae dulliau adeiladu modern, megis defnyddio pren a chartrefi a adeiladwyd mewn ffatri, hefyd yn cael eu hyrwyddo yn y canllawiau newydd.

Dywedodd y Gweinidog Newid Hinsawdd Julie James:

“Mae ein safonau adeiladu ‘Mannau a Chartrefi Prydferth’ newydd yn dangos y camau beiddgar ac uniongyrchol yr ydym yn eu cymryd wrth ymateb i'r argyfwng hinsawdd. Bydd y ffordd yr ydym yn byw ac yn gwresogi ein cartrefi dros y blynyddoedd nesaf yn ganolog wrth gyrraedd ein nodau sero-net.

“Mae lleihau effeithiau gwaethaf newid hinsawdd yn fater o gyfiawnder cymdeithasol, ond felly hefyd mae sicrhau bod pobl yn gallu cael gafael ar y rhyngrwyd yn eu cartrefi, a chael digon o le i fyw'n dda. Mae'r safonau hyn yn sicrhau bod yr holl dargedau hyn yn cael eu cyrraedd gan eu bod yn adlewyrchu ein ffyrdd modern o fyw a newidiadau o ran anghenion ffordd o fyw.

“Gan ddefnyddio dulliau adeiladu a dylunio arloesol, mae gennyf bob hyder y bydd y sector tai cymdeithasol yn arloesi o ran y safonau uchelgeisiol, wrth iddynt gyflawni ein haddewid i adeiladu 20,000 o gartrefi carbon isel i'w rhentu dros y pum mlynedd nesaf."

Dywedodd Clarissa Corbisiero, Cyfarwyddydd Polisi a Materion Allanol a Dirprwy Brif Wetihredydd Cartrefi Cymunedol Cymru:

“Mae’r safonau hyn ar gyfer tai cymdeithasol yn rhoi Cymru ar flaen y gad gyda mesurau i sicrhau y gall y sector tai chwarae ei ran lawn wrth fynd i’r afael â’r argyfwng hinsawdd. Byddant yn golygu biliau ynni is i denantiaid, yn ogystal â chynyddu gofod a mynediad i fand eang cyflym. Roeddem yn glir yn ein maniffesto a gyhoeddwyd cyn yr etholiadau i Senedd Cymru eleni fod y rhain i gyd yn flaenoriaethau allweddol i gymdeithasau tai yng Nghymru, a chroesawn y cam hwn i greu cartrefi sy’n addas ar gyfer y dyfodol.

“I gefnogi cymdeithasau tai i gyflawni’r ymrwymiadau hyn, mae’n rhaid i Lywodraeth Cymru sicrhau fod y buddsoddiad uchel diweddar mewn tai cymdeithasol yn parhau ac yn canolbwyntio ar y technolegau a’r deunyddiau newydd sydd eu hangen i adeiladu cartrefi fforddiadwy ansawdd da yn gyflym ac ar y raddfa sydd ei hangen.”

--DIWEDD—