English icon English
FM visit for PPE donation to Namibia

Anfon £7.2m o gyfarpar diogelu personol o Gymru i Namibia

£7.2m of PPE equipment sent from Wales to Namibia

Mae Cymru yn darparu cyfarpar diogelu personol (PPE) i Namibia i atgyfnerthu’r frwydr fyd-eang yn erbyn COVID-19.

Mae gwerth dros £7m o fasgiau, gynau a hylif diheintio dwylo, nad oes mo’u hangen yng Nghymru, yn cael eu rhoi ynghyd â grant gwerth £500,000 ar gyfer cyfarpar ocsigen a hyfforddiant nyrsys.

Mae Namibia yng nghanol trydedd don o’r pandemig ar hyn o bryd ac mae’r drydedd don hon wedi amlygu diffygion difrifol y seilwaith iechyd yno.

A hwythau â phoblogaethau tebyg yn fras, mae perthynas dda rhwng y ddwy wlad wedi’i hen sefydlu. Mae gan Gymru gysylltiadau cryf â Namibia, gan gefnogi gwaith i drechu tlodi a chynorthwyo’r gwasanaethau iechyd yn ystod y pandemig.

Mae’r pecyn yn cynnwys dros 1.1m o fasgiau wyneb, 500,000 o ynau, 100,000 o ffedogau amddiffynnol a gwerth dros £1m o hylif diheintio dwylo.

Bydd Cymru hefyd yn rhoi £500,000 ar gyfer cyfarpar ocsigen hanfodol a hyfforddiant nyrsys drwy raglen Cymru ac Affrica Llywodraeth Cymru.

Mae gan Namibia broblem ddifrifol o ran cyflenwad ocsigen a diffyg pobl sydd â’r sgiliau i ddarparu ocsigen i achub bywydau’r rhai sy’n ddifrifol wael.

Bydd y cyfarpar yn cael ei roi drwy Brosiect Phoenix Prifysgol Caerdydd ac mae’n dilyn grant yn gynharach eleni gwerth £125,000 a roddwyd i godi ymwybyddiaeth o’r angen am frechu yn erbyn y coronafeirws yn Namibia.

Cyfarfu’r Athro Kenneth Matengu o Brifysgol Namibia â’r Prif Weinidog Mark Drakeford ym mis Mehefin i drafod y grant.

Yn y cyfarfod, rhoddodd yr Athro Matengu ddisgrifiad dirdynnol o’r sefyllfa ddychrynllyd yn Namibia, gyda staff o’r Brifysgol yn marw’n ddyddiol a’r ysbytai’n methu ag ymdopi.

Ar ôl y cyfarfod, gofynnodd y Prif Weinidog i GIG Cymru a oedd unrhyw gyfarpar diogelu personol a allai gael ei anfon i Namibia.

Dywedodd y Prif Weinidog, Mark Drakeford:

“Rwyf wedi clywed yn uniongyrchol o Namibia am y sefyllfa eithriadol o anodd yno yn y frwydr yn erbyn COVID-19.

“Mae dyletswydd arnon ni i helpu’r rhai mewn angen ac rwy’n falch bod Cymru yn camu ymlaen i frwydro yn erbyn bygythiad byd-eang y coronafeirws.

“Bydd Cymru yn sefyll ochr yn ochr â Namibia a byddwn ni’n gwneud popeth o fewn ein gallu i’w cefnogi drwy’r cyfnod anodd hwn.”

Yn ystod y pandemig, mae GIG Cymru wedi gweithio’n galed i ddatblygu cadwyni cyflenwi cryf a chyflenwadau wrth gefn o gyfarpar diogelu personol. Mewn rhai achosion, mae gofynion o ran maint lleiaf archebion wedi golygu bod cyflenwadau wedi mynd y tu hwnt i’r hyn sydd bellach ei angen i ddiogelu Cymru, gan gynnig cyfle i gefnogi ein partneriaid mewn gwledydd yn Affrica.

Dywedodd yr Athro Judith Hall o Brifysgol Caerdydd ac Arweinydd Prosiect Phoenix: 

“Mae Cymru ac Affrica, rhaglen datblygu rhyngwladol Llywodraeth Cymru dan arweiniad y Gweinidog Cyfiawnder Cymdeithasol Jane Hutt, yn brosiect arbennig ac yn esiampl i’r byd o’r math hwn o brosiect. Mae Prosiect Phoenix yn falch iawn o fod yn danfon y cyfarpar diogelu personol ac yn rheoli’r grant ocsigen ar ran Llywodraeth Cymru. Mae gan Namibia broblem ddifrifol o ran cyflenwad ocsigen a diffyg pobl sydd â’r sgiliau i ddarparu ocsigen i achub bywydau’r rhai sydd â haint COVID-19 difrifol. Bydd y cyfraniadau hyn yn gwneud gwahaniaeth enfawr a chynaliadwy i bobl Namibia ac yn y tymor byr bydd yn achub miloedd o fywydau.”

Mae Prosiect Phoenix yn gweithio gydag asiantaethau yn Namibia ar brosiectau hybu iechyd, lleddfu tlodi a diogelu’r amgylchedd.