- Cwcis sydd wir eu hangen
Cwcis sydd wir eu hangen
Mae rhai o’n cwcis yn hanfodol ac ni fydd rhannau o’r safle’n gweithio hebddynt. Mae hyn yn cynnwys cofnodi eich dewisiadau cadw cwcis.
04 Medi 2021
Mae cwsmeriaid Trafnidiaeth Cymru (TrC) yn cael eu hannog i wirio manylion eu taith gan y bydd mwy o wasanaethau trên yn rhedeg o fis Medi 2021.
O ddydd Llun 13 Medi, bydd amserlenni rheilffyrdd newydd ar waith ar draws rhwydwaith TrC Cymru a'r Gororau. Bydd y newidiadau hyn yn gweld cynnydd cyffredinol o 8.5% mewn gwasanaethau. Hefyd, bydd dau drên pellter hir 'Mark IV' o ansawdd uchel yn cael eu cyflwyno i wasanaethau teithwyr, gan gynnwys y gwasanaethau arlwyo a lluniaeth hefyd.
Er na fydd y newidiadau yn effeithio ar amseroedd llawer o wasanaethau, dylai cwsmeriaid barhau i sicrhau eu bod yn gwirio eu hamseroedd gadael, cyrraedd a chysylltu yn drylwyr.
Dywedodd Colin Lea, Cyfarwyddwr Cynllunio a Pherfformiad Trafnidiaeth Cymru: “Er mwyn cyflwyno mwy o wasanaethau ar ein rhwydwaith, bu’n rhaid i ni addasu rhywfaint ar ein hamserlen. Mae hyn yn golygu ei bod yn bwysig iawn bod cwsmeriaid yn gwirio manylion eu taith cyn teithio.
“Rydyn ni'n disgwyl y bydd mwy o bobl yn defnyddio ein gwasanaethau, felly bydd ein teclyn Gwirio Capasiti yn ddefnyddiol iawn i helpu cwsmeriaid gynllunio i deithio pan fydd gwasanaethau'n dawelach.
“Ers llacio cyfyngiadau, rydym yn falch iawn ein bod wedi gallu croesawu llawer o gwsmeriaid yn ôl. Mae teithio ar drafnidiaeth gyhoeddus yn well i'r amgylchedd, ac mae llawer o bobl wedi cael eu hynysu ers amser maith. Rydyn ni'n hapus dros ben bod pobl yn dychwelyd i ddefnyddio opsiynau teithio mwy cynaliadwy.”
Atgoffir cwsmeriaid bod gwisgo gorchudd wyneb tra ar drafnidiaeth gyhoeddus yn parhau i fod yn ofyniad cyfreithiol yng Nghymru, oni bai eu bod wedi'u heithrio. Rhaid gwisgo gorchudd wyneb hefyd mewn gorsafoedd caeëdig.
Rhaid i gwsmeriaid brynu tocyn dilys cyn defnyddio un o wasanaethau TrC. Gellir gwirio manylion y daith a phrynu tocynnau yma.
Nodiadau i olygyddion
Newidiadau i’r Amserlen:
Gwasanaethau'r Cymoedd: Cynyddu'r gwasanaethau i Dreherbert, Merthyr Tudful ac Aberdâr i ddau yr awr a gwasanaethau ychwanegol i Ystrad Mynach a Bargoed.
Ynys y Barri / Penarth: Cynyddu'r gwasanaeth i Ynys y Barri i dri yr awr a chynyddu'r gwasanaeth i Benarth i bedwar yr awr.
Llinell y Ddinas / Llinell Coryton: Cynyddu’r gwasanaeth i ddau yr awr. Oherwydd gwaith adfer hanfodol i bont reilffordd yng nghanol y ddinas, ni fydd unrhyw wasanaethau uniongyrchol rhwng Coryton a Radur (* ac eithrio gwasanaeth uniongyrchol 07:45 Coryton i Radur a 14:59 Radur i Coryton ddydd Llun - dydd Gwener). Bydd gwasanaethau'n rhedeg rhwng Coryton a Bae Caerdydd a rhwng Radur a Chanol Caerdydd. Gellir defnyddio gwasanaethau eraill i gysylltu rhwng Caerdydd Heol y Frenhines a Chaerdydd Canolog.
Gwennol Bae Caerdydd: Bydd y gwasanaeth 08:07 o Caerdydd Heol y Frenhines i Fae Caerdydd a'r gwasanaeth 08:14 o Fae Caerdydd i Caerdydd Heol y Frenhines yn rhedeg fel gwasanaeth bws yn lle trên - ddydd Llun - dydd Gwener.
Caergybi - Caerdydd: Bydd gwasanaethau uniongyrchol rhwng Caergybi a Chaerdydd yn cael eu hailgyflwyno, gan gynyddu gwasanaethau ar hyd y Gororau rhwng Caerdydd a'r Amwythig. Bydd gwasanaeth 16:50 Caergybi i Gaerdydd hefyd yn galw ym Mae Colwyn, y Rhyl, Abergele, Prestatyn a'r Fflint.
Stopiau Gwasanaeth Ychwanegol: Bydd mwy o wasanaethau yn stopio yn Prees ac Yorton a bydd gwasanaethau dydd Sul yn stopio mewn gorsafoedd lleol rhwng Amwythig a Birmingham.
Wrecsam i Bidston: Bydd gwasanaeth 12:34 Wrecsam Cyffredinol i Bidston, 13:34 Bidston i Wrecsam Cyffredinol yn rhedeg fel gwasanaeth bws yn lle trên ddydd Mawrth - dydd Iau, oherwydd hyfforddiant hanfodol i yrwyr.
Lein y Cambrian: Bydd gwasanaethau bws yn lle trên yn rhedeg rhwng Pwllheli a Machynlleth, oherwydd gwaith adfer hanfodol Network Rail i Draphont Abermaw. Bydd lleoliadau arosfannau bysiau yn lle trên yn newid mewn rhai gorsafoedd er mwyn gwella amseroedd teithio a bydd amserlenni bysiau yn amrywio trwy gydol y cyfnod hwn, oherwydd gwaith ffordd yn yr ardal.
Bydd yr amserlenni newydd yn ddilys tan ddydd Sadwrn 11 Rhagfyr 2021.
Mae'r teclyn Gwirio Capasiti yn defnyddio data defnyddio a gipiwyd yn ddienw ar drenau, sy'n gofyn am wythnos o ddata cyn y gall ragweld defnydd ar wasanaethau newydd neu ddiwygiedig. Felly, am wythnos gyntaf yr amserlenni newydd, gall rhai gwasanaethau ymddangos yn 'llwyd' gan na fydd unrhyw ddata ar gael yn ystod y cyfnod cychwynnol hwn.